Jack Sargeant: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr addysg uwch sy'n dymuno astudio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? OQ57716
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae'r pandemig coronafeirws wedi dangos i bawb ohonom pa mor bwysig ac allweddol yw gweithwyr cymdeithasol, ac os ydym am annog pobl i ymuno â'r proffesiwn gwaith cymdeithasol, rwy'n credu bod angen bwrsariaeth sy'n gydradd â bwrsariaeth y GIG y sonioch chi amdani. Mae pobl sydd am ymgymryd â'r hyfforddiant hwn yn aml yn hŷn ac maent yn aml...
Jack Sargeant: I'r record, dwi'n Gymro balch.
Jack Sargeant: Fel Cymro balch, rwy'n ategu geiriau Rhys ab Owen a'i dad yn yr hyn y mae newydd ei ddweud. Mae hon yn ddadl sydd i'w chroesawu'n fawr heddiw, ac mae'n wych gweld bod y cynnig wedi ei gyflwyno gan holl bleidiau'r Senedd. Rwy'n gobeithio bod Llywodraeth y DU yn gwrando, ac yn gwrando gyda bwriad i sicrhau y gallwn wneud y penderfyniad hwn yma yn ein Senedd ni. Tom Giffard, rydych yn iawn: nid...
Jack Sargeant: Rwy'n datgan buddiant fel aelod o gonsortiwm prosiect 5G y Pwyllgor Datblygu Economaidd—aelod di-dâl, Llywydd. Rydym ni wedi clywed am fanteision cymdeithasol sylfaen ffeibr llawn yn y gogledd, Prif Weinidog, ond mantais arall o gael y rhwydwaith hwnnw yn y gogledd yw'r gallu i fynd ymlaen a datblygu technoleg 5G ar gyfer y dyfodol, mewn cymunedau gwledig sydd efallai yn anodd eu cyrraedd...
Jack Sargeant: Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, Gweinidog. Nid ar y meinciau hyn yn unig y ceir croeso i'r datganiad, rwyf i o'r farn bod y rhan fwyaf o Aelodau'r Siambr yn gwneud felly. Fe wn i fod llefarydd yr wrthblaid yn edrych heddiw fel ei fod yn gwisgo tei a gafodd gan ein plaid ni, ond mae o hyd yn oed yn croesawu'r rhan fwyaf o hyn, fel ein cydweithwyr ni yng Nghyngres yr Undebau Llafur, wrth...
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar i Jayne Bryant am gyflwyno'r cwestiwn hynod bwysig hwn heddiw, ac mae'n iawn, os ydym ni'n mynd i hyrwyddo ynni adnewyddadwy, bod angen i ni edrych ar ble yr ydym ni'n buddsoddi a lle mae eraill yn buddsoddi i ni, ac mae hynny yn rhan allweddol o hyn. Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o ymgyrch gynyddol i symud cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth danwydd ffosil i...
Jack Sargeant: Rwy'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw gan y Dirprwy Weinidog. Mae digon y gallwn ni i siarad amdano y prynhawn yma, ond wnaf i ddim profi amynedd y Llywydd, a gobeithio y gall y Gweinidog a minnau gydweithio yn y maes hwn yn adeiladol yn y dyfodol. Ond os caf i, os gallaf i godi un pwynt penodol yn eich datganiad heddiw, ac mae hynny'n ymwneud â seiberddiogelwch, oherwydd mae'n wir...
Jack Sargeant: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chydweithwyr llywodraeth leol am fuddsoddiadau cynllun pensiwn y sector cyhoeddus awdurdodau lleol?
Jack Sargeant: 3. Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw trigolion Cymru yn wynebu rhwystrau i gyfiawnder? OQ57789
Jack Sargeant: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ac fe fyddwch yn gwybod—. Mae'r ddau ohonom, fel y gŵyr yr Aelodau, yn teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad llawn a phriodol at gyfiawnder. Ac fe fyddwch wedi fy nghlywed sawl tro yn y Siambr hon, Gwnsler Cyffredinol, yn codi anghyfiawnderau sgandal Horizon Swyddfa'r Post, a thrychinebau Hillsborough a Grenfell. Rwy'n...
Jack Sargeant: 4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ar sut mae'n annog cyfranogiad y cyhoedd ym mhwyllgorau'r Senedd? OQ57792
Jack Sargeant: Diolch yn fawr am eich ateb, Gomisiynydd. Rwy’n ddiolchgar am y gwaith y mae’r Comisiwn wedi’i wneud yn ystod y pandemig a’r hyn y mae’n parhau i’w wneud. Os caf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddatgan buddiant yn y fan hon fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwyf am i bobl Cymru ei weld fel eu pwyllgor hwy; hwy sy'n llunio ein hagendâu...
Jack Sargeant: Diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig heddiw. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod dysgu, gan imi ddysgu bod Alun Davies yn arfer bod yn y Llywodraeth, ac rwy'n cytuno â sylwadau’r cyn-Weinidog yn gynharach yn ei gyfraniad ynghylch craffu gan y Senedd hon a’r gwaith pwyllgor y dylai fod yn ei wneud. Efallai fod pob diwrnod yn ddiwrnod dysgu, ond mae hefyd yn wahanol, gan imi...
Jack Sargeant: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi gweithwyr ifanc yng Nghymru? OQ57854
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn ddiweddar, gwnaeth y Resolution Foundation waith ymchwil a ganfu, ar ôl i COVID daro, bod pobl o dan 34 oed yn fwy tebygol o wynebu diweithdra neu waith ansicr. Rwy'n siŵr y bydd ein cyd-Aelod ar draws y Siambr Tom Giffard wedi gweld fy mod i wedi defnyddio fy sianeli cyfryngau cymdeithasol fy hun i estyn allan at bobl ifanc, gan ofyn iddyn nhw am eu...
Jack Sargeant: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy i gael mynediad at ddeintydd GIG? OQ57849
Jack Sargeant: Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Ddoe, eglurodd y Prif Weinidog yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ym maes deintyddiaeth ar hyn o bryd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Ond mae trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn teimlo effaith yr heriau hynny'n fawr, ac maent yn dod ataf, fel eu Haelod etholedig uniongyrchol o’r Senedd, am eu bod yn cael trafferth gweld deintydd y GIG. A wnewch chi...
Jack Sargeant: 4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am drigolion Cymru sydd wedi cael eu diswyddo'n anghyfreithlon gan P&O? OQ57905
Jack Sargeant: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai isafswm cyflog y DU yw £8.91. Y cyflog cyfartalog newydd yn P&O yw £5.50, a chafodd hyn ei gyflwyno ar ôl iddyn nhw ddiswyddo eu gweithlu ffyddlon yn anghyfreithlon heb ymgynghori. Fel y dywed y Prif Weinidog yn gywir, mae hon yn weithred warthus, anghyfreithlon gan benaethiaid P&O, ac mae'n un sy'n annerbyniol i mi. Prif...