Alun Davies: Lywydd, a gaf fi ddweud cymaint rwy’n ategu'r hyn a ddisgrifiodd yr Aelod? Credaf fod pob un ohonom—credaf mai dyma un peth sy'n dod ag Aelodau o bob ochr o’r Siambr hon ynghyd, ac Aelodau sy'n cynrychioli pob rhan o'r wlad—yn cydnabod pwysigrwydd gwirfoddoli, i'r unigolyn sy’n gwirfoddoli, fel y nodwyd, i'r gymuned, a'r gwahanol sefydliadau, a byddai llawer ohonynt yn methu dal...
Alun Davies: Rwy'n darparu £30 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon ar draws pob awdurdod lleol ar gyfer adnewyddu ffyrdd lleol. Mae’r manylion wedi cael eu rhannu gydag awdurdodau lleol.
Alun Davies: Lywydd, i ateb y ddau gwestiwn yn uniongyrchol, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn £1.5 miliwn yn ychwanegol i wario ar ffyrdd drwy'r cynllun hwn, ac mae gwelliannau cyffredinol i ffyrdd, gwariant ar ffyrdd a chynnal a chadw ffyrdd, wrth gwrs, yn gyfrifoldebau i fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a’r seilwaith. Ond a gaf fi fynd ychydig ymhellach wrth...
Alun Davies: Lywydd, nid oes neb yn synnu bod Nick Ramsay wedi defnyddio'r cyfle i ofyn y cwestiwn a ofynnwyd ganddo. Efallai y bydd yn fwy o syndod i’r Aelodau fy mod yn gwybod yr ateb. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn derbyn £921,218 o ganlyniad i'r grant hwn. Dosbarthwyd y grant cyfalaf o £30 miliwn gan ddefnyddio elfen drafnidiaeth y fformiwla gyffredinol ar gyfer cyllid cyfalaf, a chytunwyd ar y...
Alun Davies: Rydym wedi sicrhau bod yr arian hwn ar gael i’r holl awdurdodau lleol ar unwaith er mwyn mynd i'r afael â phroblemau o’r fath. O ran materion penodol, buaswn yn argymell bod yr Aelod yn ysgrifennu at ei awdurdod lleol neu atom ni yn uniongyrchol, yn nodi'r materion hyn. Ond dywedaf wrth yr Aelod hefyd fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu’r ôl-groniad a’r problemau ariannu hyn...
Alun Davies: Llywydd, rwy'n falch iawn bod fy mlog wedi plesio o leiaf un Aelod fan hyn, ac rwy'n falch iawn ei bod hi wedi'i ddarllen e o leiaf. A gaf i ddweud hyn: beth roeddwn i'n trio'i ddweud yr wythnos diwethaf pan oeddwn i'n ysgrifennu hynny, oedd trio gosod, ac ailosod, perthynas fwy aeddfed rhwng rhannau gwahanol o'r ffordd rydym ni'n llywodraethu Cymru, ac nid wyf i'n credu bod hynny wedi bod...
Alun Davies: Mi fuaswn i'n awgrymu bod yr Aelod yn ailddarllen y blog, efallai, a darllen tu hwnt i'r paragraffau cyntaf, am beth roeddwn yn trio ei ddweud yn fanna. Beth roeddwn i'n trio'i ddweud oedd bod eisiau perthynas tipyn bach yn fwy aeddfed rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth a hefyd trio symud i ffwrdd o'r math o drafodaeth yr ydym ni wedi ei chael yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roeddwn i'n...
Alun Davies: Wel, yn amlwg, mae llywodraeth leol wedi dweud nad ydynt eisiau symud i gyfeiriad felly ac rydw i'n derbyn hynny. Nid wyf i'n mynd i drio gorfodi llywodraeth leol i symud i gyfeiriad felly os nad hynny yw beth maen nhw'n moyn gwneud, ac maen nhw wedi bod yn glir nad ydynt eisiau hynny. So, mae'n rhaid inni wedyn ystyried ble rydym ni. Wrth alw am drafodaeth fwy aeddfed, beth rydw i wedi bod...
Alun Davies: Credaf fod yr Aelod yng nghyfarfod y grŵp hollbleidiol yn gynharach y mis hwn pan oeddwn yn bresennol i ateb cwestiynau ar y materion hynny. A gaf fi ddweud fy mod yn gyfforddus iawn ar hyn o bryd gyda lefel y ddarpariaeth o ran yr hyn y gallwn ei wneud ar gyflawni cyfamod y lluoedd arfog a'n gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr? Credaf y bydd angen inni fynd ychydig ymhellach yn y dyfodol....
