Gareth Davies: Mae'n ddrwg gennyf. Bydd rhaid i chi fod ychydig yn amyneddgar gyda mi.
Gareth Davies: —cyfrifiad 2021 yn dangos gostyngiad mewn niferoedd o siaradwyr Cymraeg. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n onest am yr achosion a'r datrysiadau i hyn. Llywodraeth y Ceidwadwyr, o dan reolaeth Margaret Thatcher, wnaeth greu S4C yn 1982, i ddod â'r iaith Gymraeg i gartrefi Cymru yn ogystal â gwneud yr iaith Gymraeg yn gyfartal i Saesneg. Dydy 25 mlynedd o reolaeth Llafur a Phlaid heb ddod â'r...
Gareth Davies: A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch y ddarpariaeth o gartrefi gofal sydd yn sir Ddinbych? Fel soniais i sawl tro yn Siambr y Senedd erbyn hyn, rwyf i'n ymgymryd â rhaglen o ymweliadau â chartrefi gofal yn fy etholaeth i, a'r thema gyffredin sy'n dod i'r amlwg ar hyn o bryd yw'r ffaith bod cartrefi gofal sy'n rhedeg ar, dyweder, er enghraifft, gapasiti o 40/50, ddim ond yn...
Gareth Davies: Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, yn sicr rwy'n ei ystyried yn ddiwrnod arwyddocaol yng nghalendr gwleidyddol Cymru. Tra bod prosiect Llafur a Plaid o wario arian trethdalwyr ar ehangu'r Senedd trwy ddadlau bod ei angen ar gyfer dyfodol Cymru, nid yw'r Llywodraeth yn sicr yn edrych i'r dyfodol drwy dorri cyllid ar gyfer yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yn y...
Gareth Davies: Diolch, Lywydd, a hoffwn ofyn fy nghwestiwn i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y prynhawn yma. Y pwnc rwyf am ei godi heddiw yw marwolaeth drist a thrasig Kaylea Titford o'r Drenewydd ym Mhowys yn 2022. Fel y byddwch yn gwybod, mae'n debyg, Ddirprwy Weinidog, yn ddiweddar cafwyd ei rhieni'n euog o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol. I roi ychydig o gefndir, roedd Kaylea yn...
Gareth Davies: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yr hyn sy'n siomedig yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn amharod i gynnal adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru. Rydym yn dechrau gweld tuedd, Ddirprwy Weinidog, oherwydd gwelsom achos trasig marwolaeth Logan Mwangi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a marwolaeth Kaylea Titford ym Mhowys. Rhieni anfad a achosodd farwolaeth Logan, a rhieni esgeulus a achosodd...
Gareth Davies: Diolch eto am eich ymateb, Weinidog, ond rwyf ychydig yn siomedig, a bod yn onest, Ddirprwy Weinidog, gan na allwn barhau i gladdu ein pennau yn y tywod mwyach ac esgus nad yw'r problemau hyn yn bodoli. Roedd Kaylea Titford yn byw mewn amodau aflan, gyda chynrhon, ysgarthion, llieiniau gwely wedi'u staenio gan wrin a chathetrau heb eu gwacau. Roedd hi'n gaeth i'r gwely oherwydd iddi dyfu'n...
Gareth Davies: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran sicrhau dyfodol hir dymor safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych? OQ59323
Gareth Davies: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. I gynnig ychydig o hanes a chefndir, hen seilam iechyd meddwl yn Ninbych oedd Ysbyty Gogledd Cymru, a gaewyd amser maith yn ôl ym 1995 ar ôl gweithredu'r ddeddf gofal yn y gymuned, a ddaeth i rym yn y 1980au. Ers ei gau, mae wedi bod yn destun llawer o bethau fel ymosodiadau llosgi bwriadol, fandaliaeth ac archwilio trefol. Does ond angen i chi wneud...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad i'r Senedd y prynhawn yma. Rwy'n sylw bod y rhaglen lywodraethu yn amlinellu 10 amcan llesiant y dylai'r holl weithgarwch a ariennir gan y gronfa integreiddio rhanbarthol fod yn ystyriol ohonynt a cheisio cyfrannu atynt, gan gynnwys darparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy. Wel, byddai hynny'n braf, oni fyddai, gan...
