David Melding: Prif Weinidog, mae Caerdydd wedi cael ei henwi'n ddiweddar fel y ddinas lle dioddefir y mwyaf o straen ym Mhrydain, sy'n ganfyddiad anhygoel. Mae'r adroddiad yn dweud bod pwysau yn y gwaith, pryderon ariannol a phryderon am iechyd yn gadael Prydain yng ngafael epidemig o straen, ac rwy'n meddwl bod llawer ohonom ni'n gweld hyn drwy ein gwaith achos hefyd. Canfu arolwg o 4,000 o oedolion gan y...
David Melding: 1. O ystyried y ffigurau ar gyfer nifer y tai newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a ryddhawyd yn ddiweddar, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam mae nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn yn lleihau? 87
David Melding: O'r mawredd. [Chwerthin.] Weinidog, gadewch i ni atgoffa ein hunain, ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf, sef hyd at fis Medi 2017, sydd newydd fod, mai'r ffigur yw 6,830. Mae hwnnw'n ostyngiad ers y flwyddyn flaenorol, a oedd yn 6,900. Ond gadewch i mi atgoffa pawb yma: eich targed yw 8,700—8,700. Rydych bron â bod 2,000 yn is na hynny, ac mae 10 mlynedd wedi bod ers i'r Llywodraeth hon...
David Melding: A gaf fi ddweud ei bod yn bleser gennyf ymwneud â'r adroddiad hwn? Credaf ei fod yn waith pwysig iawn. Gwelsom beth ymarfer rhagorol, ond yn gyffredinol, mae'n faes polisi cyhoeddus sydd angen ei wella. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar y sector coedwigaeth, oherwydd credaf fod ei bwysigrwydd yn aml yn cael ei anghofio, ar ychydig dros £0.5 biliwn bob blwyddyn. Mae coed yn...
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl hon? Credaf ei fod yn bwnc pwysig iawn mewn gwirionedd ac yn ffordd o fynd i'r afael â'r her dai yng Nghymru. Rwy'n gobeithio ein bod yn datblygu lefel o gonsensws y tu hwnt i'n dulliau confensiynol traddodiadol arferol o adeiladu tai. Roeddwn yn falch iawn, mewn gwirionedd, o sylwi bod hyd yn oed...
David Melding: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ51530
David Melding: Prif Weinidog, rwyf i wedi dweud o'r ochr hon i'r tŷ y byddem ni'n cefnogi'r symudiad i awdurdodau lleol yn adeiladu tai cymdeithasol unwaith yn rhagor pe ystyrid bod honno'n ffordd strategol o wella'r lefel o adeiladu tai. Dim ond 16 o gartrefi gafodd eu cwblhau yn y sector awdurdod lleol y llynedd, 13 o'r rheini mewn un awdurdod, sir y Fflint. Felly, os ydyn nhw'n mynd i ddod yn adeiladwyr...
David Melding: A gaf ddweud bod yr ymgynghoriad hwn a'r ddadl genedlaethol y bydd nawr yn ei hysgogi, gobeithio, i’w croesawu’n fawr? Fi yw’r unig Aelod Cynulliad Ceidwadol sydd wedi gwasanaethu pob Cynulliad hyd yma. Dyma'r pumed, ac, yn y cyntaf, cawsom ddadl am gosbi plant yn gorfforol ar gynnig yr wyf yn meddwl a gynigiwyd gan Christine Chapman ac roedd naw o Geidwadwyr yn y Cynulliad ar y pryd, a...
David Melding: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn gwneud ymyriad byr, ond mae gennyf un prif ymateb, mewn gwirionedd, a hwnnw yw: beth oedd cywair yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gyffredinol? Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, fis Mai diwethaf cafodd cod drafft ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Hyd y gwn i, ni chyhoeddwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rwy'n ymddiheuro os fy methiant TG i yw...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod. Fel Simon, a gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru nawr wedi cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol drafft? Dyma hanner cyntaf y ddadl a fydd yn mynd yn ei blaen yfory pan fyddwn yn trafod rhai o syniadau'r Pwyllgor yn y maes hanfodol hwn. Ac rwy'n gobeithio y bydd y ddwy awr hyn o ddadl yn bwydo i'r broses ymgynghori...
