Rhianon Passmore: Weinidog, ym mis Rhagfyr y llynedd rhyddhaodd Llywodraeth Cymru fwletin ystadegol, 'Walking and cycling in Wales', a luniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ac mae'r ffigurau'n dangos bod 44 y cant o blant yn teithio'n llesol i ysgolion cynradd; mae 34 y cant o blant yn teithio'n llesol i'r ysgol uwchradd. Felly, gan fod cyfleusterau addysg newydd o'r radd flaenaf yn cael eu hadeiladu a'u...
Rhianon Passmore: Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n dal i fod yn gwbl sicr fod cyni yn gymhelliant gwleidyddol i guddio ymosodiad ideolegol ar y wladwriaeth a'r sector cyhoeddus gan Lywodraeth Geidwadol y DU, ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro am ddweud hynny. Mae'n hollbwysig i'r cyd-destun a'r rhagolygon i Gymru a phobl Cymru, sef y datganiad yr ydym ni newydd ei glywed. Ac rwy'n ofni bod y...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu'r proffesiwn addysgu gyflwyno'r cwricwlwm newydd?
Rhianon Passmore: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fanteision Diwrnod Aer Glân i genedlaethau iau yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Roedd Harold Macmillan yn Brif Weinidog Ceidwadol a oedd, fel y dywedodd Neil Kinnock unwaith, yn cynrychioli cenhedlaeth o Dorïaid a oedd yn cydnabod dyletswydd ac yn mynd ar drywydd yr amcan o un genedl. Mae'r Prif Weinidog Torïaidd presennol, Boris Johnson, ar y trywydd iawn i fod y Prif Weinidog a dreuliodd yr amser byrraf yn 10 Stryd Downing, ac nid oes ganddo unrhyw fwriad o...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. Soniasoch ar ddechrau'r hyn rydych newydd ei ddweud wrth y lle hwn fod pawb am gael plaid wleidyddol sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau a bu ichi gefnogi hynny yn ei hanfod, felly beth yw eich barn chi am y ffaith bod Boris Johnson wedi diarddel dogn fawr o'ch cymheiriaid Ceidwadol yn San Steffan?
Rhianon Passmore: 4. Pa gynlluniau wrth gefn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer pobl Islwyn yn dilyn cyhoeddi'r ddogfen Operation Yellowhammer? OAQ54347
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae'r orfodaeth i gyhoeddi'r ddogfen Operation Yellowhammer yn cadarnhau'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn ei ddweud yn gyhoeddus yn gyson ers misoedd lawer, sef y gallai Brexit 'dim cytundeb' ymyl dibyn gael canlyniadau niweidiol enfawr i bobl Cymru, eu teuluoedd a'n cymunedau. Ymhlith tudalennau'r ddogfen y mae rhybuddion nad ydynt y sefyllfa waethaf bosibl y...
Rhianon Passmore: Mae Islwyn yn etholaeth amrywiol, sy'n cynnwys cyfres o gymunedau Cymreig prydferth yng Nghymoedd Gwent, ac mae'n cynnwys rhyfeddodau tirluniau ffrwythlon naturiol Cymru ochr yn ochr â realiti llym cymdeithas sy'n parhau i ymrafael â heriau dad-ddiwydiannu: colli ei chymunedau mwyngloddio a dur a'r tebygolrwydd o ddatblygu afiechyd anadlol, gyda data mynegeion amddifadedd lluosog Cymru yn...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: O ran pwysigrwydd llygredd, a yw eich plaid bellach yn deall ac o'r farn fod cysylltiad agos iawn rhwng llygredd a newid yn yr hinsawdd?
Rhianon Passmore: Felly, rydych chi bellach yn credu bod newid hinsawdd yn digwydd.
Rhianon Passmore: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn awr yn fwy nag erioed efallai, rydym yn dechrau deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i hybu lles meddyliol a chymdeithasol unigolyn. Heddiw, ledled Cymru, bydd bechgyn, merched, dynion a menywod o bob oed, pob cefndir a phob maint wedi manteisio ar y cyfle yn heulwen yr haf bach mihangel hwn yr ydym yn ei fwynhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau elfennol fel...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae cymunedau yn Islwyn yn elwa ar bolisïau gweithgarwch corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol Llywodraeth Cymru?
Rhianon Passmore: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ54401
Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru, yn rhan o'r contract rheilffyrdd Cymru a'r gororau newydd, wedi ei redeg gan Trafnidiaeth Cymru, y byddai cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol rhwng Casnewydd a Glynebwy yn cael eu hailgyflwyno yn 2021. Ac mae hyn yn newyddion gwych i'm hetholwyr i yn Islwyn, yn Nhrecelyn, Crosskeys a Rhisga. Caewyd y cyswllt i deithwyr ym...
Rhianon Passmore: Rwyf i hefyd yn croesawu system drafnidiaeth integredig amlfoddol, uchelgeisiol ac ysbrydoledig i Gymru. Gweinidog, pa gyfleoedd y mae adolygiad rheilffordd Williams yn eu cynnig i Lywodraeth Cymru ysgwyddo cyfrifoldebau pellach dros greu gorsafoedd newydd ac ehangu gwasanaethau tram Cymru ar gyfer Cymru lanach, wyrddach?
Rhianon Passmore: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlenni sy'n gysylltiedig â gweithredu'r system anghenion dysgu ychwanegol? OAQ54383
Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Diolch am y cadarnhad, felly, y bydd y system anghenion dysgu ychwanegol yn dechrau fesul cam o fis Medi 2021 ymlaen. Yn wir, bydd athrawon, rhieni, addysgwyr ac undebau llafur addysg yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ac wedi gweithredu'n adeiladol ar eu hadborth a'r nifer fawr o sgyrsiau a gafwyd. Ac rwy'n gwybod, Weinidog, eich bod yn credu'n...