Mark Reckless: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cyfraddau treth incwm yng Nghymru?
Mark Reckless: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau faint o arian y gellir ei ddefnyddio o dan ffrydiau ariannu cyfalaf gwahanol ar gyfer ffordd liniaru'r M4? OAQ52916
Mark Reckless: Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Ebrill, fe ofynnoch chi am fwy o bwerau benthyca gan y Trysorlys i ariannu ffordd liniaru'r M4. Er hynny, pan gytunasant yn y gyllideb, fe ymosodoch chi arnynt am amharchu datganoli. Bellach, clywn y gallai’r bleidlais gael ei gohirio, ond yn eich maniffesto, fe ddywedoch chi, a dyfynnaf, 'Byddwn yn cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer yr M4'. Ysgrifennydd y...
Mark Reckless: Hoffai llawer o bobl yn Islwyn fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth digidol yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, ac mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynlluniau i greu'r rhain. Mae gennym Gampws Gwyddor Data y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rwy'n falch o glywed y bydd Ken Skates yn ymweld â chanolfan ddata'r genhedlaeth nesaf—y fwyaf yn Ewrop—ddydd Llun. Ond i lawer o bobl,...
Mark Reckless: A gawn ni ddatganiad ar ffordd liniaru'r M4? Pan oeddech chi'n cymryd lle'r Prif Weinidog ar 23 Hydref, arweinydd y tŷ, fe wnaethoch addo pleidlais rwymol yn amser y Llywodraeth a dywedasoch wedyn fod hyn wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar 4 Rhagfyr. Mae'r amserlen gennym hyd at y Nadolig bellach ac nid oes golwg o unrhyw gynnig ar yr M4. A wnaethoch chi gamsiarad? A wnewch...
Mark Reckless: Dylai pob ysgol allu gwasanaethu plant â nam ar y synhwyrau i'r un graddau, neu a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu ei bod hi'n well i ysgolion arbenigo a chael ysgolion arbennig ag arbenigedd datblygedig yn y maes hwn?
Mark Reckless: Rwy'n sylwi bod y Gweinidog wedi siarad am funud a hanner cyn i chi sôn am ffordd liniaru'r M4, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael y ddadl hon yr wythnos nesaf, fel yr awgrymwyd gennych, rwy'n credu, mewn sesiwn flaenorol. Rwy'n meddwl tybed, o ystyried bod y Prif Weinidog wedi gweithio mor galed i sicrhau nad yw'n rhagfarnu ei safbwynt fel y gall ystyried yr ymchwiliad mewn modd diduedd...
Mark Reckless: A fydd yr Aelod yn ildio?
Mark Reckless: Mae'n cyfeirio at newid yn y boblogaeth, ond mae bron 30 mlynedd, yn sicr, bellach ers y cymerwyd y cyfrifiad. Mae rhwng traean a hanner y bobl a gafodd eu mesur bellach wedi marw, yn ôl pob tebyg. A yw hynny'n sail briodol ar gyfer mesur poblogaeth, neu a yw oherwydd mai'r cynghorau Llafur sydd â'r poblogaethau sy'n gostwng?
Mark Reckless: Os gwnawn hi'n anos i bobl yng Nghymru werthu eu busnesau i bobl o'r tu allan i Gymru—neu 'werthu allan', fel y cyfeiriwyd ato rwy'n credu—onid oes perygl y byddai hynny, yn ei dro, yn atal pobl rhag adeiladu eu busnesau yng Nghymru yn y lle cyntaf?
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: Yma, mae'r cynnig yn cyfeirio at y penderfyniad i fwrw ymlaen ai peidio, ond onid oes dau benderfyniad gwahanol yma: (1) a ddylid gwneud y Gorchmynion hyn a rhoi caniatâd cynllunio, lle mae'r Prif Weinidog presennol wedi bod yn ofalus i beidio â dangos tuedd ac mae mewn sefyllfa dda i wneud hynny, ac yna, yn ail, penderfyniad ynglŷn ag a ddylid blaenoriaethu a gwario'r arian a chychwyn ar...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A yw'n gyfarwydd â'r orsaf newydd yn Llan-wern, gyda'r orsaf breifat newydd arfaethedig ger Llaneirwg, ond hefyd yr ymgyrchoedd dros orsafoedd, fel ym Magwyr a Gwndy—pe bai gennym sawl gorsaf newydd ar y rheilffordd honno, byddai'n creu achos cryf iawn dros fath ychwanegol o wasanaeth sy'n stopio ar wahân i'r gwasanaethau cyflym sydd gennym ar hyn o bryd?
Mark Reckless: A gaf fi ymyrryd?
Mark Reckless: O ystyried nifer yr Aelodau Llafur nad yw eu gweledigaeth o Gymru yn cynnwys adeiladu ffordd liniaru'r M4, tybed pam y rhoesoch hynny yn eich maniffesto.
Mark Reckless: A wnaiff arweinydd y tŷ ildio?
Mark Reckless: O ystyried hyd yr adroddiad hwn a chymhlethdod y mater, er ei fod angen cyngor cyfreithiol wrth gwrs a phobl eraill a fydd yn cynghori ac yn darllen yr adroddiad, oni fyddai'n gwneud synnwyr i'r Prif Weinidog gael yr adroddiad yn awr a chael mwy o amser a chyfle i'w ddarllen, er mwyn rhoi ystyriaeth briodol dros gyfnod angenrheidiol o amser i ba benderfyniad bynnag y bydd yn ei wneud wedyn?
Mark Reckless: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4? OAQ53033
Mark Reckless: Ond nid yw ystyriaeth yn parhau gan y Prif Weinidog. Rydych chi'n cyfeirio at y ffaith ei fod yn dilyn proses statudol lem, ond ble yn y broses statudol honno y mae'n dweud y dylai adroddiad yr arolygydd gael ei godi gan gyfreithwyr a swyddogion yn Llywodraeth Cymru, a chael ei gadw'n ôl oddi wrth y Prif Weinidog am gyfnod, erbyn hyn, o ddau neu dri mis? Onid yw hynny'n awgrymu bod rhywbeth...