David Melding: Rwyf yn enwebu Darren Millar.
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i chi a’r Pwyllgor Busnes am ddewis y pwnc hwn i’w drafod fel dadl Aelod unigol. O ystyried y diddordeb helaeth y mae’r ddadl wedi’i sbarduno a nifer yr Aelodau Cynulliad a lofnododd y cynnig ar gyfer y ddadl, rwy’n credu bod y diddordeb yn y pwnc yn rhywbeth sydd wedi creu argraff ddofn arnom yn y Cynulliad. Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, gydag...
David Melding: A wnaiff y Gweinidog ildio?
David Melding: Mae’n gofyn am ychydig o amser i weld sut y mae prosesau presennol yn gweithio, ac mae’n debyg, wyddoch chi, ei fod yn dymuno osgoi ymagwedd rhy fiwrocrataidd os yw’r hyn rydym am ei gyflawni am fod yn fwyfwy tebygol o ddigwydd bellach, o ystyried prosesau newydd. Ar ôl blwyddyn neu ddwy, os ydych am adolygu pethau, mae hynny’n iawn, ond a wnewch chi ddod yn ôl i adrodd ar sut y mae...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud y bydd grŵp y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu’r cynnig? Ond byddwn yn cefnogi’r gwelliant, ac os caiff y gwelliant ei dderbyn, yna byddwn yn cefnogi’r cynnig fel y’i diwygiwyd. Fy mhroblem gyda dull Plaid Cymru yw ei fod yn cymeradwyo pleidlais sengl drosglwyddadwy a chredaf fod angen i ni ystyried yn drwyadl sut y byddai’n gweithredu’n...
David Melding: Nid wyf ond prin wedi dechrau, ond gwnaf.
David Melding: Wel, roeddwn am ddweud fy mod yn credu bod gan bob trefniant etholiadol ei fanteision a’i anfanteision. Nawr, rwyf wedi credu ers peth amser fod anfanteision system y cyntaf i’r felin mewn system gynyddol amlbleidiol, neu yng Nghymru lle mae gennych—neu’n arfer bod, beth bynnag—system gydag un blaid ddominyddol, yn golygu y dylem edrych ar ffyrdd eraill o ethol, ond mae’n rhywbeth...
David Melding: Gwnaf.
David Melding: Wel, wyddoch chi, dywedais fy mod yn credu bod manteision ac anfanteision ynghlwm wrth ba system bynnag a ddefnyddiwch. A dweud y gwir, y peth mwyaf taclus i’w wneud fyddai defnyddio systemau tebyg. Felly, mae yna oblygiadau: os ydych yn ei wneud ar gyfer llywodraeth leol, a ddylech ei wneud ar gyfer y Cynulliad a deddfwrfa gymharol fechan, a sut fyddai hynny’n gweithio? Fel y dywedais,...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Efallai, gyda’ch caniatâd, y caf ymddiheuro i Sian Gwenllian, sy’n dal i fod yn y Siambr, am gael ei henw’n anghywir yn gynharach. Esgusodwch fi—mae’n flin iawn gennyf. Mae angen i ansawdd aer fod yn flaenoriaeth uchel yn y pumed Cynulliad hwn. Nid yw ar hyn o bryd yn ymddangos fel cyfrifoldeb Cabinet penodol. Edrychais ar restr cyfrifoldebau Ysgrifennydd...
David Melding: Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod. Ac mae nifer yr achosion o lygredd drwy nitrogen ocsid i’w weld yn cynyddu, gydag wyth allan o 10 o safleoedd monitro yng Nghymru yn cofnodi cynnydd y llynedd. Rwyf eisiau troi at rai o’r effeithiau ar iechyd, gan fod deunydd gronynnol a anadlir a chysylltiad â nitrogen ocsid yn achosi cynnydd sylweddol mewn afiachusrwydd. Cyfrifir ei fod yn lleihau...
David Melding: Diolch i chi, Lywydd. Fe fyddech wedi nodi bod naw Aelod yn ogystal â mi fy hun ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n credu bod hwnnw’n arwydd gwych o bwysigrwydd y maes polisi hwn i bobl. Dechreuodd Simon Thomas drwy gyfeirio at y gyfarwyddeb aer rydym yn seilio ein polisi cyfredol arni, cyfarwyddeb a ddaw o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n allweddol a...
