Canlyniadau 21–40 o 800 ar gyfer speaker:Delyth Jewell

8. Dadl Plaid Cymru: Y Cwrdiaid yn Nhwrci (20 Maw 2019)

Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl ar y cynnig hwn heddiw. Mae'n fater pwysig i mi mewn dwy ffordd, yn rhannol oherwydd fy mod yn llefarydd ar faterion rhyngwladol, ond hefyd oherwydd bod Imam Sis, sydd wedi ein hysbrydoli i gyflwyno'r ddadl heddiw, yn byw yng Nghasnewydd, sydd yn fy rhanbarth. Rwy'n rhagweld y bydd gan Aelodau ar ochrau eraill y Siambr safbwyntiau gwahanol...

8. Dadl Plaid Cymru: Y Cwrdiaid yn Nhwrci (20 Maw 2019)

Delyth Jewell: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

8. Dadl Plaid Cymru: Y Cwrdiaid yn Nhwrci (20 Maw 2019)

Delyth Jewell: Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Mae'r Aelodau wedi siarad yn deimladwy iawn o blaid y cynnig. Rwy'n cytuno gyda Bethan nad yw ond yn iawn i'r Siambr hon fynegi ein llais ar faterion rhyngwladol, yn enwedig pan fyddant yn ymwneud â dinesydd Cymreig. Soniodd Mick Antoniw am y cysylltiad personol y mae'n ei deimlo gyda'r Cwrdiaid, a diolch iddo am ei eiriau teimladwy dros ben. A...

8. Dadl Plaid Cymru: Y Cwrdiaid yn Nhwrci (20 Maw 2019)

Delyth Jewell: Ni wnaethoch dderbyn ymyriad gennyf fi, Darren. Nid wyf am gymryd un gennych chi. Lywydd, hoffwn gloi'r ddadl drwy esbonio bod Imam a'r lleill sydd ar y streic newyn hon wedi'u hysgogi yn eu gweithredoedd gan eu hawydd i roi llais i Mr Öcalan wedi iddo gael ei amddifadu o'i lais ei hun. I wneud hynny, maent yn barod i aberthu eu bywydau—nid eu bod yn dymuno gwneud hynny. Ychydig wythnosau...

Cwestiwn Brys: Cyfarfod y Cyngor Ewropeiaidd (26 Maw 2019)

Delyth Jewell: Gweinidog, nawr bod y dewisiadau sydd ar gael yn culhau, byddwn yn gwerthfawrogi eglurder o ran pa mor bell fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i fynd er mwyn osgoi sefyllfa 'dim cytundeb'. Bydd cyfres o bleidleisiau dangosol yn San Steffan yr wythnos hon, a bydd ASau Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gynnal pleidlais y bobl fel yr unig ffordd gynaliadwy o ddatrys yr argyfwng. Ond mae ein ASau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Newid yn yr Hinsawdd ( 2 Ebr 2019)

Delyth Jewell: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53743

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Newid yn yr Hinsawdd ( 2 Ebr 2019)

Delyth Jewell: Diolchaf iddo am ei ateb. Prif Weinidog, mae eich plaid wedi datgan sefyllfa o argyfwng hinsawdd erbyn hyn. Os bydd Llywodraeth Cymru yn datgan hyn yn swyddogol, hi fydd y Llywodraeth gyntaf yn y byd i wneud hynny. A gaf i ofyn: a yw datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd yn golygu na fydd y Llywodraeth yn gallu bwrw ymlaen â'i chynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4, ac, os nad ydyw, beth yn...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Ebr 2019)

Delyth Jewell: Ar 20 Mawrth, cyfarwyddodd Llywodraeth Cymru y Cynulliad hwn i ysgrifennu at y pwyllgor Ewropeaidd atal artaith i godi pryderon Imam Sis a'r streicwyr newyn Cwrdaidd eraill ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Imam, sy'n byw yng Nghasnewydd, yn awr ar ei ganfed a saith diwrnod o streic newyn. Mae'r sefyllfa bellach yn ddifrifol iawn. Mae'n ddybryd. Mae'n fater brys mawr. Sylwaf nad yw'r cynnig, er...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit ( 2 Ebr 2019)

Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ysgrifennu at David Lidington i geisio sicrhau swyddogaeth statudol ar gyfer y Llywodraethau datganoledig yn negodiadau'r dyfodol, ond rwyf yn ei chael hi'n syfrdanol mai dim ond nawr y ceir y cadarnhad hwn, bedwar diwrnod ar ôl yr oeddem ni i fod i adael yr UE. Dylai'r Llywodraeth fod wedi cyhoeddi...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Paratoi at Brexit Heb Gytundeb ( 3 Ebr 2019)

Delyth Jewell: 1. Pa adnoddau ariannol a ddyrannwyd hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi at Brexit heb gytundeb? OAQ53726

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Paratoi at Brexit Heb Gytundeb ( 3 Ebr 2019)

Delyth Jewell: Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Wrth gwrs, gallai'r adnoddau a wariwyd ar gynllunio 'dim bargen' fod wedi cael eu gwario ar y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru a'n hysgolion, sy'n galw allan am fuddsoddiad, pe bai Llywodraeth San Steffan wedi negodi cytundeb synhwyrol, yn debyg i’r hyn a nodwyd ym Mhapur Gwyn Plaid Cymru/Llywodraeth Cymru ar y cyd, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a...

