Vikki Howells: 10. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth? OAQ53839
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Roeddwn innau, hefyd, yn awyddus i ofyn cwestiwn am adroddiad IPBES, a nodaf eich atebion cynharach. Credaf fod y ffaith bod cynifer ohonom wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â bioamrywiaeth heddiw yn dangos pa mor bwysig yw'r pwnc i bob un ohonom. Felly, hoffwn ofyn i chi sut y bwriadwch gadw a gwella amddiffyniadau amgylcheddol sy'n deillio o'r UE. Gwn fod yr RSPB wedi...
Vikki Howells: Weinidog, yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â datblygiad Lle Ysgol Cymdeithas Tai Rhondda yn Hirwaun, a adeiladwyd gan un o'r cwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint yn lleol, WDL Homes Ltd. Ac roedd y datblygiad tir llwyd hwn yn defnyddio grant tai cymdeithasol i ddatblygu 12 cartref, ac uned fasnachol hefyd, sef siop bentref yn ei hanfod. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu...
Vikki Howells: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfleoedd trafnidiaeth gyhoeddus yng nghymoedd de Cymru? OAQ53886
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gweld y cyhoeddiad am y cynllun arbrofol gwasanaeth bysiau y tu allan i oriau arferol o gwm Rhondda yn rhan o fenter tasglu'r Cymoedd, a gwn fod llawer o'm cyd-aelodau o'r Cymoedd yr un mor frwdfrydig i ddarllen am hynny. Rydym ni'n gwybod nad yw'r amserlenni presennol yn diwallu anghenion gweithwyr shifft, a all fod mor bwysig i fynd...
Vikki Howells: Trefnydd, hoffwn ofyn am dri datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ddatganiad gennych chi fel y Gweinidog Cyllid ar y paratoadau i greu treth ar dir gwag. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi'i groesawu, gan y gallai fod yn sbardun allweddol i fynd i'r afael â bancio tir, hybu adfywio a lles cymunedol, felly tybed sut mae cynlluniau ar gyfer hyn yn mynd rhagddynt. Yn...
Vikki Howells: Pa ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i helpu i ddarparu athrawon cyflenwi mewn ysgolion?
Vikki Howells: Mae'n bleser gen i siarad o blaid y cynnig a gyflwynwyd ger ein bron heddiw oherwydd bod y pwnc hwn yn un gwirioneddol bwysig, yn ymarferol ac mewn egwyddor—yn ymarferol gan fod hyn yn ymwneud â disodli cyllid gwerth £370 miliwn i Gymru bob blwyddyn, cyllid sydd wedi'i ddefnyddio i greu degau o filoedd o swyddi newydd yng Nghymru, i gynorthwyo a sefydlu degau ar filoedd o fusnesau, i...
Vikki Howells: Hoffwn ddechrau drwy ganmol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am yr hyn sydd, yn fy marn i, yn waith diddorol iawn. Dilynais yr ymchwiliad hwn yn fanwl, ac rwyf am ganolbwyntio ar un neu ddau o argymhellion heddiw. Mae hwn yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae'n agos at fy nghalon fel rhiant, mae'n agos at fy nghalon fel cyn-athrawes a hefyd fel cyn-weithiwr cynllun...
Vikki Howells: Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Lafur Seland Newydd wedi cyhoeddi ei chyllideb llesiant fis diwethaf, a ddisgrifir fel y cyntaf yn y byd. Cyflwynodd dangosyddion llesiant cymdeithasol fel blaenoriaethau yn ei pholisi economaidd, yn hytrach na phwyslais cul ar gynnyrch mewnwladol gros neu werth ychwanegol gros. Gyda mentrau fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)...
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae hwn yn fater mor bwysig, yn enwedig a ninnau i gyd yn gwybod am y niwed y mae llygredd aer yn ei achosi. Fel cynifer o gymunedau'r Cymoedd, mae fy ardal i yn un lle y cafodd aer ei lygru gan ddiwydiant trwm gyda'r gwaith tanwydd di-fwg Phurnacite eiconig yn cau 30 mlynedd yn ôl, ond mae etifeddiaeth hynny, yn enwedig o ran cyflyrau anadlol yn...