David Melding: Brif Weinidog, rydym ni wedi clywed bod y cytundeb metro yn ganolog i'r holl gysyniad hwn. Yn anffodus, bythefnos yn ôl, rwy’n meddwl ein bod wedi sylweddoli bod gagendor mawr rhwng ardaloedd fel Caerdydd ac ardaloedd y cymoedd i'r gogledd, ac adlewyrchwyd hyn yn y patrwm pleidleisio. Ac mae'r metro yn rhoi cyfle i ni integreiddio dyfodol economaidd y ddwy ran bwysig iawn hyn o...
David Melding: Diolch, Lywydd dros dro. Roeddwn yn cytuno’n gryf iawn â’ch pwyslais ar anweithgarwch economaidd gan fod hyn, yn anffodus, yn un o'r prif sbardunau i’n GYC cymharol isel ac, yn wir, y ffaith bod ein GYC wedi disgyn yn yr 20 mlynedd diwethaf o dan Lywodraethau’r ddwy blaid o ran pwy sydd wedi bod mewn grym yn San Steffan. Nid yw anweithgarwch economaidd yr un peth â diweithdra. Yn...
David Melding: Pa fesurau sydd yn eu lle i wella'r broses ymgynghori sy'n cefnogi datblygu a gweithredu rhaglen bolisi Llywodraeth Cymru?
David Melding: Brif Weinidog, efallai y gallaf i droi materion ychydig yn fwy adeiladol. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod gwleidyddion, a Gweinidogion yn arbennig, yn gwrando, ac rwy’n gobeithio y gwnewch chi nodi ffyrdd y gall eich Gweinidogion, naill ai'n unigol neu ar y cyd, wrando ar fuddiannau hanfodol rhanddeiliaid allan yna, ac unigolion yn wir. Roedd eich rhagflaenydd yn arfer cynnal...
David Melding: Brif Weinidog, rwy’n cytuno â chi bod rhaid inni ystyried effaith Brexit yn ofalus iawn, iawn, a bydd hynny’n cymryd llawer o amser a llawer o ymroddiad. Rwy’n arbennig o bryderus ynghylch polisi amgylcheddol. Rwy’n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar, ond mae rhai materion gwirioneddol enfawr i'w hystyried. Er enghraifft, ar ddyfodol cyfarwyddeb effeithlonrwydd ynni'r UE, sut yr...
David Melding: Hoffwn, Ysgrifennydd y Cabinet, siarad am yr adroddiad hwnnw gan Estyn a gofyn cwestiwn penodol. Fel y dywedasoch, mae’r ymarfer yn anghyson ac mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod plant sy'n derbyn gofal yn dal i wynebu gormod o rwystrau i wneud yn dda yn yr ysgol, ac yn amlwg mae'n rhaid i ni gael gwared ar y rhwystrau hynny. Ond roedd yn dangos bod plant sy'n derbyn gofal yn gwneud...
David Melding: Rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth edrych ar hyn, nad ydych wedi dod i’r Siambr a dweud, ‘Gwych; mae gennym gytundeb ac ar y sail hon, gallwn ddiogelu’r prosiect’. Felly, rwy’n meddwl bod eich sail yn amheus braidd. Mae’n rhaid i mi ddweud, yn eich atebion i Mr Price ac i Mr Hamilton, nad ydych wedi bod ar eich gorau. Cafwyd craffu go iawn, yn enwedig gan Mr Hamilton,...
David Melding: Brif Weinidog, nid wyf yn gwybod os ydw i'n mynd i’ch cynorthwyo, ond beth bynnag, gadewch i mi atgoffa'r Siambr ein bod, dros y 15 mlynedd diwethaf, wedi adeiladu cyfartaledd o 8,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru, pan nododd tueddiadau bod angen i ni adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn i gadw i fyny â'r galw. Os ydym ni’n mynd i ddal i fyny o gwbl, mae’n debyg y bydd yn rhaid i...