Andrew RT Davies: Gweinidog, pan oeddech yn rhoi eich tystiolaeth i’r pwyllgor rai misoedd yn ôl, ac yna fe ddaeth yr Ysgrifennydd addysg i mewn yn syth ar eich ôl, roedd yn ymddangos bod ychydig o ddryswch ynglŷn â sut yn union y byddai’r arian yn llifo o amgylch y system i ddarparu’r ddarpariaeth hon pan gaiff ei chyflwyno’n gyffredinol yn sgil y cynllun peilot. Sut ydych chi’n mynd â hyn ar...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei ffigurau rhestr aros ar gyfer GIG Cymru, ac roedd y ffigurau’n dangos bod un o bob saith o bobl, neu 450,000 o bobl, ar restr aros yng Nghymru. Un o bob 14 yw’r ffigur hwnnw yn Lloegr. Ceir pwysau ar draws y Deyrnas Unedig pan ddaw i wasanaethau'r GIG, ac mae pawb yn cydnabod hynny. Wrth i ni gyrraedd...
Andrew RT Davies: Rydych chi'n gwbl gywir, Prif Weinidog; gallech chi a minnau gyfnewid ystadegau, a byddai'r oriel i fyny'r grisiau a’r rheini sy'n gwylio ar y teledu yn cael eu drysu’n llwyr gan yr ystadegau hynny, ond mae'r ffigurau'n dangos, yng Nghymru, er enghraifft, y bu cynnydd o 400 y cant i nifer y bobl sy'n aros 12 mis neu fwy am driniaeth lawfeddygol. Yn y bwrdd iechyd gorau, Bwrdd Iechyd...
Andrew RT Davies: Rwy’n cytuno â chi, Prif Weinidog; mae'r GIG yn ymwneud ag acronymau ac, yn amlwg, ystadegau. Ond, yn aml iawn, rydym ni’n methu’r cleifion gwirioneddol sy'n aros am y clinigwyr sydd dan bwysau, a’r cwbl maen nhw ei eisiau yw ateb plaen. Pan fo gennych chi gymaint o fyrddau iechyd yng Nghymru, fel y dywedais, mae pedwar ohonynt—. Ac mae'n werth ailadrodd y diffygion neu'r...
Andrew RT Davies: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad yr ydych wedi'i gyflwyno y prynhawn yma. Rwy’n meddwl fy mod wedi dweud ar adeg eich penodi’n Ysgrifennydd y Cabinet fy mod yn dymuno'n dda ichi. Mae gennych swydd bwysig iawn. Un waith y mae plant yn mynd drwy ein system addysg, neu y mae myfyrwyr yn mynd drwy ein system addysg. Un cyfle maen nhw’n ei gael ac mae'n hanfodol bod ganddynt yr...
Andrew RT Davies: Yn sgil penderfyniad Transport for London i ddirymu trwydded gweithredwr hurio preifat Uber, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar bresenoldeb y cwmni yng Nghymru? (TAQ0046)
Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n cydnabod bod trwyddedu’n fater ar gyfer awdurdodau lleol, ond yn amlwg, mae gennych gyfrifoldeb Cabinet dros drafnidiaeth ac mae’n bwysig bod yno ddewis—dewis y gall y defnyddwyr ei wneud—o ran y model tacsi mwy traddodiadol neu’r model Uber sydd ar gael mewn rhai rhannau o Gymru. Felly, a ydych o’r farn y dylai’r dewis hwnnw...
Andrew RT Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf godi i gynnig y cynnig yn enw Paul Davies ar y papur trefn y prynhawn yma, mewn perthynas â’r ddogfen a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf, ‘Ffyniant i Bawb’, a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog fel datganiad yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ac yn amlwg, cawsom y datganiad ar y rhan addysg ddoe i roi ychydig mwy o gig ar esgyrn y...
