Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru?
Lynne Neagle: Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod y broses ddiwygiedig ar gyfer gwneud cais am arian i gleifion yng Nghymru yn gweithio'n dda i gleifion yn Nhorfaen?
Lynne Neagle: 4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit heb gytundeb ar sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru? OAQ54420
Lynne Neagle: Diolch. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi, fel finnau, wedi gweld y llythyr a anfonwyd gan nifer o sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys llawer iawn o Gymru, at Brif Weinidog y DU, yn rhybuddio am y pryderon dybryd ynghylch Brexit heb gytundeb. Mae'r llythyr yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn niweidiol i gymdeithas sifil a'r cymunedau y gweithiwn gyda hwy. Mae'r ansicrwydd, y sioc...
Lynne Neagle: Ceir ymgais i wneud y ddadl hon yn ddadl ynglŷn ag un gair a ddefnyddiwyd gan Leanne Wood. Wedi'r cyfan, dyna'r peth symlaf i'w wneud, ond wedyn mae'n haws arestio rhywun sy'n dwyn torth o fara na gofyn pam eu bod yn llwglyd. Mae'n symlach carcharu dynes a gafodd ei gwthio i gyflawni trais yn hytrach na mynd i'r afael â degawdau o reolaeth drwy orfodaeth. Mae'n haws ceryddu dynes o liw na...
Lynne Neagle: Ac ni ddylem anwybyddu'r cefndir i'r anghysondeb hwn, sef y cywair a osodir gan newyddiadurwyr a sylwebyddion o oedran, rhyw a dosbarth penodol. Maent yn rhyfeddol o gyflym i honni bod cydraddoldeb wedi'i gyflawni, er gwaethaf yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Ceir cred ymhlith y dosbarth hwn fod ffeministiaeth yn y DU yn anacronistaidd, ac am hawliau menywod, wel, 'Duw a'n helpo ni i gyd',...
Lynne Neagle: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau yng nghymoedd de Cymru?
Lynne Neagle: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwella cydweithio rhwng y sectorau tai ac iechyd? OAQ54498
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr nad wyf ar fy mhen fy hun yn y Siambr hon yn canfod, bron yn ddieithriad, fod gan yr etholwyr a ddaw i fy ngweld ynghylch problemau tai broblemau iechyd, a phroblemau iechyd meddwl hefyd fel arfer. Mae'n gwbl hanfodol gan hynny fod byrddau iechyd yn gweithio'n rhagweithiol gyda darparwyr tai i ddiwallu anghenion y cymunedau. Yn fy mhrofiad i, gall y gwaith hwnnw...
Lynne Neagle: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch digonolrwydd y dyraniadau cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru?
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Fel yr ydych chi wedi ei gydnabod heddiw, Gweinidog, ac fel y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato, mae gennym ni sefyllfa lle mae un ym mhob pedwar o'n plant ni'n dechrau'r ysgol naill ai dros eu pwysau neu'n ordew. Ac, fel y gwyddoch chi, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus iawn i ddylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn a...
Lynne Neagle: 6. Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y canllawiau newydd ar siarad am hunanladdiad yn cael eu rhoi ar waith ym mhob ysgol yng Nghymru? OAQ54602
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi yn y lansiad a chroesawu'r canllawiau, ond fel y dywedais, wrth gwrs, cam cyntaf yw hwn. Maent yn ganllawiau rhagorol a luniwyd gan yr Athro Ann John, ond ni fyddant ond cystal â'r broses o'u gweithredu. Tybed hefyd a ydych yn ymwybodol o ganllawiau a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, a nododd y dylid trin un achos o...
Lynne Neagle: 2. Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn gallu cael triniaethau newydd ar gyfer canser? OAQ54603
Lynne Neagle: Weinidog, bûm yn lleisio pryderon wrthych am y broses gyllido cleifion unigol drwy gydol eich amser fel Gweinidog. Bûm yn gwneud yr un peth â'ch rhagflaenydd a'r un peth gyda'i ragflaenydd yntau hefyd. Mae gan fy etholwr, Gemma Williams, mam ifanc â dau o blant ifanc, ganser y fron cam 3. Mae ei honcolegydd yn awyddus i'w thrin gyda Kadcyla i atal y clefyd rhag gwaethygu. Fel y rhan fwyaf...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllido ysgolion yng Nghymru. Mae mynediad at addysg o ansawdd uchel yn hawl sylfaenol i'n plant a'n pobl ifanc i gyd. Ni ddylai ddibynnu ar ble rydych yn byw, eich cefndir cymdeithasol na'r iaith rydych yn dysgu ynddi.
Lynne Neagle: Addysg dda yw un o'r blociau adeiladu pwysicaf y gall plentyn ei gael. Fodd bynnag, yn llawer rhy aml clywn am y pwysau enfawr y mae ysgolion yn ei wynebu wrth geisio rheoli eu cyllidebau lle nad yw'r cyllid a gânt yn ddigonol. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth addysg, gan gynnwys ysgolion yn gorfod cwtogi ar nifer y staff er mwyn mantoli eu cyllidebau. Roedd...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma a diolch i'r Gweinidog am ei chyfraniadau? Fe geisiaf ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelodau yn y ddadl. Suzy Davies, yn amlwg, fe gefnogoch chi ragosodiad yr adroddiad. Bu ychydig o anghydweld ynghylch faint o arian sydd gennym yn dod i ni yng Nghymru. Fy nealltwriaeth i yw ei fod...
Lynne Neagle: Diolch, Siân. Roeddwn yn mynd i barhau i ddweud eich bod wedi gwneud y pwynt yn eich araith nad oeddech yn credu y dylai'r adolygiad fod yn rheswm dros aros cyn rhoi mwy o adnoddau tuag at addysg, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog hefyd yn cytuno â hynny. Nid oes unrhyw reswm dros aros. Pwrpas yr adolygiad, a amlygwyd hefyd gan Dawn Bowden, yw fod y pwyllgor...
Lynne Neagle: Yn hollol. Rwy'n credu bod hynny wedi'i dderbyn—ei fod yn ymwneud â chyllido ysgolion, cost rhedeg ysgol, cost addysgu disgyblion unigol a chost y diwygiadau hefyd. A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gefnogaeth i adroddiad y pwyllgor? Cododd David fater cyllid uniongyrchol i ysgolion, fel y gwnaeth Alun Davies. Fel y nododd y Gweinidog, ceir safbwyntiau amrywiol iawn ar hynny. Cawsom...