Andrew RT Davies: Mae gen i ofn nad dyna oedd y datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma yn ei awgrymu. Fel y dywedais, yn ei ddatganiad ysgrifenedig, mae'n dweud mai prin yw’r dystiolaeth o brosiect fel hwn yn cyflawni, ar y niferoedd y soniwyd amdanynt. A dweud y gwir, mae’n sôn am ddarparu dim ond 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn gwirionedd, ar y gylchffordd—rwy’n derbyn...
Andrew RT Davies: Wel, ni fyddwch chi’n darparu’r mwyafrif llethol o swyddi, fel y cynigir yn y cysyniad gwreiddiol, gan fod 6,000 o swyddi arfaethedig yn gysylltiedig â’r prosiect hwn—
Andrew RT Davies: [Yn parhau.]—ac mae'r parc yr ydych chi’n sôn am ei ddarparu â photensial o 1,500 o swyddi gyda rhaglen gyflawni 10 mlynedd ar gyfer y parc hwnnw. Felly, ceir anghysondeb. Ond y pwynt rwy'n ceisio ei wneud yma, Prif Weinidog, yw bod gennych chi’r ysgrifennydd parhaol yn yr adran honno sydd yn gwbl groes i’r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddehongliad. Mae'r dystiolaeth yno, gan y...
Andrew RT Davies: Hoffwn ymateb i hynna, oherwydd pan fyddwch chi’n cyhuddo rhywun o lwfrdra—
Andrew RT Davies: Nid yw’n dderbyniol galw rhywun yn llwfrgi.
Andrew RT Davies: Dim ond i ategu'r sylwadau a gododd yr Aelod dros Ogledd Caerdydd—ac mae llawer o wleidyddion o bob plaid wedi cyfarfod â Tesco. Yr hyn a wnaeth fy nychryn i yr wythnos diwethaf oedd, yn amlwg, gadarnhad Ysgrifennydd y Cabinet na chafodd y Llywodraeth unrhyw rybudd o’r diswyddiadau hyn, neu’r diswyddiadau posibl, oherwydd dyna’r term y mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio oherwydd ei fod...
Andrew RT Davies: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ac, yn wir, i’r Pwyllgor Busnes a'r Llywydd am newid ychydig ar fformat y ffordd y mae’r busnes hwn yn mynd i gael ei drafod y prynhawn yma, er mwyn cael datganiadau/dadleuon a fydd, gobeithio, yn cynnig mwy o gyfle i graffu ar y cynigion y mae’r Llywodraeth wedi’u cyflwyno, a gobeithio cael ymateb llawn gan y Prif Weinidog i’r...
Andrew RT Davies: Ar ôl bron i ddau ddegawd o or-addo a thangyflawni, mae'n dorcalonnus nad oes yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yr uchelgais a’r arloesi sydd eu hangen i wireddu'r newidiadau angenrheidiol. Er mwyn i’n gwlad lwyddo a chyrraedd ei gwir botensial fel lle gwych i fyw a gweithio, a chreu cymdeithas wirioneddol gynhwysol sy'n grymuso pawb, ni waeth o ble’r ydych yn dod a beth yw...
Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae'r Bil wedi’i gefnogi yn eang, a, gobeithio, pan fydd yn cyrraedd y llyfr statud, y bydd yn cyflawni'r nodau a nodir. Ond mae bod mor anghywir ar elfennau cyllidol y Bil yn peri pryder mawr o ystyried yr holl waith sydd wedi ei wneud, fel y cyfeiriais at—adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y mater hwn. Mae'n...
Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu'r cyfle i sefyll yma heddiw a chyfrannu at y ddadl. Weithiau, pan gaiff batiwr ei anfon allan i fatio, mae'n edrych o gwmpas y cae, dim ond i wneud yn siŵr ei fod yn gweld yr holl faeswyr, ac yna mae'n gwneud yn siŵr nad oes dim o'r gwglis yn ei ddal ar yr ochr anghywir. Yn y pen draw, rwy’n gobeithio gallu, yn amlwg, gwneud synnwyr o'r cytundeb a gynigiwyd ddoe yng...
Andrew RT Davies: Mae’r Deyrnas Unedig—[Torri ar draws.] Mae angen Llywodraeth ar y Deyrnas Unedig, a Llywodraeth fwyafrifol, i barhau a bwrw ymlaen â'i busnes. Ac felly, i gyflawni’r statws mwyafrifol hwnnw, yn amlwg gwnaethpwyd cytundeb â’r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, yn debyg i— [Torri ar draws.] Gallaf weld yr Aelod dros Ogwr yn grwgnach yn y fan yna, ond mae'n ffaith bod Shaun Woodward,...