Vikki Howells: Mis Mehefin yw Mis Pride LHDT, ac mae'n achlysur i bobl LHDT+ ddathlu datblygiadau yn eu hawliau ledled y byd. Mae hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r materion cyfredol sy'n wynebu'r gymuned. Mae digwyddiad 2019 yn arbennig o bwysig, gan fod yr un mis yn nodi hanner canmlwyddiant terfysgoedd Stonewall. Ceir arwyddocâd yn nes adref hefyd i fis Pride eleni, wrth i Pride Cymru ddathlu eu...
Vikki Howells: Nid wyf yn meddwl y dowch o hyd i Aelod yn y Siambr hon heddiw sy'n fwy angerddol ynglŷn â hanes Cymru ac addysgu hanes Cymru na fi, fel rhywun sydd â gradd mewn hanes a hanes Cymru o Brifysgol Caerdydd a gradd Meistr yn hanes modern Cymru o'r un sefydliad, ac yn bwysicach, rhywun a fu’n addysgu hanes mewn ysgol uwchradd yng nghyfnod allweddol 3, TGAU a Safon Uwch am 16 mlynedd i...
Vikki Howells: Ac eto heddiw rwy'n ansicr a fyddaf yn gallu cefnogi'r cynnig hwn ai peidio, oherwydd credaf efallai nad ydych wedi meddwl drwyddo'n iawn. Fe wrandawaf yn astud ar sylwadau'r Gweinidog ar y mater cyn gwneud fy mhenderfyniad, ond hoffwn dynnu sylw at y pwynt mwyaf amlwg. Mae'n bwynt sensitif iawn, ond yn bwynt y mae angen ei wneud mewn gwirionedd. Mae'r cynnig yn nodi y dylid addysgu hanes...
Vikki Howells: [Anghlywadwy.]—pan fo pob TGAU hanes unigol sy'n cael ei ddarparu gan CBAC yn cynnwys dimensiwn hanes Cymru.
Vikki Howells: Hoffwn ymuno â fy nghyd-Aelod, David Melding, i fynegi fy nghyffro ynglŷn â'r ffaith y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Rondda Cynon Taf yn 2022, ac yn darparu buddion diwylliannol ac economaidd pwysig, yn ogystal, wrth gwrs, â chodi proffil yr iaith Gymraeg. Credaf mai un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050...
Vikki Howells: Ar 23 Mehefin 1894, am ddeng munud i bedwar yn y prynhawn, clywyd dwy glec uchel yng Nghilfynydd, o ganlyniad i ffrwydrad dinistriol yng nglofa'r Albion. Y lofa hon a arweiniodd at sefydlu'r pentref. Ar ôl agor y siafft gyntaf, cynyddodd y boblogaeth o 500 o fewn degawd, ac roedd oddeutu 3,500 erbyn 1901. Fodd bynnag, ar y diwrnod hwn, cafodd y trychineb hwn yn y pwll glo effaith ofnadwy ar...
Vikki Howells: Weinidog, mae'n beth da ein bod yn gallu elwa yma yng Nghymru o gynlluniau megis Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a'r gronfa teithio llesol. Nodaf gyfraniad David Melding gyda diddordeb, ac rwy'n credu y gallai fod llawer o bobl ifanc yn gwylio hyn gan feddwl, 'Sut y gallwn gael mentrau fel honno i weithio yn ein hysgolion ni?' Felly, dyma fy nghwestiwn i chi: sut y mae plant a phobl ifanc yn...
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i'r holl staff ar y pwyllgor am eu cefnogaeth mewn ymchwiliad a fu’n hynod ddefnyddiol. Wrth godi i siarad heddiw, hoffwn ddechrau drwy nodi'r canmlwyddiannau pwysig sy'n cael eu dathlu eleni mewn perthynas â datblygu polisi trafnidiaeth yn y DU. Pan oeddwn yn athrawes, roeddwn bob amser yn dweud wrth fy myfyrwyr fod hanes yn berthnasol yn y byd modern, a chredaf bod yr...
Vikki Howells: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd i dalu am wisgoedd ysgol? OAQ54194