Canlyniadau 381–400 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy Cymunedol
( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Credaf fod yna gyfleoedd gwych i allu gwneud arbedion yn y meysydd yr ydych wedi’u trafod. Rwyf wedi annog pob corff cyhoeddus yng Nghymru i wneud y gorau o’r cyfle, ac yn sicr, bydd ein menter twf gwyrdd Cymru yn helpu i gyflawni’r prosiectau hyn drwy ddarparu nifer o wasanaethau, a chyllid sylweddol hefyd.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy Cymunedol
( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Mae’n bwysig iawn fod gan yr awdurdodau lleol yr arbenigedd hwnnw’n fewnol, neu os nad oes, gallant gydweithio ag awdurdod lleol cyfagos er mwyn sicrhau eu bod yn ei gael. Ni chredaf ein bod yn dymuno gweld tagfeydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y cynlluniau hyn yn cael eu sefydlu a’u rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Soniais yn fy ateb i Dai Lloyd fod rhai o’r bobl y cyfarfûm...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mannau Gwyrdd a Pharciau yng Nghymru
( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae argaeledd mannau gwyrdd a pharciau o safon yn bwysig i iechyd a lles pobl. Maent yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Dylai pawb gael mynediad at fannau gwyrdd o safon yn agos at eu cartrefi.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mannau Gwyrdd a Pharciau yng Nghymru
( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Wel, gobeithiaf mai cwestiwn rhethregol oedd hwnnw ac nad oeddech yn gofyn i mi roi ffigur i chi. Ydw, rwy’n fwy na pharod i longyfarch Parc Pont-y-pŵl. Efallai yr hoffai’r Aelod fy ngwahodd ar ymweliad.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mannau Gwyrdd a Pharciau yng Nghymru
( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i drafod gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet os yw hynny’n briodol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Gorsaf Bŵer Aberddawan
( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Aberddawan, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am ostwng y terfyn uchaf ar gyfer allyriadau ocsidau nitrogen yn nhrwydded amgylcheddol Aberddawan, yn unol â dyfarniad y llys. Bydd yn rhaid i Aberddawan gydymffurfio â’r terfyn diwygiedig wedyn. Bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro’r cynnydd a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac RWE tuag at...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Gorsaf Bŵer Aberddawan
( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Dosbarthwyd y llythyr i Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n credu mai David Melding a wnaeth gais i’r Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Fel y dywedodd Simon Thomas, roedd yn nodi’r terfynau drwyddo draw. Bu gostyngiad, ond rydych yn gywir fod angen rhagor o waith er mwyn sicrhau bod Aberddawan yn gallu gweithredu o dan y terfyn uchaf o 500 mg /cu m ar...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Gorsaf Bŵer Aberddawan
( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Cytunaf yn llwyr, ac rwyf am sicrhau’r Aelodau fy mod wedi bod yn cael trafodaethau. Rwyf wedi cyfarfod â RWE, rwyf wedi cyfarfod ag Aberddawan, rwyf wedi cyfarfod â fy nghyd-Aelod, Jane Hutt mewn perthynas â hyn, ac rwyf wedi sicrhau bod swyddogion yn monitro’r sefyllfa’n ofalus iawn.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: The Welsh Government continues to fund Fly-tipping Action Wales, an initiative co-ordinated by Natural Resources Wales and which aims to secure a long-term reduction in fly-tipping through a combination of measures. We are also currently consulting on the introduction of fixed penalty notices for small scale fly-tipping.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: National planning policy provides a comprehensive framework for protecting the countryside from overdevelopment. At the same time, national planning policy encourages an approach towards rural areas that supports living and working communities that are economically, socially and environmentally sustainable.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Environmental vandalism is an issue the Welsh Government takes very seriously and is committed to continue tackling. Our Well-being of Future Generations Act encourages us to focus on prevention, to involve people in well integrated measures and for collaboration across organisations as we work for long term, sustainable solutions.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ( 1 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Plans for woodland management are guided by the Welsh Government’s forestry strategy, ‘Woodlands for Wales’, and will in future be shaped by the national natural resources policy. The strategy establishes the long-term vision for the sustainable management of Wales’s woodlands and trees to provide benefits for future generations.

9. 8. Dadl: Morlynnoedd Llanw (14 Chw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Rwy’n croesawu'n fawr y cyfle i ni drafod y potensial ar gyfer morlynnoedd llanw yn y DU yn dilyn cyhoeddiad diweddar adroddiad Hendry. Er ein bod yn cefnogi egwyddor morlynnoedd llanw yng Nghymru, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r ystyriaethau a’r cymeradwyaethau allweddol y mae'n rhaid eu rhoi i unrhyw brosiect arfaethedig, gan gynnwys ystyriaethau amgylcheddol...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Targedau Ailgylchu
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn gwneud cynnydd rhagorol yn erbyn ein targedau ailgylchu. Dengys y ffigurau ailgylchu diweddaraf gynnydd o 62 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at fis Medi 2016, 4 y cant yn uwch na’r 12 mis blaenorol hyd at fis Medi 2015. Rydym ar y brig yn y DU, rydym wedi codi i’r ail safle yn Ewrop, ac mae hynny’n dyst i ymrwymiad cynghorau a thrigolion ledled Cymru.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Targedau Ailgylchu
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Wel, rwy’n adolygu ein targedau ailgylchu, ond rwyf ond yn gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn fwy uchelgeisiol hyd yn oed. Credaf fod angen i chi fod yn ofalus iawn wrth ddehongli’r cynnydd yn ffigurau 2015-16 mewn perthynas â thipio anghyfreithlon. Mae’n anodd dal y troseddwyr, ond rwyf am eu gweld yn cael eu herlyn pan fo’n digwydd. Ond, wyddoch chi, roedd nifer yr achosion o...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Targedau Ailgylchu
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Wel, cyrhaeddodd 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru y targed. Nid Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd oedd dau o’r tri na lwyddodd i wneud hynny. O ran y tri awdurdod lleol na lwyddodd i gyrraedd y targedau, rwyf bellach wedi cael cyfle i gyfarfod â hwy i weld pam na lwyddwyd i gyrraedd y targedau. A byddaf yn parhau i weithio gyda hwy, a bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda hwy er...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Targedau Ailgylchu
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Gwnaf, a chytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ganol Caerdydd. Rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion fy mod yn awyddus i’n gwlad fod ar y blaen, nid yn unig yn Ewrop, ond drwy’r byd. Ac rwy’n credu o ddifrif y gallwn gyflawni hynny. Credaf fod sicrhau ein bod ar y blaen drwy’r byd yn darged realistig iawn. Felly yn sicr, ni fyddwn yn tynnu ein troed oddi ar y targed. Mae...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Pren o Gymru
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau cynifer o gyfleoedd â phosibl i gynyddu gwaith plannu a rheoli coetiroedd. Dylai hyn sicrhau bod cyflenwad digonol o bren ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Bydd ein polisi adnoddau naturiol yn allweddol wrth gynllunio a blaenoriaethu’r defnydd o dir yn y dyfodol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Pren o Gymru
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Do, rwyf innau hefyd wedi ymweld â Clifford Jones Timber yn Rhuthun, a mynegwyd yr un pryderon wrthyf. Cyfoeth Naturiol Cymru yw darparwyr pren mwyaf Cymru, a chredaf fod hynny’n cyflenwi 60 y cant o holl ofynion y sector. Mae’n rhaid i ni gyflenwi mwy nag yr ydym wedi bod yn ei wneud. Bellach, mae gennym y cynllun marchnata pren, sy’n amlinellu argaeledd pren. Bydd hwnnw’n para am...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.