Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cyfleusterau meddygfeydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0089(FM)[W]
Siân Gwenllian: Mae yna sefyllfa argyfyngus yn bodoli yn fy etholaeth i, sef ym meddygfa Waunfawr, a hoffwn dynnu’ch sylw at y problemau dybryd sydd yn fanno a gofyn i chi ymyrryd, gan fod y mater yn rhygnu ymlaen ers deng mlynedd erbyn hyn. Mae’r feddygfa yn rhoi gofal gwych i dros 5,000 o gleifion, ond mae’r adeilad yn hollol anaddas—nid oes digon o le, mae cyfrinachedd a diogelwch cleifion dan...
Siân Gwenllian: Mae mynediad at addysg gynnar o safon uchel yn ffordd effeithiol o gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant difreintiedig a phlant eraill, a sicrhau datblygiad ieithyddol plant ifanc. Ar hyn o bryd, mae plant sy’n byw mewn tlodi parhaus yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio yn is na’r cyfartaledd ar gyfer eu datblygiad iaith pan yn bump oed o’u cymharu â’u cyfoedion mwy cefnog....
Siân Gwenllian: Mae yna bryder difrifol ymhlith oedolion sy’n dysgu Cymraeg ledled y wlad oherwydd y gyfundrefn newydd, sydd wedi arwain at golli swyddi ymhlith tiwtoriaid lleol. Yn barod, mae yna nifer sylweddol o staff profiadol sydd wedi cael ei ddiswyddo yn Abertawe, a nifer pellach yn wynebu colli swyddi yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yng Ngheredigion. Mae yna ansicrwydd mawr yn y maes ar ôl i’r...
Siân Gwenllian: Mae uchelgais Llywodraeth Cymru o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yn nod i’w groesawu ac rwy’n falch eich gweld chi’n cadarnhau hyn eto heddiw. Er hynny, nid yw’r Llywodraeth eto wedi egluro sut mae’n bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o ychydig dros 0.5 miliwn yn 2011 i 1 filiwn erbyn 2050. Rwy’n gweld y byddwch chi’n cyhoeddi fod yna ymgynghoriad i fod, eto fyth, ar...
Siân Gwenllian: 6. Beth yw strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddi meddygon yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0026(HWS)W
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Mae bron i hanner holl ddoctoriaid Pen Llŷn dros 55 mlwydd oed, ac mae disgwyl i nifer helaeth ohonyn nhw ymddeol o fewn y pum mlynedd nesaf, fydd yn arwain at argyfwng gwirioneddol. Mae yna dystiolaeth fod doctoriaid yn aros lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Felly, er mwyn mynd i’r afael â diffyg doctoriaid, mae yna ddadl gref, fel yr ydych wedi cyfeirio ato fo,...
Siân Gwenllian: Mae angen cynyddu’r cyflenwad tai yng Nghymru, wrth gwrs, ond mae angen i’r tai hynny fod y math iawn o dai, ac mae angen iddyn nhw fod yn y llefydd iawn er mwyn diwallu gwir anghenion pobl Cymru. Yn eich datganiad chi ar y Ddeddf gynllunio yng Ngorffennaf eleni, gwnaethoch chi ddweud: ‘Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol roi blaenoriaeth uchel i baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol yn...
Siân Gwenllian: Mae’n hollol amlwg gan bawb yn y Siambr sydd wedi siarad heddiw bod angen strategaeth, a hynny ar frys, i hyfforddi mwy o ddoctoriaid yng Nghymru. Rwyf i’n mynd i ddadlau bod y strategaeth yma yn gorfod bod yn un sydd yn digwydd ar draws Cymru. Mae gennym ni ddwy ysgol feddygol—un yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe—ond nid oes gennym unrhyw beth o gwbl yn y gogledd nac yn y canolbarth....