Alun Davies: Rwy'n gobeithio ein bod yn cael yr holl wybodaeth am y materion hynny, ond a gaf fi ddweud mai'r prif ddull o ymgysylltu, os mynnwch, yw drwy'r grŵp arbenigol sydd gennym ar y materion hyn? Cadeiriais fy nghyfarfod cyntaf o'r grŵp hwnnw yn gynharach y mis hwn fel mae'n digwydd, ac yn fy marn i, roedd yr awyrgylch yno a'r sgwrs a gawsom yno'n cyfleu dyhead i symud yn gyflym iawn ar y...
Alun Davies: Mae hwn yn fater a godwyd mewn sesiwn holi flaenorol gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Ymrwymais bryd hynny i ystyried y materion a godwyd gennych y prynhawn yma. Byddwch yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi cyhoeddi £100,000 ychwanegol i gynyddu capasiti ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac mae hefyd wedi ymrwymo i ystyried a deall sut y...
Alun Davies: Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud, ond gallaf ddweud wrtho fod y penderfyniad i ymestyn y bleidlais i bobl 16 a 17 oed mewn etholiadau lleol—ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud yr un peth maes o law—yn ymwneud ag ymestyn a dyfnhau'r etholfraint er mwyn galluogi pobl yn ein cymunedau drwyddi draw i chwarae rhan weithredol...
Alun Davies: Credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol y gallai cyrraedd llawn oed ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch cymdeithasol, beth bynnag y bo, ddigwydd ar oedran ychydig yn wahanol ar gyfer gwahanol faterion, ac rydym yn ymwybodol o hynny. Efallai y bydd unigolyn 16 oed yn gallu pleidleisio ond ni fydd yn gallu gyrru. Rydym yn ymwybodol o'r materion hyn. Yr hyn rwy'n gobeithio ei wneud yw...
Alun Davies: Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn adnewyddu'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd ar hyn o bryd. A gaf fi ddweud hyn? Cofiaf i'r Aelod roi cyfweliad i'r cyfryngau yn ystod yr ymgyrch etholiadol lle y dywedodd nad oedd byth yn canfasio, byth yn curo ar ddrysau pobl, gan ei fod yn ystyried hynny'n ymyrraeth ofnadwy ar eu bywydau. Hoffwn awgrymu bod yr Aelod yn curo ar rai drysau ac yn siarad â...
Alun Davies: Mae ein pecyn cymorth i'r lluoedd arfog yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru.
Alun Davies: Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnewch ynglŷn â chydnabod a deall natur y gymuned, ble mae'r gymuned honno'n byw a sut y mae'n byw, a natur y gymuned honno. Credaf fod angen inni ddeall hynny'n well, ac rwy'n derbyn y pwynt hwnnw'n gyfan gwbl. Rwy'n gyndyn o roi ateb terfynol i'r cwestiwn hwnnw. Byddaf yn darparu ymateb mwy cyfannol i'r adroddiad cyfan pan gaf gyfle i wneud hynny. Ond gadewch...
Alun Davies: A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod dros Fro Morgannwg ar y pwyntiau a wnaeth? Mewn sawl ffordd, mae hi wedi adleisio'r pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ei chwestiwn cyntaf y prynhawn yma ynghylch pwysigrwydd gwirfoddolwyr, a'r rôl y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau a'n cymdeithas yn darparu gwasanaethau mewn amgylchiadau...
Alun Davies: Rwy'n gobeithio. Un o'r rhesymau pam rydym wedi penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog mewn gwahanol awdurdodau lleol yw er mwyn ein galluogi i gydgysylltu'r math hwnnw o waith i sicrhau bod y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr yn y trydydd sector yn ategu ac yn gysylltiedig â'r gwaith a wneir gan wasanaethau statudol. Drwy weithio gyda'n gilydd, credaf y gallwn ddarparu gwasanaeth...
Alun Davies: Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig ym mywydau pob dinesydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i warchod cyllid ar gyfer ein hawdurdodau lleol fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny, y rhai statudol a'r rhai anstatudol, barhau i gael eu darparu. Fodd bynnag, mater i'w benderfynu'n lleol yw'r modd y darperir gwasanaethau'n lleol.
Alun Davies: Cytunaf yn llwyr gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd. Credaf ei fod yn deall yn iawn, wrth ddarparu model gwahanol ar gyfer llywodraeth leol, fod angen inni wneud hynny mewn ffordd gyfannol, gan ddarparu pwerau i lywodraeth leol weithredu mewn ffordd sy'n eu galluogi i fabwysiadu ymagwedd gyfannol yn eu cymunedau, i siapio eu cymunedau, a chreu lleoedd gwych i fyw a...