Mark Isherwood: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau yng Nghymru? (OAQ51057)
Mark Isherwood: Diolch i chi am hynna. Pan godais, yn gynharach eleni, yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, pryder a fynegwyd gan bedwar heddlu Cymru na allent gael mynediad at yr ardoll brentisiaeth a'r £2 filiwn yr oeddent yn ei dalu i mewn iddo, atebodd y Gweinidog dros sgiliau y byddai Llywodraeth Cymru, yn hytrach, yn gwneud trefniadau grant neu gontract, mewn deialog gyda'r Coleg Plismona, a...
Mark Isherwood: Diolch yn fawr am eich datganiad. Rydych yn cyfeirio at sefydlu grŵp llywio trafnidiaeth i ddatblygu rhaglen waith ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru, gan gyfeirio at amryw o bartneriaid yng ngogledd Cymru, Glannau Mersi a Swydd Gaer. Wrth gwrs, mae gweithgor eisoes yn bodoli, a grëwyd trwy Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a'u partneriaid. I ba...
Mark Isherwood: Codwyd yr holl gwestiynau gyda mi gan aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru a'r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, yr wyf yn ei gadeirio. Mae'r cynllun cyflenwi niwrolegol diwygiedig yn cydnabod bod canllawiau cenedlaethol yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld gofal effeithiol i bobl â chyflwr niwrolegol, ac mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Gofal Rhagoriaeth wedi...
Mark Isherwood: Fel y dywed ein hadroddiad, mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gosod masnachfraint am y tro cyntaf yn her fawr, ac fel y dywed ymateb Llywodraeth Cymru, ‘Mae teithwyr yn disgwyl gwasanaeth effeithlon o ansawdd uchel sy’n fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb.’ Yn yr ymateb hwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn datgan, pe bai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod adran 25 o Ddeddf Rheilffyrdd...
Mark Isherwood: A ydych yn cydnabod bod nifer o fanciau a chymdeithasau adeiladu cydfuddiannol, dielw hefyd wedi methu am yr un rhesymau â rhai o’r banciau mwy o faint sy’n gwneud elw?
Mark Isherwood: Tair wythnos yn ôl, roeddwn i’n bresennol mewn cyfarfod yn Wrecsam gyda llysgennad Gwlad Pwyl o Lundain, y prif gonswl o Fanceinion, cynrychiolydd y cyngor, gwahanol asiantaethau a oedd yn bresennol, ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr o’r cymunedau Pwylaidd a Phortiwgeaidd, yn trafod sut y gallem ni ddatblygu canolfan gyswllt. Yn yr achos hwn, siaradodd conswl Gwlad Pwyl am y ffaith y...
Mark Isherwood: Wrth gwrs, yn 2010, diffyg cyllideb y DU oedd y gwaethaf yn y G20, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE. Er, pe byddem wedi ceisio cynyddu'r diffyg yn gyflymach, byddem wedi gorfod wynebu toriadau mwy. Pe byddem wedi ceisio lleihau'r diffyg yn arafach—mae’n ddrwg gen i, y ffordd arall. Pe byddem wedi cynyddu'r diffyg drwy wario mwy, byddai ein dyled wedi cynyddu. Pe byddem...
Mark Isherwood: Nid yw nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn yng ngogledd Cymru wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, er y cynnydd yn y boblogaeth, a bod nifer y contractau meddygon teulu wedi treblu, ac mae nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yng ngogledd Cymru wedi bod ar y lefel isaf erioed ers degawd bellach. Yn y Cynulliad dair blynedd yn ôl, galwodd pwyllgor meddygol lleol...
Mark Isherwood: Yn ystod fy nghyfarfod—[Anghlywadwy.]—gyda darparwyr cludiant cymunedol yn Sir y Fflint, fe ddywedasant wrthyf eu bod wedi gwrthwynebu pwysau i ymgymryd â rhai llwybrau masnachol, a bod y cyngor wedyn wedi comisiynu cynlluniau peilot gan ddarparwyr masnachol nad oeddent yn teimlo y byddent yn hyfyw wedi i’r cynlluniau peilot ddod i ben. Dywedasant wrthyf hefyd fod Llywodraeth Cymru...
