Canlyniadau 401–420 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Pren o Gymru
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ydy, yn bendant, ac roedd enghreifftiau da iawn o sut y gellid defnyddio pren wrth adeiladu tai ym Mhentre Solar pan fu’r ddau ohonom yno. Rwyf wedi bod yn trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mewn perthynas ag edrych ar wahanol ffyrdd o adeiladu tai. Soniais yn fy ateb blaenorol i Darren Millar fod gennym gynllun marchnata pren...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Pren o Gymru
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ni allaf roi manylion penodol i chi ynglŷn â Chwm Afan, ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu atoch.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae’n amlwg i mi fod angen ymdrech gydunol arnom ar draws pob sector er mwyn mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Mae arnom angen atebion radical ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fod hyn yn un o fy mhrif flaenoriaethau yn fy mhortffolio. Fe fyddwch yn gwybod ein bod newydd gael ymgynghoriad diweddar ar ansawdd aer lleol, a byddaf yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig cyn diwedd y...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Mae’r trafodaethau hynny wedi digwydd, ac mae’n amlwg, fel y dywedwch, ei fod yn rhywbeth y gallwn edrych arno wrth iddo fynd drwy’r Cynulliad, gan nad oes dim yn bwysicach, mae’n amlwg, o safbwynt iechyd y cyhoedd, nag ansawdd aer. Fel y dywedwch, cawsom ein hatgoffa o hynny’n bendant ddoe.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Byddaf yn cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos nesaf—ar y pymthegfed, rwy’n credu—i drafod hynny, ond byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl y cyfarfod hwnnw.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Credaf ein bod wedi gweld cynnydd mewn perthynas â’r sector llaeth yn dilyn yr adolygiad hwnnw a gynhaliwyd gan fy rhagflaenydd, fel y dywedwch. Un o’r argymhellion a ddaeth o’r adolygiad oedd y dylem gael hyrwyddwr llaeth. Rwy’n awyddus iawn i fwrw ymlaen â hyn, ac ar hyn o bryd, rydym yn ceisio dod o hyd i’r unigolyn mwyaf addas a phriodol i wneud hynny.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ni allaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny ar hyn o bryd. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Yn wir, mae swyddogion o’r pedair gwlad yn cyfarfod ar hyn o bryd. Nid wyf yn siŵr a yw hyn ar yr agenda, ond yn sicr, mae swyddogion yn edrych ar hyn ledled y DU.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ie, mae’n faes yr ydym yn ei ystyried. Fe fyddwch yn gwybod am y cynllun grantiau bach newydd, ond byddwn yn eu galw’n ‘grantiau fferm’ er mwyn osgoi drysu rhyngddo a’r rhaglen datblygu gwledig. Mae hwn yn faes, efallai, lle y byddwn yn gallu helpu ffermwyr llaeth yn benodol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ddim o gwbl, a chredaf y byddai’r sector amaethyddol yn dweud wrth yr Aelod pa mor fodlon ydynt ynglŷn â’n hymgysylltiad â’r rhanddeiliaid. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi dechrau cynnal digwyddiadau i randdeiliaid yn syth ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ar ddiwedd y mis, credaf y byddwn yn cynnal y chweched neu’r seithfed. Mae ymgysylltiad y gweinidogion...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Wel, bydd yn rhaid inni ei adolygu, oherwydd, yn amlwg, pan fydd yr holl bwerau o’r UE yn dychwelyd i Gymru, bydd gennym gyfle wedyn i sicrhau ein polisi amaethyddol ein hunain yng Nghymru. Yn amlwg, mae rheoliadau—os gofynnwch i nifer o ffermwyr a bleidleisiodd dros ‘adael’ pam eu bod wedi pleidleisio dros ‘adael’, mae rheoleiddio’n cael ei grybwyll fel un o’r rhesymau. Ni...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Credaf fod popeth ar yr agenda, i fod yn berffaith onest â chi. Rydym yn boddi o dan lawer iawn o reoliadau a deddfwriaeth mewn perthynas ag amaethyddiaeth a physgodfeydd yn unig. Yn fy mhortffolio i, mae 5,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth a rheoliadau. Felly, wyddoch chi, credaf ein bod—. Rwyf wedi dweud fy mod yn awyddus iawn i weithio’n agos iawn gyda’r sector i sicrhau bod y polisi...