Mark Isherwood: Do, cafodd ei sefydlu gan Iain Duncan Smith. Dyna ddatgan ffaith, ond aeth ati’n fwriadol i ddod â phrif weithredwr i mewn nad oedd yn aelod o’r blaid. A dweud y gwir, roedd yn gyn-gomiwnydd—yn sicr, ymhell i’r chwith o’r Blaid Geidwadol. Aeth ati’n fwriadol i boblogi’r canol â rhai nad oeddent yn Geidwadwyr, ac mae ganddo ASau Llafur a chyn-aelodau seneddol ar ei fwrdd rheoli...
Mark Isherwood: Diolch. Rydym ni'n gwybod bod y ffigurau'n dangos, yn gyffredinol, bod plant sy'n cael eu magu ar aelwydydd sy'n gweithio yn gwneud yn well yn yr ysgol ac mewn bywyd fel oedolyn. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder a fynegwyd ers cyhoeddiad diweddar ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2016, sy'n dangos bod nifer y plant sy'n byw mewn aelwydydd di-waith tymor hir wedi gostwng gan...
Mark Isherwood: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cau ysgolion gwledig? OAQ51262
Mark Isherwood: Diolch. Fel y gwyddoch, mae pryderon yn cael eu lleisio'n rheolaidd fod meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn llywio penderfyniadau'r cyngor ynglŷn â pha ysgolion i'w cau. Pan fynychais y sesiwn alw i mewn ar gau ysgolion gwledig yn Sir y Fflint y llynedd, gwnaed cyflwyniadau ar sail tystiolaeth yn unol â chod trefniadaeth ysgolion...
Mark Isherwood: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y defnydd gorau o wasanaethau ataliol i helpu grwpiau sy'n agored i niwed yng Nghymru? OAQ51316
Mark Isherwood: Wel, diolch. Mae cymorth cysylltiedig â thai a ariennir drwy'r rhaglen Cefnogi Pobl ac a ddarperir trwy gymdeithasau tai a chyrff trydydd sector wedi bod yn gwella bywydau ac yn arbed symiau sylweddol i ddarparwyr sector statudol—byrddau iechyd, awdurdodau lleol—ers blynyddoedd lawer. Yn eich cytundeb ar y gyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru, cytunwyd gennych y byddech chi'n neilltuo...
Mark Isherwood: Galwaf am un datganiad ar nifer y disgyblion sy'n cael eu tynnu allan o'r ysgol i'w haddysgu gartref sydd ar y sbectrwm awtistiaeth neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol eraill. Efallai y byddwch chi'n ymwybodol bod BBC Wales wedi adrodd, ddydd Gwener diwethaf, ar waith ymchwil yn dangos bod nifer y disgyblion sy'n cael eu tynnu allan o'r ysgol i'w haddysgu gartref wedi dyblu yn y pedair...
Mark Isherwood: Rwy’n cynnig gwelliant 2, sy'n gresynu wrth y ffaith bod adroddiad blynyddol 2017 ar strategaeth 10 mlynedd camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', yn dangos y bu cynnydd mewn marwolaethau cysylltiedig ag alcohol a chysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru. Er bod yr adroddiad hwn hefyd yn honni cynnydd da o ran darparu triniaeth yn gyflymach, mae...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Lansiodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei Hymgyrch dros Anrhydeddu'r Cyfamod yn swyddogol yn Llundain ym mis Medi 2007 ac yng Nghymru cynhaliwyd digwyddiad yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn y mis canlynol. Ers dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae dynion a menywod wedi gwasanaethu ac ymladd dros eu gwlad dan delerau'r cyfamod milwrol, sy'n datgan na ddylai rhai sy'n...
Mark Isherwood: Fel gydag argymhellion eraill yn yr adroddiad hwn, cafodd y rôl hon ei chefnogi gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog. Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i fonitro ymlyniad wrth y cyfamod; ategu ei menter Croeso i Gymru gydag un linell gymorth...
