Bethan Sayed: Yn amlwg, gyda newyddion heddiw mai Port Talbot yw'r lle mwyaf llygredig yng Nghymru, rydym yn credu bod cael ffocws carbon isel yn y fargen ddinesig yn hollbwysig. Os nad yw'n wir heddiw, roedd yn wir pan sefydlwyd y fargen hon, ac un o'r rhaglenni, fel rhan o'r fargen, yw cartrefi fel gorsafoedd pŵer, sy'n fuddsoddiad mawr. Felly, sut rydych yn bwriadu darparu arweinyddiaeth ryngwladol er...
Bethan Sayed: 1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OAQ52084
Bethan Sayed: Diolch am yr ateb hwnnw. A oes modd i chi amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu yw goblygiadau potensial y comisiwn? Rydw i ar ddeall bod y gwaith yn digwydd ar hyn o bryd, ond a oes gennych chi gysyniad o’r hyn rydych chi eisiau ei gael mas ohono fe? Er enghraifft, a fyddech chi eisiau datganoli cyfiawnder yn y dyfodol? Un o’r problemau sydd yn fy meddwl i—rwy'n credu...
Bethan Sayed: 7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r rhwystrau cyfreithiol sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag ceisio datganoli pwerau deddfwriaethol sy'n ymwneud â lles a diogelwch cymdeithasol? OAQ52097
Bethan Sayed: Diolch ichi am yr ymateb. Ac fel sydd wedi bod yn thema i'r cwestiynau heddiw, yr wythnos diwethaf, gwnaeth eich Llywodraeth gytundeb gyda'r Ceidwadwyr yn San Steffan, lle y cytunoch chi gyda hwy yn y bôn, ac ymddiried ynddynt i beidio ag ymyrryd mewn materion datganoledig ar bwerau sy'n dychwelyd o Frwsel. Ac eto, dro ar ôl tro yn y Senedd hon, ac mewn mannau eraill, mae Aelodau o'r...
Bethan Sayed: Ddoe, estynnodd Donald Trump ei derfyn amser ar gyfer penderfynu a fydd yn parhau i eithrio gwledydd yr UE rhag ei dariffau 25 y cant ar ddur ac alwminiwm sy'n mynd i mewn i'r Unol Daleithiau ai peidio. Ni ddylem danbrisio'r ansicrwydd i fusnes a'r farchnad y gall tariffau a rhwystrau masnach eu creu i ddiwydiannau o bob math, ond yn enwedig i ddiwydiannau sy'n dibynnu ar allforion...
Bethan Sayed: Yn amlwg, fel yr amlinellodd Rhianon, mae gennym adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir ar gerddoriaeth mewn addysg, felly nid wyf am ddatgelu gormod am hynny, ond gwn ei fod yn ddarn cynhyrchiol o waith ac yn rhywbeth y mae'r cyhoedd wedi cymryd rhan lawn ynddo am fod hwn yn bwnc hynod bwysig. Nid oes angen imi ddweud wrth yr ACau yma ynglŷn â fy angerdd ynglŷn â hyn, gan fy mod yn...
Bethan Sayed: Mae'n ddrwg gennyf.
Bethan Sayed: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Bethan Sayed: Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch am y rhaglen dysgu creadigol mewn ysgolion, ond yr hyn a glywsom o dystiolaeth i'n pwyllgor oedd nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad o gwbl â gwasanaethau cerdd ac mewn gwirionedd, nad oeddent yn gallu gwneud cais am unrhyw ran o'r cynllun hwnnw. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, yn y dyfodol, a fyddech yn gallu edrych ar ddiwygio'r modd y mae hynny'n gweithio...
Bethan Sayed: Byddwn ni'n cefnogi pasio'r Bil hwn yn y cyfnod olaf heddiw. Rydym yn cydnabod, oherwydd ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fod hwn yn ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth ac rydym yn nodi bod y Bil, ar ei ffurf derfynol, yn ymdebygu, fel y soniodd y Gweinidog, i ddeddfwriaeth debyg a luniwyd yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd. Er y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth lunio'r...