Mark Isherwood: Yr wythnos hon yw Wythnos Gofal Hosbis 2017, sy’n dathlu 50 mlynedd ers i’r Fonesig Cicely Saunders sefydlu’r mudiad hosbis yn y DU a’r nifer o agweddau ar ofal hosbis, gan godi ymwybyddiaeth pawb sy’n gysylltiedig, o nyrsys i wirfoddolwyr, cogyddion i gaplaniaid, pobl sy’n codi arian i ofalwyr. Roedd hosbisau ledled Cymru yn gofyn i bobl ddangos eu cefnogaeth drwy wisgo melyn...
Mark Isherwood: Wel, ceisiaf gadw at yr adroddiad, sy’n nodi bod pryderon ynglŷn â goblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru yn canolbwyntio ar dri maes: y bydd ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn dadleoli traffig o borthladdoedd Cymru i’r rhai yn Lloegr a’r Alban drwy Ogledd Iwerddon; y bydd unrhyw drefniadau tollau newydd yn creu heriau o ran technoleg a logisteg i’n...
Mark Isherwood: Ar y TG, fe gofiwch, sawl mis yn ôl, fod Irish Ferries wedi dweud wrthym eu bod, ymysg eraill, yn trafod â Chyllid a Thollau EM ynglŷn â datrysiadau TG. Oni fyddech chi, fel fi, yn gobeithio, erbyn hyn, y byddai Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â hyn er mwyn sefydlu pa ddatrysiadau TG oedd yn cael eu hystyried gan Gyllid a Thollau EM, fel y corff a fydd yn penderfynu ar hyn yn y pen draw?
Mark Isherwood: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi recriwtio swyddogion yr heddlu yng Nghymru? (OAQ51187)
Mark Isherwood: Diolch, a dyna pam y dewisais i’r gair 'cefnogi'. Dair wythnos yn ôl, mynegais bryder gyda chi a fynegwyd gan y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a phedwar prif gwnstabl yng Nghymru y gallai eu hanallu i gael mynediad at y £2 filiwn a dalwyd i'r ardoll brentisiaeth arwain at lai o swyddogion yr heddlu, a darpar recriwtiaid yn ddewis ymuno â lluoedd Lloegr yn lle hynny. Cadarnhawyd...
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb 2017, gadewch inni gydnabod y caiff trosedd casineb ei diffinio fel trosedd y tybir mai’r cymhelliant yw casineb neu ragfarn tuag at rywun yn seiliedig ar briodwedd bersonol. Mae'r ddadl hon gan Lywodraeth Cymru yn galw arnom ni i nodi'r cynnydd a wnaed o ran fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r...
Mark Isherwood: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r manteision sy'n dod i Gymru o ganlyniad i fynediad i ddyfrffyrdd? (OAQ51188)
Mark Isherwood: Diolch. Ym mis Medi 2017, canfu diweddariad i’r adroddiad ‘The value to the Welsh economy of angling on inland fisheries in Wales’, a gynhyrchwyd gan Ymgyrch Mynediad Cynaliadwy Cymru, fod genweirio ar bysgodfeydd mewndirol o dan y trefniant presennol ar gyfer mynediad i afonydd Cymru yn cynnal oddeutu 1,500 o swyddi yng Nghymru a £45 miliwn mewn incwm aelwydydd bob blwyddyn. Mae...
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. Fel y byddwch yn gwybod, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar ddechrau’r mis y buasai £10 biliwn yn ychwanegol ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu, er mwyn ysgogi adeiladu cartrefi newydd a chymell 135,000 yn fwy o bobl i fynd ar yr ysgol dai, gyda manylion y cynlluniau llawn i’w cynnwys yng nghyllideb y DU ar 22 Tachwedd. O ystyried bod Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi...
Mark Isherwood: Wel, rwy’n siomedig, yn amlwg, ond rwy’n gobeithio y byddwch yn mynd ar drywydd hynny, o ystyried nad arian bloc arferol yw hwn ond cyllid benthyciadau ailgylchadwy—os bydd yn cael ei gyllido ar yr un sail; wrth gwrs, nid ydym yn gwybod eto. Gan symud ymlaen o dai i gymorth sy’n gysylltiedig â thai, wrth gwrs, ar ddiwedd y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £10 miliwn y...