Siân Gwenllian: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyrraedd eu targedau? OAQ(5)0022(FLG)[W]
Siân Gwenllian: Buaswn i’n licio defnyddio fel enghraifft un strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru, sef y nod o gael miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Mewn ymateb ysgrifenedig i gwestiwn ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ynglŷn â chyfraniad awdurdodau lleol i dargedau cenedlaethol ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, yr ateb a gefais oedd nad oedd rhaid i awdurdodau lleol...
Siân Gwenllian: Iawn. Mewn gwrthwynebiad i hynny, wrth gwrs, mae cynghorau Plaid Cymru yn perfformio yn dda iawn. Sut fyddwch chi yn sicrhau, felly, bod awdurdodau lleol—ac yn benodol awdurdodau lleol dan reolaeth eich plaid chi—yn gweithredu er mwyn cyflawni’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr ym maes addysg?
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Rwy’n mynd i gyfeirio at rif 3 yn y cynnig, sef pwysigrwydd y gyfundrefn addysg yn ei chyfanrwydd, felly, er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac rwy’n mynd i drafod addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach na’r cymhwyster ail iaith fel y cyfryw. Rwyf yn nodi bod Llywodraeth Cymru, yn yr ymgynghoriad sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd...
Siân Gwenllian: Mae myfyrwyr o dramor yn gwneud cyfraniad uniongyrchol, gwerthfawr i’n prifysgolion ac i’r economi. Am bob pump myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd sydd yn dod i Gymru, mae un swydd yn cael ei chreu, a daw £200 miliwn mewn taliadau gan fyfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion Cymru. Mae Prifysgol Bangor yn fy etholaeth i yn cydweithio efo 100 o bartneriaid mewn 20 gwlad yn Ewrop, efo llawer mwy o...
Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailstrwythuro gwasanaethau iechyd lleol yng ngogledd Cymru?
Siân Gwenllian: 7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch cynnydd Llywodraeth Cymru ar weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies am ddysgu’r Gymraeg? OAQ(5)0023(EDU)[W]
Siân Gwenllian: Diolch. Yr wythnos diwethaf, mi wnaethoch chi ddweud, fel yr ydych chi wedi dweud heddiw, na fyddai Cymraeg ail iaith yn cael ei dysgu fel rhan o’r cwricwlwm newydd erbyn 2021, ac, yn ei lle, byddai yna un continwwm o ddysgu’r iaith i bob disgybl. Ond nid ydw i’n dal i fod yn glir ynglŷn â’r newidiadau i’r cymwysterau. A allech chi gadarnhau’r hyn a gafodd ei adrodd yn y wasg...
Siân Gwenllian: Mewn cyfarfod pwyllgor ar 13 Gorffennaf, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei gwneud hi’n glir mewn ymateb i gwestiwn gan lefarydd Plaid Cymru dros addysg eich bod chi’n mynd i edrych ar y posibilrwydd o ehangu ‘remit’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach. A wnewch chi ein diweddaru ni o ran cynnydd yn dilyn y datganiad yna, achos mi fyddai’n mynd peth...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn am y datganiad. Mae’n rhaid eich llongyfarch chi, yn wir, am yr holl waith sydd wedi digwydd efo’r rhanddeiliaid, yr undebau llafur, arweinwyr y cynghorau a chynghorwyr ledled Cymru er mwyn casglu eu barn nhw am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. Ond, yn bennaf, diolch yn fawr a llongyfarchiadau ar gyflwyno fersiwn—fersiwn gwan, efallai, ond fersiwn—o bolisi...
Siân Gwenllian: Diolch, Lywydd, ac rydw i’n cynnig y cynnig yn enw Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru eisiau adfer balchder yn ein trefi drwy sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â’r dirywiad y mae cynifer ohonyn nhw wedi ac yn ei wynebu. Y dyddiau yma, mae nifer o ganolau ein trefi yn hanner gwag ac yn llawn o siopau sydd â’u ffenestri wedi’u bordio i fyny. Yn y fath amgylchedd, nid yw’n syndod bod...