Canlyniadau 401–420 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gwasanaethau Anstatudol (28 Chw 2018)

Alun Davies: Rwy'n falch fod y Blaid Geidwadol bellach yn teimlo'r angen i roi cyngor i mi ar fy atebion yn ogystal â chraffu ar fy mherfformiad yn y swydd. A gaf fi ddweud hyn: prin y mae'n gweddu i unrhyw Aelod Ceidwadol ddod yma i drafod y problemau sy'n wynebu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau y maent hwy eu hunain yn eu cefnogi.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Tasglu'r Cymoedd (28 Chw 2018)

Alun Davies: Mae'r tasglu yn gweithredu dull cydgysylltiedig o gyflawni datblygu economaidd ar draws y Cymoedd, yn enwedig drwy hybiau strategol a chefnogi entrepreneuriaeth. Bydd hefyd yn sicrhau bod pobl yn y Cymoedd yn elwa ar ddatblygu economaidd ledled de-ddwyrain Cymru drwy weithio gyda'r bargeinion dinesig a sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl yn deillio o brosiectau seilwaith mawr.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Tasglu'r Cymoedd (28 Chw 2018)

Alun Davies: Diolch i fy nghyfaill o Gaerffili am y cwestiwn anodd hwnnw. A gaf fi ddweud bod tasglu'r Cymoedd yn bodoli er mwyn siapio polisïau ac ymagwedd Llywodraeth Cymru? Nid yw'n bodoli fel endid annibynnol ar wahân i'r Llywodraeth, ac fel y cyfryw, mae'n ceisio gweithio'n agos gyda'r ddwy fargen ddinesig yn ne Cymru, yn y brifddinas-ranbarth ac yn Abertawe, ac mae'n ceisio sicrhau ein bod...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Tasglu'r Cymoedd (28 Chw 2018)

Alun Davies: Lywydd, rydych yn ymwybodol mai fi yw'r Aelod dros Flaenau Gwent a bod gennyf ddiddordeb uniongyrchol yn y mater hwn. Hoffwn ddweud wrth yr Aelod fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ym Mlaenau Gwent rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol yno, a gwaith gyda'r ardal fenter a bwrdd yr ardal fenter ac eraill sydd â diddordeb mewn buddsoddi yn economi Blaenau'r Cymoedd. Rydym ein dau...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Tasglu'r Cymoedd (28 Chw 2018)

Alun Davies: A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod dros Ferthyr Tudful? Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod—Merthyr Tudful a Rhymni, dylwn ddweud, wrth gwrs, neu fe fyddaf mewn trafferth ofnadwy. Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod yn hyrwyddo'r ardal honno, ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod hyn ar agenda tasglu'r Cymoedd a Llywodraeth Cymru...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Cynllun Treialu Cyd-ymateb (28 Chw 2018)

Alun Davies: Lywydd, mae'r cynllun treialu hwn wedi dod i ben bellach. Gwnaeth achos cryf dros ddiffoddwyr tân yn cyd-ymateb i argyfyngau meddygol, gan achub bywydau ac arbed arian. Mae gwneud hynny'n rhywbeth parhaol yn dibynnu bellach ar gytundeb cyflog newydd i ddiffoddwyr tân, ac rwy'n gobeithio y gall y ddwy ochr ddod i gytundeb ar hyn.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Cynllun Treialu Cyd-ymateb (28 Chw 2018)

Alun Davies: Cyfarfûm â'r cyd-gyngor cenedlaethol ac Undeb y Brigadau Tân ac ochr y cyflogwyr ar 30 Ionawr er mwyn trafod papur a gyflwynwyd i mi a Gweinidogion eraill y DU gan y cyd-gyngor cenedlaethol ar ffyrdd gwahanol y gall ein gwasanaeth tân ddatblygu er mwyn darparu gwasanaethau gwell ar gyfer y gymuned. Mae gennym eisoes nifer o wasanaethau ychwanegol sy'n cael eu darparu gan y gwasanaeth...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Ad-drefnu Llywodraeth Leol (28 Chw 2018)

Alun Davies: Byddai unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer ad-drefnu yn cynnwys darpariaeth sy'n pennu y byddai'r holl rwymedigaethau, gan gynnwys rhwymedigaethau troseddol, yn trosglwyddo o'r awdurdod blaenorol i'r awdurdod newydd ar y diwrnod y byddai'r ad-drefnu'n dod i rym.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Ad-drefnu Llywodraeth Leol (28 Chw 2018)

Alun Davies: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. A gaf fi ddweud wrtho ei fod yn amlwg yn fater y bydd angen i mi ei ystyried yn fwy manwl na rhoi ateb llawn y prynhawn yma? [Chwerthin.]

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Ad-drefnu Llywodraeth Leol (28 Chw 2018)

Alun Davies: Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cydymdeimlo â hynny. A gaf fi ddweud, Lywydd, y byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater, gan ei fod yn amlwg o ddiddordeb i'r Siambr ac mae'n amlwg yn fater pwysig y mae angen inni fynd i'r afael ag ef?

