Mark Reckless: Gan eich bod chi'n anwybyddu'r hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthych chi.
Mark Reckless: Rwy'n falch o glywed y bydd Llywodraeth Cymru o leiaf yn cefnogi gwaith i weld os gallwn ni sicrhau cyllid ar gyfer y bont gludo, a gobeithiaf efallai y bydd yn ei chefnogi gyda'i chyllid ei hun, yn dibynnu ar sut mae'r gwaith hwnnw'n datblygu. Tybed, felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fyddai hefyd yn cefnogi treftadaeth ddiwydiannol Casnewydd trwy ariannu pont newydd sy'n cynnig yr un...
Mark Reckless: 7. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith ffin tollau neu ffin reoleiddiol ym Môr Iwerddon? OAQ52750
Mark Reckless: Prif Weinidog, fe wnaethoch siarad yn huawdl yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd Gogledd Iwerddon a'i phroses heddwch ar gyfer Brexit. Onid yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig ffin o unrhyw fath ym môr Iwerddon yn gweithredu fel pryfociad i'r gymuned unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon? Ac oni ddylai yn hytrach gymhwyso ei waith technegol ar gyfer dad-ddramateiddio'r ffin arfaethedig honno i...
Mark Reckless: Rwy'n cofio trafod ar gam pwyllgor gydag Ysgrifennydd y Cabinet pan fyddai'n cyflwyno rheoliadau a'r graddau y byddai'r rhain yn troi'n gwestiynau manwl neu'n mynd yn fwy sylweddol. Nid wyf yn hollol siŵr i ba gategori y perthyn hyn, ond mae gennyf un neu ddau o gwestiynau iddo. Yn gyntaf, a yw Awdurdod Refeniw Cymru wedi bod yn datgymhwyso neu yn rhoi rhyddhad o ran treth hyd yn hyn yn yr...
Mark Reckless: 4. Pa effaith y mae'r gyfradd dreth trafodiadau tir o 6 y cant wedi'i chael ar refeniw treth o drafodiadau eiddo masnachol dros £1 miliwn ers mis Ebrill 2018? OAQ52724
Mark Reckless: Ie, wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol yn ddi-os mai sylfaen drethu'r dreth trafodiadau tir yw trafodiadau eiddo masnachol, ac yn ôl adolygiad CoStar o fuddsoddiadau mewn eiddo masnachol ar gyfer yr ail chwarter, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn arolygu pob trafodiad masnachol mwy o faint na hynny, a llawer mwy ledled y DU, £40 miliwn yn unig oedd cyfanswm y buddsoddiad mewn...
Mark Reckless: Mae'n rhan o'ch cyllideb ar gyfer eleni; rydych yn dibynnu arnynt.
Mark Reckless: Un trafodiad.
Mark Reckless: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi ac i Ysgrifennydd y Cabinet am hwyluso'r ddadl hon. Ar 17 Rhagfyr, bydd tollau ar bontydd Hafren yn cael eu diddymu. Bydd chwyldro'n digwydd i ddaearyddiaeth economaidd de Cymru a gorllewin Lloegr. Nid oes unman mewn sefyllfa well i elwa arno na Chasnewydd. Ac nid rhoi diwedd ar y tollau yw'r unig newid i'n seilwaith a fydd yn hybu...
Mark Reckless: Ymhellach, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod mai gwerthoedd preswyl cynyddol a fydd yn rhyddhau llawer mwy o safleoedd yng Nghasnewydd ac yn helpu adeiladwyr tai i dalu tuag at seilwaith, cytundebau adran 106 a thai fforddiadwy? Buaswn yn pwysleisio nad cynyddu swm a dewis y tai sydd ar gael yn unig y mae adeiladu tai yn ei wneud; mae hefyd yn hybu twf economaidd, yn creu swyddi ac yn...
Mark Reckless: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd?
Mark Reckless: 5. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer cyflogau athrawon ar ôl i bwerau yn y maes hwn gael eu datganoli? OAQ52764
Mark Reckless: Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. A wyf yn dweud: 'A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer cyflogau athrawon ar ôl i bwerau yn y maes hwn gael eu datganoli?' Neu a ydym wedi bod yno?
Mark Reckless: Iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich barn chi, beth yw'r cyfleoedd allweddol yn sgil datganoli cyflog yn benodol? A pha mor wahanol y disgwyliwch i'r drefn ar gyfer cyflogau fod i'r drefn yn Lloegr, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar?
Mark Reckless: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu'r symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o gyllideb y DU? OAQ52844
Mark Reckless: Edrychwn ymlaen at glywed y manylion hynny maes o law, os nad heddiw. Ond fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud wrth yr Aelod dros Gwm Cynon yn gynharach ei bod hi'n iawn wrth ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth i fusnesau. Ni wnaeth ailadrodd ei honiadau mwy amheus, efallai, ei bod wedi cynnig mwy o gymorth nag unman arall yn y DU, na bod mwy o fusnesau yng Nghymru yn cael...
Mark Reckless: Ymddiheuriadau nad oedd Mark Reckless yn ei le. [Chwerthin.] Roeddwn wedi cymryd yn ganiataol y byddai Cadeirydd y pwyllgor safonau yn siarad yn gyntaf. Nid oes unrhyw rybudd o'r digwyddiad hwn ar y system gyfrifiadurol sydd gennym ni yma ar gyfer yr agenda. Ni chafodd ei grybwyll fel newid i'r agenda gan arweinydd y tŷ dros dro. Cefais e-bost am 12.34 p.m. gyda dolen i agenda, gyda...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio? Tybed a allai hi ateb cwestiwn—yn gwbl ddiffuant. Pan ddywed hi fod y comisiynydd wedi gofyn am y comisiynydd dros dro hwn i gael ei benodi, a yw hi'n gallu sicrhau Aelodau na roddwyd pwysau ar y comisiynydd gan unrhyw Aelod mewn unrhyw ffordd cyn y penderfyniad hwnnw?
Mark Reckless: Mewn pryd o drwch blewyn. [Chwerthin.]