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Negodiadau Brexit (30 Ebr 2019)

Delyth Jewell: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Dechreuaf gyda materion yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw. Fe hoffwn i ategu eich geiriau o ddiolch i staff Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus sydd wedi bod yn gweithio mor ddiwyd i baratoi Cymru ar gyfer y posibilrwydd trychinebus o Brexit heb gytundeb. Gwerthfawrogir eu gwaith caled. Cytunaf â chi hefyd ei bod hi'n gywilyddus bod adnoddau'n cael eu...

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cymru Greadigol (30 Ebr 2019)

Delyth Jewell: I ddechrau, hoffwn i groesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ynglŷn â'u partneriaeth newydd gydag NBCUniversal, a'u penderfyniad i ymestyn PYST. Mae'r ddau beth yma yn newyddion da, ond, yn anffodus, dyma'r unig gyhoeddiadau newydd yn y datganiad sydd yn cynnwys unrhyw fath o fanylder. Mae pob dim arall yn y cyhoeddiad un ai'n annelwig neu'n datgan beth sydd eisoes yn digwydd yn y diwydiannau...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol' ( 1 Mai 2019)

Delyth Jewell: Rwy'n croesawu argymhellion yr adroddiad yn ei gyfanrwydd. Doeddwn i ddim eto wedi ymuno â'r pwyllgor pan oedd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, ond hoffwn glodfori'r darn hwn o waith a'r arweiniad crefftus gafodd ei ddarparu gan y Cadeirydd, David Rees. Ynddo, ceir argymelliadau cynhwysfawr a manwl ynglŷn â pha gamau all gael eu cymryd i gynyddu rôl Cymru ar lefel ryngwladol yn y...

8. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd ( 1 Mai 2019)

Delyth Jewell: Nid yn aml y byddwn yn teimlo pwysau hanes ar ein hysgwyddau, neu yn hytrach pwysau'r dyfodol. Croesawaf ddatganiad Llywodraeth Cymru ar argyfwng yn yr hinsawdd, ond fel y gwnaed y pwynt gan Aelodau ar draws y Siambr, rhaid ei gefnogi â gweithredu. Mae'r Oxford English Dictionary yn diffinio argyfwng fel 'sefyllfa ddifrifol sy'n galw am weithredu ar unwaith'. Fe'i diffinnir gan y ffaith ei...

8. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd ( 1 Mai 2019)

Delyth Jewell: I ddychwelyd at y pwynt yr oeddwn yn ei wneud o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud: er mwyn datgan argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid ei gefnogi drwy weithredu. Rydym yn byw mewn cyfnod tywyll. Mae hyn yn wir yn agos at adref lle mae dros hanner bywyd gwyllt Cymru yn dirywio ac mae un o bob 14 rhywogaeth dan fygythiad o ddiflannu. Gwelwn effaith newid hinsawdd ar ffurf erydu...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Mai 2019)

Delyth Jewell: Roeddwn am ddiolch i Lywodraeth Cymru, ac i'r Gweinidog dros faterion rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg yn benodol, am ysgrifennu llythyr ar fy nghais i yr wythnos diwethaf at Jeremy Hunt, yn gofyn iddo ymyrryd yn achos fy etholwr, Imam Sis. Roedd hwn yn ymyriad a groesewir yn fawr ac rwyf yn wirioneddol ddiolchgar amdano. Efallai fod yr Aelodau yn gwybod bod Imam Sis bellach yn ddifrifol wael....

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Mai 2019)

Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod y toriadau ariannol a wnaed gan San Steffan ers 2010 wedi peri cryn dipyn o drallod i unigolion a chymunedau ledled Cymru?

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Mai 2019)

Delyth Jewell: Mae'r Gweinidog wedi datgan ei farn ynglŷn â'r difrod a achoswyd i gymdeithas gan doriadau gwariant, a chytunaf â sylwedd ei ateb, felly gadewch i ni ystyried mater gwariant cyhoeddus yng nghyd-destun Brexit. Roedd dadansoddiad effaith Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd y llynedd yn rhagweld y byddai twf y DU yn dioddef ergyd o rhwng 2 ac 8 y cant pe bai Brexit yn mynd rhagddo, yn dibynnu ar y...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Mai 2019)

Delyth Jewell: Weinidog, byddai'r math o gytundeb y mae Llafur yn ei argymell yn golygu gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau Ewropeaidd, a byddai hyn yn peri niwed di-ben-draw i economi'r DU, gan arwain at ragor o doriadau yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru, a byddai'n niweidio economi Cymru yn uniongyrchol, gan arwain at gau busnesau a cholli swyddi. Ac nid Plaid Cymru yn unig sy'n dweud hyn; mae ASau...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.