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Gwasanaeth Tân ac Achub (28 Chw 2018)

Alun Davies: Mae strwythur presennol yr awdurdodau tân ac achub yn dyddio o ganol y 1990au. Mae angen ei ddiwygio er mwyn sicrhau bod awdurdodau tân ac achub yn gwbl atebol am gyflawniad a gwariant. Ni fydd hyn o reidrwydd yn golygu newidiadau i nifer neu ardaloedd gweithredu'r awdurdodau tân ac achub.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Gwasanaeth Tân ac Achub (28 Chw 2018)

Alun Davies: Lywydd, rwy'n falch o glywed yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn dadlau dros newidiadau i strwythur a threfniadaeth cyrff llywodraeth leol yng Nghymru. Rwy'n falch iawn ei fod wedi ymuno â ni yn y consensws hwnnw. A gaf fi ddweud wrtho nad wyf, ar hyn o bryd, yn bwriadu gwneud unrhyw ddatganiad ar y mater hwn, ac eithrio dweud fy mod wedi ysgrifennu at gadeiryddion y tri awdurdod tân ac...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (28 Chw 2018)

Alun Davies: The majority of the most deprived Valleys communities will be able to access at least one strategic hub within 45 minutes using public transport. In addition to hubs, the taskforce is focused on working with businesses, employers and individuals to develop the foundational economy and improve support for entrepreneurs.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (28 Chw 2018)

Alun Davies: Public services deliver vital services to people in Pembrokeshire and across Wales. Their ability and resilience to deliver positive outcomes in challenging times is a priority for me and this Government.      

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfiawnder Troseddol ( 7 Maw 2018)

Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad i raddau helaeth lle y gorffennodd John Griffiths ei gyfraniad ef, drwy gytuno'n gryf iawn â'r pwyntiau a wnaeth John yn ei gyfraniad, ond hefyd, rwy'n meddwl, gyda'r consensws cryf iawn ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma. Hoffwn ddweud, Ddirprwy Lywydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma....

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Diolch yn fawr. Llywydd, rwy'n credu mewn Llywodraeth Leol. Cefais fy magu mewn tŷ lle'r oedd fy nau riant yn gweithio yn darparu gwasanaethau lleol yn Nhredegar. I mi, nid yw Llywodraeth Leol yn ymwneud yn unig â strwythurau a llinellau ar fapiau. I mi, mae'r drafodaeth hon yn ymwneud â phobl, ac mae'n ymwneud â phwy ydym ni fel pobl. Hoffwn inni drafod a dadlau sut yr ydym ni'n cryfhau...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Rwyf wedi ymrwymo i ddarparu mwy o bwerau i lywodraeth leol Cymru ac rwyf eisiau rhoi'r pwerau newydd hynny i gynghorau sy'n gadarn ac yn ddigon cynaliadwy i'w defnyddio. Rwy'n gobeithio y bydd hon yn drafodaeth fuddiol a chadarnhaol. Yn rhy aml yn y gorffennol, mae pob un ohonom ni wedi canolbwyntio dim ond ar yr heriau sy'n wynebu cynghorau, boed y rheini yn rhai ariannol neu fel arall....

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Rwy'n credu y bydd yr Aelodau drwy'r Siambr gyfan yn falch o glywed bod gan y Ceidwadwyr Cymreig gwestiwn neu ddau ar ddiwedd hynny. Byddaf yn dweud wrth yr Aelod imi orffen fy natganiad gyda'r geiriau fy mod yn gobeithio y gallwn ni gael sgwrs gadarnhaol, adeiladol a gobeithiol bellach. Efallai fod hynny, ynddo'i hun, yn obeithiol. Mae'r Aelod wedi rhestru nifer o ymgynghoriadau a'r broses y...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Rydw i'n dal yn mynd i fod yn cymryd fy optimism ymlaen gyda'r math o atebion rydym ni'n eu cael, achos beth rydw i'n clywed gan y llefarydd Plaid Cymru yw ailadrodd hanes; araith hanesyddol, ond ddim yn cynnig unrhyw syniadau newydd. Dyna beth nad ydym ni'n gweld yn y drafodaeth yma. Nid oes un o'r gwrthbleidiau rydym ni wedi clywed ganddyn nhw yn barod—nid oes ganddyn nhw unrhyw syniadau...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Ydy, mae gweithio rhanbarthol yn rhan hanfodol a phwysig o'r hyn yr ydym yn ei wneud. Nid y naill neu'r llall mohono, os mynnwch chi. Mae hyn yn ymwneud â chreu'r unedau llywodraethu gyda'r capasiti a'r gallu strategol i rymuso ac i sbarduno gweithio rhanbarthol. Roeddech chi a minnau yn cefnogi uno arfaethedig Torfaen a Blaenau Gwent yn y Cynulliad blaenorol, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.