John Griffiths: Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r gweithfeydd yn Nwyrain Casnewydd, fy etholaeth i, yng ngweithfeydd Orb a Llanwern, yn rhannau pwysig iawn o weithrediadau cyffredinol Tata yng Nghymru. A wnewch chi fy sicrhau y bydd y gweithfeydd hynny yn parhau i gael eu hystyried yn briodol ym meddyliau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru?
John Griffiths: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i wella'r amgylchedd yng nghanol ardaloedd trefol yng Nghymru? OAQ(5)0026(ERA)
John Griffiths: Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod yr amgylchedd ar garreg y drws, fel y’i gelwir, o bwys mawr iawn i lawer o bobl yng Nghymru, o ystyried nifer y bobl sy’n byw yn yr amgylcheddau penodol hynny. Os ydynt yn teimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’u hamgylchedd ac yn ei ystyried yn amgylchedd o ansawdd, rwy’n credu eu bod yn llawer mwy tebygol o fod â diddordeb yn yr...
John Griffiths: Brif Weinidog, un o'r materion y dylid rhoi sylw iddo er mwyn caniatáu i ffoaduriaid yng Nghymru gyfrannu'n llawn at fywyd yma, yw cydnabod yn briodol ac yn ddigonol y sgiliau a'r cymwysterau sydd ganddyn nhw. A wnewch chi gymryd camau i sicrhau bod hynny'n wir am bob ffoadur yma yng Nghymru?
John Griffiths: Ie, yn amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig iawn, iawn bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y penderfyniad pwysig iawn hwn mor gadarn â phosibl. Felly, a gaf i ofyn, wrth ystyried y fethodoleg ddiwygiedig y mae Llywodraeth y DU bellach wedi’i chyhoeddi ynghylch y twf traffig a ragwelir yn y dyfodol, efallai y gallai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried yn ehangach fethodolegau sy'n...
John Griffiths: Brif Weinidog, rwy’n meddwl eich bod wedi bod yn eithaf clir bod gweithrediad effeithiol y Deddfau a basiwyd yn y Cynulliad diwethaf, yn ogystal â datblygu deddfwriaeth newydd yn nhymor y Cynulliad hwn ymysg y blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru ac, yn wir, blaenoriaethau deddfwriaethol. Rwy’n meddwl, ym marn llawer o bobl, mai un o prif ddarnau o ddeddfwriaeth y Cynulliad diwethaf...
John Griffiths: 1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau dulliau atal salwch yng Nghymru? OAQ(5)0040(HWS)
John Griffiths: Weinidog, diolch i’r drefn, mae’r cyfraddau ysmygu yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod o flynyddoedd, ond yn anffodus, mae ysmygu yn dal i effeithio’n enbyd ar iechyd yng Nghymru. Credaf fod polisi cyhoeddus a’r cyfyngiadau ar ysmygu wedi chwarae rôl arwyddocaol, fodd bynnag, yn lleihau nifer y bobl sy’n ysmygu. Roedd arolwg eleni gan Action on Smoking and Health ac YouGov yn...
John Griffiths: Weinidog, rwy’n edrych ar yr adran sy'n cyfeirio at wasanaethau cyhoeddus integredig ac ymatebol yn eich datganiad, a'r model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrth y Siambr am sut y byddai hynny’n gweithio mewn cysylltiad â, er enghraifft, syniadau presennol ynghylch ysgolion bro. Mae'n ymddangos i mi fod gan ysgolion bro lawer i'w gynnig wrth...
John Griffiths: Weinidog, rwy’n meddwl ei bod yn amlwg iawn—yn wir rwy’n credu y byddai pob Aelod yma, gobeithio, yn cytuno â hyn—fod camddealltwriaeth yn aml yn digwydd ac yn achosi problemau pan nad oes gennym y lefel o integreiddio y gallai fod gennym yn ein cymunedau, ac nid ydym yn ddigon effeithiol wrth ddod â gwahanol rannau o'r gymuned at ei gilydd. Yn sicr, yn fy mhrofiad i, o gael fy...
John Griffiths: Pa lefel o flaenoriaeth fydd yn cael ei rhoi i addysg wrth benderfynu ar bolisïau Llywodraeth Cymru?
John Griffiths: 6. Pa gamau fydd yn cael eu cymryd i ehangu mynediad i awyr agored gwych Cymru? OAQ(5)0049(ERA)
John Griffiths: Tybed hefyd, Weinidog, a allwch roi mwy o fanylion i’r Siambr ynglŷn â’r amserlenni, oherwydd gwn fod llawer iawn o rwystredigaeth o ran bwrw ymlaen â’r gwaith hwn, sydd wedi cael ei drafod a’i ystyried ers peth amser. Yn nes ymlaen, byddwn yn siarad ynglŷn â sut y mae sicrhau bod Cymru’n fwy egnïol yn gorfforol ac yn iachach, a chredaf mai rhan fawr o hynny yw agor amgylchedd...
John Griffiths: 8. Beth yw’r camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella profiadau blynyddoedd cynnar plant yng Nghymru? OAQ(5)0047(CC)[R]
John Griffiths: Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg mae rhai plant yn ffodus iawn i gael eu geni i deuluoedd cynnes, cariadus, cefnogol, diogel a sefydlog, ond mae yna ormod o blant heb fod yn y sefyllfa ffodus honno. Tybed a allwch ddweud rhywbeth am bolisi Llywodraeth Cymru ar gaffael iaith yn gynnar, rhywbeth y credaf ei fod yn allweddol i gyfleoedd bywyd, yn enwedig mewn perthynas â phlant...
John Griffiths: Rwyf wedi crybwyll o’r blaen, Lywydd, ein bod wedi bod yn cael cyfarfodydd ers peth amser bellach yng Nghasnewydd, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o’u galw ynghyd rhwng y bwrdd iechyd lleol, ac iechyd y cyhoedd yn arbennig, Casnewydd Fyw, sef yr ymddiriedolaeth hamdden, cyngor Dinas Casnewydd, cymdeithasau tai, gan gynnwys Cartrefi Dinas Casnewydd a gymerodd y gwaith trosglwyddo stoc a’r...
John Griffiths: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sail dystiolaeth a'r gwaith ymchwil sy'n sail i strategaeth ddatblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0211(FM)
John Griffiths: Brif Weinidog, gwnaeth yr Athro Brian Morgan a’r Athro Gerry Holtham waith ymchwil yn ddiweddar i’r hyn sy'n gweithio o ran datblygiad economaidd ledled y byd. Daethant o hyd i gydberthynas gref iawn rhwng lefelau uchel o wariant ar ysgolion a llwyddiant economaidd. Yn ogystal â'r manteision economaidd, wrth gwrs, mae addysg yn dda ynddo’i hun ac o fudd i bob agwedd ar fywyd. A...
John Griffiths: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(5)0043(FLG)
John Griffiths: Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf fod cytundeb eang fod y Ddeddf hon yn gyfle pwysig iawn i helpu i adeiladu Cymru well. Tybed a allech esbonio rhai o’r cysylltiadau rhwng amcanion llesiant Llywodraeth Cymru a’r datganiad sy’n cyd-fynd a hwy o dan y Ddeddf, gyda’r rhaglen lywodraethu, y pedair strategaeth drosfwaol a grybwyllwyd gennych, yn ogystal â’r gyllideb.