Gareth Davies: Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon heno ar adroddiad blynyddol Estyn 2021-22. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n haelodau staff ymroddedig ar hyd a lled y wlad, sy'n gweithio'n galed, o ddydd i ddydd, er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y cyfleoedd dysgu gorau posibl. Dyma adroddiad blynyddol cyntaf Estyn ers dechrau'r pandemig sy'n rhydd, gan fwyaf, o ddylanwadau'r cyfnodau...
Gareth Davies: Rwy’n falch fod y pwnc hwn wedi’i godi'r prynhawn yma. Mae gennyf bryderon dybryd ynghylch datgarboneiddio cronfeydd pensiwn a sut y bydd hynny'n digwydd dros gyfnod parhaus o amser, gan fod llawer o bensiynau’r sector cyhoeddus yn dibynnu ar fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil. Os ydych yn chwilio am ddatganiad o ffaith, yn etholaeth yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy ei hun, yn sir y...
Gareth Davies: Fel arfer rwy'n dechrau fy nghyfraniadau i ddadleuon drwy ddweud, 'Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma', ond heddiw, nid yw hynny'n wir, a chyda chalon drom y cefnogaf y cynnig hwn. Fe rannaf un neu ddau o resymau pam rwy'n dewis pleidleisio dros y cynnig hwn y prynhawn yma. Roeddwn i'n gweithio yn Betsi Cadwaladr fy hun am 11 mlynedd ar y rheng flaen, a gwelais drosof fy...
Gareth Davies: Nid wyf yn derbyn hynny, gan fod iechyd wedi ei ddatganoli i Gymru ers 25 mlynedd. Efallai eich bod wedi sylwi mai fi yw'r Ceidwadwr cyntaf erioed i gynrychioli Dyffryn Clwyd, ac rwy'n credu mai'r unig reswm am hynny yw oherwydd i mi ddosbarthu taflenni etholiad ac ymgyrchu, a fy mhrif flaenoriaeth yn yr ymgyrch honno oedd fy mod i'n mynd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am rai o'r...
Gareth Davies: Nid oes gennyf amser. Rwyf am ddod i ben drwy ddweud nad wyf yn credu bod y Gweinidog wedi cymryd y rôl hon o ddifrif hyd yma. Rwy'n credu y gwnewch chi oroesi'r bleidlais, Weinidog, os yw fy nghyfrifiadau'n gywir, ond yr hyn rwy'n gobeithio amdano, fel rhywbeth bach cadarnhaol at hynny, yw y byddwch chi'n gweld hon fel neges fod angen ichi wella eich gêm, yn y bôn, a'n cymryd ni ar yr...
Gareth Davies: Trefnydd, could I ask for statement this afternoon from the Government in response to the recent Daily Telegraph survey on the town of Rhyl, which claimed it was one of the least desirable seaside towns in Britain to visit, describing it as having 'no past, no arts or entertainment, no fun'? Even in the past, it's been described as 'Costa del Dole' and 'Blackpool after a neutron bomb', which...
Gareth Davies: Last year, Denbighshire welcomed Ukrainian refugees, and I would like to praise my constituents for their generosity to Ukrainians. And I'm pleased that Ken Skates has raised this question today. Equally, I was pleased that the UK, Welsh and local governments worked together to play our part in the war effort. However, some Ukrainian refugees in Denbighshire have decided to leave the area for...
Gareth Davies: 1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd? TQ757
Gareth Davies: I appreciate your response this afternoon, Minister, and I'd like to thank the Llywydd for accepting my topical question this morning. I'm very pleased that it has been accepted as I've read the HIW report into emergency services at Glan Clwyd Hospital today and I'm shocked. I'm shocked that this is the third inspection within a 12-month period and we're seeing scant evidence of any progress...
Gareth Davies: Okay. I'm aware of the structural issues that you've got with the department, so what discussions have you had with the estates team to maximise that capacity and make a safe working environment for all staff and patients? With the staff sickness problems within the department, what liaison have you had with the executives and the individual operational departments to improve the staff...