David Melding: Credaf fod y cwestiwn ynglŷn â mynediad yn hollol allweddol, ac mae'n golygu bod cysylltiadau rheolaidd a dibynadwy—rheilffyrdd, bysiau—yn hanfodol. Ond wyddoch chi, mae wedi bod yn broblem wirioneddol yn y gorffennol, ac nid yw'n ymwneud â mynediad at swyddi yn unig, ond at asedau diwylliannol yng Nghaerdydd, a mwynhau'r rheini. Wyddoch chi, mae gan bobl yn y cymoedd gogleddol...
David Melding: 6. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sefyllfa economaidd bresennol y sector adeiladu? OAQ51500
David Melding: Ac i ychwanegu ystadegyn pellach, mae'n cyfateb i 10 y cant o'n cynnyrch domestig gros. Mae wedi gostwng yn ystod y mis diwethaf. Mae adeiladu masnachol a pheirianneg sifil yn arbennig yn wannach, ac mae hyn wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar adeiladu tai. Tybed pa weledigaeth sydd gennych ar gyfer adfywio ac ehangu'r sector adeiladu dros y pedair neu bum mlynedd nesaf, fel rydych wedi'i...
David Melding: A gaf fi ddweud pa mor falch wyf fi ein bod yn cael yr ail o ddwy ddadl ar yr amgylchedd morol yr wythnos hon? Ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dangos y cydweithrediad agos a fydd rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth yn y maes hanfodol hwn o bolisi cyhoeddus, sy'n galw am welliant sylweddol, fel y mae ein Cadeirydd, Mike Hedges, eisoes wedi nodi. Ac a gaf fi ymuno ag ef i ddiolch i bawb...
David Melding: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw? Mae'n bwnc pwysig iawn, ac roedd yn eithaf ingol, yr hyn a ddywedodd Bethan—wrth nesáu at y Nadolig, mae fel un o'r pethau sy'n cael sylw bob blwyddyn, ac mewn gwirionedd, mae angen mwy o uchelgais na hynny. Credaf fod defnyddio eich amser ar gyfer...
David Melding: Wrth gwrs, rwy'n deall pam mae Aelodau'r gwrthbleidiau yn gwneud y pwynt hwn—efallai eich bod yn iawn i wneud hynny, ac yn sicr mae pob hawl ganddyn nhw i —. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i —breuddwyd gwrach. Ac yn sicr, mae gan Blaid Cymru bob hawl i'w wneud. Ond, wyddoch chi, ymladdodd Llafur dros faniffesto 2010 ar yr un rhagamcanion ariannol fwy neu lai â'r rhai a gaiff eu...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi fynd ar drywydd y pwynt hwn ynglŷn â'r rôl y mae plastigion yn ei chwarae yn cynhyrchu cymaint o wastraff a dinistr yn ein hamgylchedd? Cyfeiriwyd at weithred ragorol Iceland, ac fe gynhaliodd yr archfarchnad honno arolwg helaeth iawn cyn cymryd y cam hwnnw mewn gwirionedd, a dywedodd 80 y cant o'r rhai a holwyd y byddent yn cefnogi penderfyniad i beidio...
David Melding: Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod cynllun 25 mlynedd Llywodraeth y DU yn cynnwys addewid i gael gwared ar yr holl wastraff plastig diangen erbyn 2042. Mae ganddynt nod hefyd i gael gwared ar bob gwastraff diangen erbyn 2050. Mae'r olaf—yr holl wastraff diangen erbyn 2050—hefyd yn cael ei gynnwys yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff, ond nid oes unrhyw ddyddiad cynharach ar gyfer...
David Melding: Tybed a oes angen i ni edrych ar raddfa hollol wahanol o ran beth sy'n digwydd. Rydych yn gweld y symud cymdeithasol a masnachol anhygoel hwn tuag at fynd i'r afael â'r broblem, a'r gwleidyddion sydd fymryn ar ei hôl hi, o bosibl, ac yn enwedig Llywodraeth Cymru—yn y maes hwn beth bynnag. Rydym wedi clywed gan Wetherspoon eu bod yn bwriadu gwahardd gwellt plastig a chyflwyno rhai...
David Melding: A gaf fi hefyd ddiolch i chi am drefnu'r cyfarfod yr wythnos ddiwethaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Aelodau sydd â diddordeb? Mae'n bwysig ein bod yn gwneud cynnydd mewn perthynas â thystiolaeth wyddonol a thechnegol. Credaf mai un o'r pethau a allai fod wedi lleddfu pryderon y protestwyr fyddai pe bai gennym ganopi coed mwy helaeth eisoes. Mae'n broblem, wedyn, pan fo'n rhaid i ni, yn...