Andrew RT Davies: Cymeraf yr ymyriad mewn munud. Os oes budd wedi mynd drosodd i Ogledd Iwerddon, mae angen inni sicrhau’r buddion hynny yma yng Nghymru. Ac oeddwn, roeddwn yn siarad â Stryd Downing fore ddoe, Brif Weinidog. Tra’r oeddech chi ar y balconi’n siarad â'r BBC, roeddwn i’n siarad â'r bobl sy'n bwysig. Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Dyna'r...
Andrew RT Davies: Hoffwn dynnu eich sylw at yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd Adonis pan oedd yn trafod gyda'r DUP yn 2010, pan ddywedodd ‘Rydym wedi nodi’r rhifau newydd’ wrth sôn am arian—ar gyfer beth oedd y bleidlais DUP ar y pryd. Felly, ni wnawn gymryd unrhyw ddarlithoedd gan Blaid Lafur Cymru na gan y Blaid Lafur ynglŷn â tharo bargeinion o gwmpas sicrhau pleidleisiau. Yr hyn sy'n dryloyw am y...
Andrew RT Davies: Does gen i ddim amser. Yr hyn y byddwn yn ei sicrhau, o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, yw, yn hytrach na chael ein gwthio o'r neilltu, fel y caiff y Prif Weinidog, y byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod yr adnoddau’n cael eu darparu i gyflwyno prosiectau er budd Cymru, bod y wlad hon yn cael y Llywodraeth sefydlog sydd ei hangen i fynd â ni drwy broses Brexit, ac yn y pen draw, y cawn...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae’r gallu i bennu’r canllawiau ar gyfer y nodiadau cyngor technegol a roddir gan Lywodraeth Cymru yn fesur hanfodol bwysig mewn unrhyw system gynllunio. Mae’r rhan y mae cynghorau cymuned a chynghorau plwyf yn ei chwarae wrth benderfynu ar geisiadau yn aml iawn yn cael ei hesgeuluso i raddau helaeth, a cheir diffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut yn...
Andrew RT Davies: Rwy’n cytuno’n llwyr â rhai o’r teimladau a fynegwyd gennych heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hwn yn gyfnod hynod o ofidus i’r 1,100 o weithwyr yn y cyfleuster hwn yng Nghaerdydd, sydd â hanes da iawn dros y 27 mlynedd ers ei sefydlu ym mhrifddinas Cymru. Mae ymroddiad a phroffesiynoldeb y gweithwyr yn haeddu cael eu trin yn well nag a gawsant yr wythnos diwethaf, rhaid i mi...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn amlwg, gwnaeth y Llywodraeth y penderfyniad i beidio â chefnogi datblygiad Cylchffordd Cymru ym Mlaenau'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent. Un o'r cynigion a wnaed oedd, yn amlwg, datblygu parc technoleg modurol a allai o bosibl greu 1,500 o swyddi yn ystod ei oes. Mae'r ardal fenter wedi bodoli ym Mlaenau Gwent ers dros bum mlynedd erbyn...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am eich sylwadau am farwolaeth drasig ein dirprwy bennaeth staff, Ben Davies. Yn wleidyddol, rydym ni wedi ein rhannu yn y Siambr hon, a dyna ddiben y Siambr hon: dadl a thrafodaeth. Ond, mewn gwirionedd, mae’r ysbryd dynol yn ein huno ni oll, ac o safbwynt plaid, o safbwynt grŵp, ac o safbwynt teulu Ben, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi mynegi eu...
Andrew RT Davies: A wnewch chi, felly, felly, Prif Weinidog, gyhoeddi’r holl dystiolaeth yr ydych chi wedi seilio eich penderfyniad arni—y buddsoddiad o £100 miliwn a'r diwydrwydd dyladwy yr ydych chi fel Llywodraeth, rwy’n gobeithio, wedi ei wneud, a'r gallu i fod â hyder y bydd y ffigur swyddi 1,500 yna’n cael ei gyrraedd—fel na fyddwn ni, ymhen dwy, tair neu bedair blynedd, yn edrych yn ôl ar...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad, os gwelwch yn dda, ac rwy’n credu fy mod i wedi gofyn am hyn o'r blaen, ac roedd awgrym y byddai hynny’n digwydd, ond ni chafodd ei roi ar gael, ar y ffordd fynediad ogleddol—byddwch chi’n gyfarwydd â hi—o gwmpas ardal fenter Sain Tathan? Byddwch hefyd yn gyfarwydd iawn â sylwadau a gwrthwynebiadau cryf iawn Cyngor Tref Llanilltud...