David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ddyfyniad o'r ail baragraff: Nid yw carchardai yng Nghymru yn perfformio cystal â charchardai yn Lloegr ar amrywiaeth o fesurau diogelwch carchar. Mae nifer y digwyddiadau a gofnodwyd o hunan-niwed ac ymosodiadau carchar yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag... yn Lloegr. Mewn gwirionedd roedd mwy o ddigwyddiadau yng...
David Rees: Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn y ceir ysgolion sydd mewn cyflwr tebyg i'r hyn yr ydych yn siarad amdano, a dylent fod ar fand A neu fand B o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond a ydych hefyd yn derbyn y ffaith bod yna ysgolion newydd sbon yn cael eu hadeiladu? Mae gennyf dair ysgol gyfun yn fy etholaeth, ynghyd â dwy ysgol gynradd newydd, sy'n gyfleusterau...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, llesiant a chwaraeon, mewn gwirionedd, ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r penderfyniad i newid ffiniau Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf. Mae hyn yn cyflwyno canlyniadau pwysig i fy etholwyr i ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a gaiff ei wasanaethu gan glinigwyr o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, a hefyd,...
David Rees: A gaf i ddechrau drwy efallai atgoffa pobl, yn anffodus, y bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019 oherwydd bydd Theresa May yn dal ei gafael ar bŵer ac yn ddi-os yn ein harwain ni allan, oherwydd mae hi wedi gwneud hynny'n gwbl glir? Ond y cwestiwn yw ar ba delerau yr ydym ni'n ymadael, a dyna'r cwestiwn mwyaf i bob un ohonom ni yn ein gyrfaoedd gwleidyddol, rwy'n credu, yn y dyfodol....
David Rees: Fe wnaf ddod at hyn, oherwydd mae'n bwynt diddorol iawn. Mae'n amlwg i mi nad oes gan y Llywodraeth bresennol unrhyw sgiliau negodi o gwbl, ei bod yn mynd i'r negodiadau heb ddeall bod negodi yn broses ddwyffordd, mewn gwirionedd, a bod yn rhaid i chi ddeall dadleuon y ddwy ochr a'r hyn y mae'r naill ochr a'r llall yn ei dymuno. Mae'n amlwg nad yw Llywodraeth y DU yn deall hynny a'i bod yn...
David Rees: Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol y dylwn fod yn siarad yn y ddadl hon fel cynrychiolydd etholaeth yr hyn a labelwyd fis yn ôl yn unig fel y dref fwyaf llygredig yn y DU. Hoffwn gofnodi eu bod yn anghywir, ac y dylai'r ffigur a ddyfynnwyd ganddynt, sef 18 mg/cu m fod wedi bod yn 9.6 m mg/cu, sy'n dod â ni i lawr i'r lefel gyfartalog a chyrraedd y terfynau. Felly, fe wnaf yn siŵr...
David Rees: Gwnaf.
David Rees: Rwy'n cytuno'n llwyr fod y dechnoleg i edrych ar, nid yn unig yr hydrogen ond ailgylchu rhai o'r nwyon gwastraff a ryddheir, a'r allyriadau o ganlyniad i hynny, a sut y gallwch ddal carbon ar y staciau a'r pethau hynny—dyma dechnolegau yr ydym yn eu datblygu ac mae angen inni adeiladu arnynt. Mae angen inni annog pobl fel Tata i fuddsoddi yn y gwaith ymchwil hwnnw hefyd, felly rwy'n...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw?
David Rees: Rwy'n derbyn y pwynt hwnnw, ond rwy'n credu nad yw ond yn deg derbyn bod y ffyrdd yn llawer mwy peryglus nag yr oeddent pan oeddech chi a minnau'n mynd i'r ysgol, ac nid yw gyrwyr eu hunain bob amser yn ymwybodol o'r hyn sydd ar y palmentydd heddiw. Felly, nid un peth ydyw, mae'n gyfuniad o bethau.
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Rwy'n ddiolchgar iawn ichi am dderbyn ymyriad, ac rwy'n datgan ar goedd fod fy ngwraig yn aelod o staff y GIG. A allwch chi ddweud wrth staff y GIG yng Nghymru felly pa bryd y byddant yn cael y cynnydd hwnnw a beth fydd yn talu amdano? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae eich Llywodraeth eich hun yn Llundain yn dweud, 'Codiadau yn y dreth'. Dyna ni—atalnod llawn. Ni chawn unrhyw...
David Rees: Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â'r fformiwla ariannu a ddefnyddir i ddyrannu arian i fyrddau iechyd?
David Rees: 3. Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardaloedd na fydd yn cael eu gwasanaethu gan fetro de Cymru? OAQ52472
David Rees: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae llawer o gymoedd nad ydyn nhw'n mynd i gael eu gwasanaethu gan fetro de Cymru, gan gynnwys cwm Afan. Rwyf i wedi cael deiseb gan drigolion yng nghwm Afan sy'n pryderu am wasanaethau bws yng nghwm Afan a'r gostyngiad i nifer y gwasanaethau. A dweud y gwir, mae gennym ni Abergwynfi a Blaengwynfi sy'n cael eu gwasanaethu bob dwy awr, a...
David Rees: Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am dri datganiad y prynhawn yma, os gwelwch yn dda. Fe wnaf i'r ddau hawdd yn gyntaf. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad ddoe ynghylch y concordat y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyrraedd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Wrth ddarllen drwy'r concordat, mae mewn gwirionedd yn disgrifio swyddogaethau yn bennaf, ond...
David Rees: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a wnaf i ddim. A gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'n gyfle i mi gofnodi fy niolch a fy ngwerthfawrogiad o holl staff y GIG sydd wedi gweithio dros y 70 mlynedd hynny ac sy'n dal i weithio ac a fydd yn gweithio yn y blynyddoedd sydd i ddod. Eto rwy'n cofnodi, Dirprwy Lywydd, fod fy ngwraig yn un o'r aelodau...
David Rees: Hoffwn ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Mae'n ddiddorol iawn deall y sefyllfa ar gyfer yr angen hwnnw i ymyrryd, ac rwy'n cefnogi eich pwyntiau yn llwyr. Rwy'n deall yr angen i wahanu'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi penderfynu mewn gwirionedd ar gydsyniad, yn seiliedig ar y cytundeb a'r gwelliannau, a Senedd yr Alban, fel y dywedodd Simon Thomas yn gwbl briodol, yn gwneud...
David Rees: A wnaiff ef ildio?
David Rees: Diolchaf i'r Aelod am ildio, ac rwy'n gwerthfawrogi'r hyn y mae newydd ei ddweud am safbwynt UKIP. A ydych chi felly mor hynod siomedig â minnau bod eich cyn-arweinydd, Nigel Farage, ddim ond wedi mynd i un o 42 o gyfarfodydd y pwyllgor oedd yn ymdrin â physgodfeydd?