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad at Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ac i awdurdodau lleol ar gyfer mynediad cyhoeddus ledled Cymru. Yn ddiweddar, cyhoeddais fy mwriad i ddatblygu a chyhoeddi cynigion i ddiwygio deddfwriaeth er mwyn datblygu ymagwedd well a thecach at fynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad at Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Byddwn, rwy’n credu bod hwnnw’n syniad da iawn ac wrth gwrs, mae’r pumed pen blwydd eleni. Credaf nad yw’r cyfraniad at economi Cymru, er enghraifft, yn rhywbeth sy’n cael ei gydnabod bob amser. Ond rwy’n cytuno y dylem ei ddathlu. Fel y gwyddoch, rydym yn darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i wella a hyrwyddo’r llwybr ac rwy’n credu bod yna bethau y gallwn eu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad at Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn ac rwy’n credu ei fod yn ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw’n iawn hefyd. Yn sicr, rydym wedi cael tua 5,800 o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ac ni fyddwch yn synnu clywed bod pynciau megis y rhai yr ydych newydd eu crybwyll wedi cael eu nodi yn hwnnw. Ond yn sicr, gallwn edrych i wneud yn siŵr fod—. Fel y dywedais,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad at Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Wel, soniais yn fy ateb blaenorol i arweinydd y Ceidwadwyr fod yn rhaid cael y cydbwysedd hwnnw, ac mae’r trafodaethau hynny’n barhaus, mewn gwirionedd. Ond pan fyddaf yn ystyried addasu’r ddeddfwriaeth, credaf y bydd hwnnw’n gyfle arall i gael y drafodaeth honno gyda thirfeddianwyr. Ond yn sicr, byddwn yn dweud ei fod yn fater sy’n codi yn y rhan fwyaf o fy nghyfarfodydd gyda’r...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Cynllun Datblygu Gwledig
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae rhanddeiliaid wedi rhoi eu hasesiad i mi o’r effeithiau ar yr economi ac ar gymunedau. Byddaf yn buddsoddi mewn prosiectau gwerthfawr i gynorthwyo busnesau a chymunedau i adeiladu eu cydnerthedd hirdymor. Yn ddiweddarach y mis hwn, byddaf yn cyhoeddi manylion ynglŷn â phryd a sut y bydd yr arian sy’n weddill yn cael ei ymrwymo a’i wario.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Cynllun Datblygu Gwledig
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Rydym wedi edrych o ddifrif ar ddefnyddio offerynnau ariannol yn y Cynllun Datblygu Gwledig, ond maent yn gymhleth iawn. Maent yn cymryd amser i’w sefydlu, ac maent yn gostus iawn i’w gweinyddu, ac rydym wedi canfod y byddai’n cymryd tua dwy flynedd i’w sefydlu, ac yna, wyddoch chi, gwneud y taliad cyntaf. Felly, wyddoch chi, gyda Brexit ar y gorwel, nid wyf yn credu y byddai gennym...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Cynllun Datblygu Gwledig
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Yn rhyfedd ddigon, roeddwn yn siarad gyda fy swyddogion am ardaloedd cynhyrchu bwyd—nid yn unig yn Ynys Môn, ond mewn rhannau arall o Gymru—ddoe, ac mae’n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Fel y dywedais, yn ddiweddar cytunais y systemau cyflwyno ar gyfer gweddill y rhaglen yn y dyfodol, ond byddaf yn gwneud cyhoeddiad llawnach oherwydd mae gennym £223 miliwn o’r rhaglen ar...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Cynllun Datblygu Gwledig
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Mae yna lawer iawn o gwestiynau sydd heb eu hateb. Mae maint y gwaith hwn yn enfawr, ond rydym yn mynd i’r afael ag ef, ac rwy’n credu mai’r ateb a roddais i Neil Hamilton oedd ein bod ymhell ar y blaen i bedair gwlad y DU mewn perthynas ag ymgysylltu â rhanddeiliaid. Credaf mai dyna’r ateb penodol a roddais i Neil Hamilton. Felly, rwyf wedi cael llawer iawn o drafodaethau â’r...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Twristiaeth Bwyd
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae’r cynllun gweithredu twristiaeth bwyd, a lansiwyd ym mis Ebrill 2015, yn nodi mentrau a gweithgaredd hyrwyddo i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru. Mae’n cynnwys camau i ddatblygu twristiaeth bwyd fel sector ac fel pwynt gwerthu i Gymru, gyda bwydydd o Gymru yn cael eu hyrwyddo mewn digwyddiadau, gweithgareddau ac atyniadau mawr.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.