Bethan Sayed: Fel yr amlygwyd gan fy nghyd-Aelod Simon Thomas yn gynharach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar y byddai'n caniatáu pwerau i San Steffan ddeddfu mewn nifer o feysydd sy'n dychwelyd o Frwsel, ac mae pwerau penodol sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yn un ohonynt. Felly, tybed a allwch egluro sut y credwch y gallai hynny effeithio ar ddeddfwriaeth arfaethedig. Tybed a allwch...
Bethan Sayed: Diolch am yr atebion a roddwyd gennych. Hoffwn eglurhad pa un a oeddech yn golygu y byddai Rhosydd Baglan yn cael ei dynnu oddi ar unrhyw restr sydd gennych. Credaf mai dyna sy'n peri'r dryswch. Heb ystyried y trafodaethau ystyrlon, a allwch gadarnhau ar gyfer y cofnod hyd yn oed pe baech, er enghraifft—nid y buaswn yn hapus â hyn—yn llunio rhestr a fyddai'n awgrymu y dylid ystyried...
Bethan Sayed: Rwy'n cael fy nhemtio i fynd ar drywydd hyn eto, ond, na, ni wnaf hynny; ni fyddaf ond yn cythruddo pobl yma. [Chwerthin.] Mae dwy flynedd wedi bod bellach ers sefydlu tasglu'r Cymoedd i fynd i'r afael â thlodi yn y Cymoedd. A allwch roi enghraifft i ni, enghraifft glir, o ran pa un peth, yn rhan o'r trafodaethau hyn, sydd wedi newid polisi'r Llywodraeth ers sefydlu tasglu'r Cymoedd?
Bethan Sayed: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond onid realiti'r sefyllfa yw bod hwn yn gynllun arall gan Lywodraeth Cymru i gicio'r can i lawr y ffordd fel nad oes rhaid i chi ymdrin â chanlyniadau eich diffyg gweithredu ar dlodi ac anghydraddoldeb? Mae gennych gyllideb lai ac nid oes gennych unrhyw reolaeth dros les, ac ymddengys nad oes gan y Llywodraeth hon unrhyw ewyllys o gwbl i hyd yn oed geisio...
Bethan Sayed: Diolch i chi am yr ateb, ond gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth am ychydig funudau, gawn ni? Cymunedau yn Gyntaf—wedi'i ddiddymu, heb unrhyw gynllun newydd yn ei le, fel y gall y gyllideb gael ei harllwys i byllau diwaelod yn y grant cynnal refeniw neu i feysydd eraill sy'n cael trafferth dod o hyd i gyllid ar hyn o bryd, fel y byrddau iechyd. Y strategaeth tlodi plant—wedi'i diddymu,...
Bethan Sayed: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cynnydd presennol ar ddatblygu deddfwriaeth lles anifeiliaid?
Bethan Sayed: Er bod pobl o Gymru yn aelodau o undebau credyd, o gymharu â gweddill Prydain ac Iwerddon, fel rydych chi newydd ddweud, mae aelodaeth yn llawer is na'r gwledydd hynny. Felly, pan wnes i godi'r mater yma gyda chi o'r blaen, gwnes i godi'r cysyniad o gael hwb cenedlaethol i undebau credyd. Ydy, mae arian yn mynd atyn nhw fel unigolion, ond mae yna lot y gallan nhw ei ddysgu o'i gilydd er mwyn...
Bethan Sayed: Diolch. Hoffwn i gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Jack Sargeant ynglŷn â phwysigrwydd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a'r ffaith y gallwn ni, lle y bo'n bosibl, weithio gyda'n gilydd i gynorthwyo ein gilydd. Rwy'n credu roedd hynny'n rhywbeth ddaeth at y bwrdd oddi wrthych chi, felly, diolch i chi, Jack, am hynny. Roeddwn i eisiau ymhelaethu ar y sylwadau a wnaed gan Simon Thomas o ran...
Bethan Sayed: Deallaf fod cynlluniau peilot Tai yn Gyntaf wedi cael eu datblygu ac yn mynd i gael eu datblygu mewn rhannau o Gymru, ac rwy'n croesawu hynny, fel rhan o'r ymrwymiad i fynd i'r afael â digartrefedd, ond mae ymwneud gwasanaethau eraill, gan gynnwys cyfiawnder a gofal iechyd, yn allweddol mewn perthynas â hyn. Felly, beth rydych yn ei wneud i ystyried cyfuno'r cyllidebau? Rwyf wedi...