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru?
Mark Isherwood: Arweinydd y Tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar sbwriel a chasgliadau bagiau sbwriel—pethau sydd yn aml yn cael eu codi yma, ond nid yn y rhan hon o Gymru yr wyf yn mynd i gyfeirio ati. Codwyd pryderon gyda mi yn Sir y Fflint, o Kinnerton Uchaf i Dreffynnon, nad yw pobl mwyach yn cael gadael unrhyw fagiau bin du ychwanegol ochr yn ochr â bagiau bin du a...
Mark Isherwood: Cefais y pleser o fynd i'r digwyddiad Creu Sbarc ddydd Mercher diwethaf. Roedden nhw'n croesawu'r ffaith eich bod wedi'i gynnal. Fe wnaethon nhw ddweud eu bod yn siomedig nad oedd neb o Lywodraeth Cymru yn gallu bod yno, ond roedd hi'n wych clywed cyfraniadau nid yn unig gan fusnesau, gan gynnwys rhywun o Wrecsam oedd yn eistedd wrth fy ymyl, ond hefyd gan awdurdodau lleol, gyda Phrif...
Mark Isherwood: Y prif reswm dros brinder tai cymdeithasol yw, heb fynd yn ôl i hen hanes, fod Llywodraethau Cymru yn nhri thymor cyntaf y Cynulliad wedi penderfynu rhoi blaenoriaeth isel i hynny yn eu cyllid, a thorrwyd dros 70 y cant ar y cyflenwad o dai cymdeithasol newydd dros gyfnod o 12 mlynedd. Cafwyd rhybuddion gan y sector, o'r sector masnachol i'r sector elusennol, y byddai hyn yn digwydd. Bob...
Mark Isherwood: Rydym wedi bod yn gohebu dros y misoedd diwethaf, ar ran ffermwr o Ynys Môn—cynhyrchydd cig oen—sydd wedi tynnu sylw at y potensial ar gyfer allforion cig oen Cymru, yn enwedig yn Sawdi Arabia. Roedd hefyd yn arfer gweithio i’r Gwasanaeth Hylendid Cig. Dywed fod gan bobl Sawdi Arabia lawer mwy o ddiddordeb mewn carcasau ŵyn Cymru na thoriadau cig, ac yn amlwg, bydd hyn yn effeithio ar...
Mark Isherwood: 7. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai? OAQ51343
Mark Isherwood: Diolch. Wel, yn eich sylwadau ym mis Mehefin yn ein papur newydd lleol, ar ôl i'r Prif Weinidog gymeradwyo cais cynllunio yn Llai ar sail argymhelliad gan arolygydd annibynnol, dywedasoch y byddai materion dadleuol fel hyn yn parhau hyd nes bod y cyngor yn mabwysiadu cynllun datblygu lleol. Yn ddiweddar, ar gais trigolion, mynychais ymchwiliad cyhoeddus ym Mhenyffordd, Sir y Fflint. Gwn na...
Mark Isherwood: Mae ein bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru mewn mesurau arbennig ac wedi gorwario oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod ein rhybuddion dros nifer o flynyddoedd. Ar bob achlysur, mae Gweinidogion Llafur wedi osgoi'r cyfrifoldeb gan ein cyhuddo ni yn lle hynny o ladd ar ein GIG pan fyddwn yn siarad oherwydd bod staff, cleifion a theuluoedd wedi gofyn inni...
Mark Isherwood: O ystyried eich sylwadau am yr argyfwng bancio, sut y buasech yn ymateb i gyhoeddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ym mis Ionawr 2009, a ddywedai fod Llafur wedi mynd i mewn i'r argyfwng presennol gydag un o'r diffygion mwyaf yn ei chyllideb strwythurol yn y byd diwydiannol a dyled fwy na'r rhan fwyaf o wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ar ôl gwneud...
Mark Isherwood: Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ydyw.