Lesley Griffiths: Diolch. Mae’n bosibl mai newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i genedlaethau’r dyfodol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau net Cymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Bydd gan brosiectau ynni lleol, a lleihau pellteroedd rhwng cynhyrchu a defnydd yn fwy cyffredinol, ran hanfodol i’w chwarae yn cyflawni hyn.
Lesley Griffiths: Diolch. Roeddwn yn falch iawn ein bod yn cefnogi Ynni Ogwen ym Methesda. Dyna’r cynllun peilot cyntaf o’i fath yn y DU, felly rwy’n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu ohono yn ôl pob tebyg, o ystyried mai hwnnw yn amlwg oedd y cyntaf, ac rwy’n gwybod eu bod yn treialu model o annog defnydd lleol o ynni drwy gynhyrchu gwasgaredig. Fe fyddwch yn derbyn fy mod yn newydd iawn yn y...
Lesley Griffiths: Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni wybod a yw’n mynd i achosi anawsterau neu fanteision i ni, felly, os nad yw’r ymchwil hwnnw wedi’i wneud o’r blaen, byddaf yn sicr yn ystyried ei roi ar waith.
Lesley Griffiths: Ie, os ydym am sicrhau bod gennym y prosiectau cymunedol hyn, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall eu manteision—ei fod yn real iawn iddynt, a’u bod yn gallu cymryd rhan ynddo. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Rwy’n credu fy mod eisoes wedi dechrau edrych ar hynny. Y tro cyntaf i chi ddwyn y mater i fy sylw, gofynnais i swyddogion. Fel y dywedwch, mae rhan o...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Gorllewin Clwyd wedi elwa o dros £20 miliwn o fuddsoddiad dros dymor y Llywodraeth ddiwethaf, gyda chynlluniau i leihau perygl llifogydd wedi’u cyflawni’n llwyddiannus ym Mae Colwyn, Bae Cinmel a Rhuthun. Rydym yn asesu cynlluniau posibl yn Abergele, Llansannan a Mochdre ac mae gwaith dichonoldeb cyllid yn cael ei wneud mewn ardaloedd eraill ar draws Gorllewin Clwyd.
Lesley Griffiths: Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ar gyllid ar gyfer Hen Golwyn. Er mwyn datblygu hyn, mae angen i’r holl bartneriaid weithio gyda’i gilydd, felly rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sydd angen i chi ei ystyried hefyd. Rwy’n gwybod bod fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn dod â phawb at ei gilydd i ddod o...
Lesley Griffiths: Diolch i chi am y cwestiwn, Hannah Blythyn. Rwy’n gwybod eu bod wedi cael llifogydd sydyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yr wythnos diwethaf ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r busnesau a’r tai a ddioddefodd yn sgil y llifogydd sydyn ar ôl y glaw trwm yr wythnos diwethaf. Rwy’n gwybod fod Bagillt yn arbennig wedi dioddef, ac mae fy swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir...
Lesley Griffiths: Yn hollol. Cytunaf yn llwyr â Llyr Huws Gruffydd y buasai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn sicr yn torri ein cyllid yn sylweddol, yn fy mhortffolio i’n arbennig. Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr effaith, ac mae’n sylweddol tu hwnt. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi.
Lesley Griffiths: Mae hyn yn anhawster i rai rhannau o’r ardaloedd gwledig, ac rwy’n credu ei fod yn ymwneud â gwella’r seilwaith ar gyfer yr ardaloedd hynny. Byddaf yn gweithio’n agos gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a chyd-Aelodau eraill y Llywodraeth er mwyn sicrhau ein bod yn cael band eang cyflym mewn ardaloedd gwledig cyn gynted â phosibl.
Lesley Griffiths: Yn amlwg, ni allaf roi sylwadau ar yr achos unigol hwnnw. Mae’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fand eang wedi clywed eich sylwadau. Os hoffech ysgrifennu ati ynglŷn â’r achos penodol hwnnw, rwy’n siŵr y gallai gysylltu â’r cwmni i drafod y mater.
Lesley Griffiths: Wel, unwaith eto, rwy’n siŵr fod y Gweinidog wedi eich clywed. Yn fy etholaeth i, gwn fod yna gwmnïau eraill yn ei ddarparu, ond fel y dywedais, os hoffech ysgrifennu at y Gweinidog sy’n gyfrifol am y mater, Julie James, rwy’n siŵr y cewch yr ateb.
Lesley Griffiths: Ie, yn hollol
Lesley Griffiths: Ar hyn o bryd, ydw. Fel y dywedwch, mae Deddf yr amgylchedd yn gosod targed o 80 y cant o ostyngiad fan lleiaf mewn allyriadau erbyn 2050. Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth sydd angen i ni ei wylio’n agos iawn ac rwy’n ymrwymo i wneud hynny.
Lesley Griffiths: Fe fyddai, ac yn sicr fe fyddwch yn ymwybodol o’r sylwadau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, a disgwyliwn yn eiddgar i glywed beth a ddaw o San Steffan yn awr.
Lesley Griffiths: Rwy’n siomedig iawn eich bod wedi dechrau ar nodyn mor sur. Mae’n bendant yn gyfrifoldeb i mi a gallaf sicrhau David Melding fod gwella ansawdd aer yn sicr yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru.
Lesley Griffiths: Wel mae hyn yn rhan o’r holl beth rwy’n edrych arno mewn perthynas ag ansawdd aer, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod gan awdurdodau lleol ddyletswyddau, yn amlwg, o dan y gyfundrefn rheoli ansawdd aer lleol, a gwn fy mod wedi cael fy lobïo gan Aelodau Cynulliad mewn ardaloedd penodol, yn gynnar iawn yn y portffolio, ynglŷn ag ardaloedd penodol mewn awdurdodau lleol penodol. Yr hyn rwyf...
Lesley Griffiths: Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy’n cofio cerdded tua milltir a hanner o leiaf, rwy’n credu, bob ffordd i’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Rydych yn llygad eich lle, mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i annog pobl i beidio â defnyddio’u cerbydau, ac i wneud yn siŵr fod gennym y llwybrau beicio sydd eu hangen, ac i annog mwy o gerdded, ac mae hynny’n amlwg yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad am fy nghynlluniau i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg yn yr hydref. Bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn adeiladu ar y rhaglen gyfredol i ddileu TB ac yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, gan fynd i’r afael â holl ffynonellau’r haint er mwyn parhau â’r duedd ostyngol hirdymor yn nifer yr achosion o’r clefyd.
Lesley Griffiths: Wel, fe wyddoch fod gennym raglen dileu TB gynhwysfawr iawn ar waith ers 2008. Rwy’n gwbl ymrwymedig i fabwysiadu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Rwyf am weld TB mewn gwartheg yn cael ei ddileu—credaf fod yr ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos ein bod wedi gweld sefyllfa sy’n gwella ledled Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Rwy’n siŵr y byddwch yn...
Lesley Griffiths: Wel, rwy’n credu bod ffermwyr yn ymwybodol iawn o’n polisi ar y mater hwn. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â ffermwyr. [Torri ar draws.] Fel y dywedais, rydym yn ymrwymedig iawn i ddarparu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Ymddangosodd yr ystadegau yr wythnos diwethaf: maent wedi dangos sefyllfa sy’n gwella ar draws Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae’r nifer o achosion newydd...