Andrew RT Davies: Mae gennyf ddau ffigur i’w rhoi i chi—a nodais eich bod wedi dweud bod gennych y sgiliau, neu ‘Mae gennym y sgiliau yma yng Nghymru’—ac roedd un yn ymwneud â’r gwerth ychwanegol gros, ac yn genedlaethol, nid ydym ond yn cyfrannu 3 y cant o gyfoeth y DU ond mae gennym 5 y cant o’r boblogaeth. Ar y cyflog mynd adref, roedd Cymru a’r Alban yr un fath 20 mlynedd yn ôl; mae yna...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg araith yn ddiweddar a dynnodd sylw at y ffaith bod ysgolion uwchradd yng Nghymru nad oeddent wedi bod yn cyflwyno yr un disgybl ar gyfer arholiad gwyddoniaeth TGAU tan yn ddiweddar—dim un disgybl mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Hefyd, bu tuedd i lawer o ysgolion gyflwyno disgyblion ar gyfer y cyrsiau BTEC haws,...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, roedd hwnna'n ateb truenus. Yn ystod eich arweinyddiaeth chi—[Torri ar draws.] Yn ystod eich arweinyddiaeth chi—[Torri ar draws.] Yn ystod eich arweinyddiaeth chi, rydym ni wedi bod ag ysgolion uwchradd yng Nghymru—. Ac nid fy sylwadau i yw’r rhain, oherwydd ni allwn ni gael y data—rydym ni wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru i gael y data y seiliodd Ysgrifennydd...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, mae'n debyg bod David Melding yn cael ei gythruddo gan eich perfformiad y prynhawn yma, oherwydd mae’n agwedd laissez-faire iawn, mae’n rhaid i mi ei ddweud. Ni allwch amddiffyn system nad yw wedi—[Torri ar draws.] Ni allwch amddiffyn system nad yw wedi bod yn cyflwyno myfyrwyr TGAU ar gyfer y pynciau gwyddoniaeth, ac yna sefyll yn y fan yna a cheisio ei...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â’r adroddiad ynghylch ad-drefnu ysbytai cyffredinol dosbarth yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf? Hyd yn hyn, nid wyf yn credu y cafwyd datganiad. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol iawn i bobl yng ngorllewin Bro Morgannwg...
Andrew RT Davies: A wnewch gymryd ymyriad?
Andrew RT Davies: Diolch. Byddwn yn ddiolchgar i gael deall gan lefarydd cyllid Plaid Cymru—. Rwy'n deall bod yr Ysgrifennydd cyllid, wrth amlinellu’r gyllideb, wedi dweud ei fod yn bwriadu archwilio mesurau treth penodol yn y sector twristiaeth i godi arian. Nid oedd yn bwriadu lliniaru trethi yn y sector twristiaeth; ei fwriad oedd codi arian. O gofio eich bod wedi cael trafodaethau manwl gyda'r...
Andrew RT Davies: Ni fyddem yn cyflwyno treth dwristiaeth.
Andrew RT Davies: Gweinidog, diolch i chi am eich atebion hyd yma ar hyn. Rwy’n derbyn y pwynt fod yna gorff o dystiolaeth ar gael sy’n werth ei archwilio, ond rwy’n cytuno â’r teimladau a fynegoch mai camau cymesur yw’r hyn sydd ei angen. Fel rhywun sy’n hoffi meddwl ei fod wedi elwa o chwaraeon cyswllt dros y blynyddoedd ac sydd â phlant a fu’n cymryd rhan mewn pob math o chwaraeon hefyd,...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y llynedd, dywedodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid eu bod wedi gweld cynnydd o bron i 10 y cant i’r achosion o greulondeb at anifeiliaid y bu'n rhaid iddynt ymchwilio iddynt. Mae'r ddeddfwriaeth a'r gallu i reoleiddio yn y maes hwn wedi’u neilltuo’n bendant i Lywodraeth Cymru. Yn dilyn y cynnydd o 10 y cant i gwynion, cafwyd...
Andrew RT Davies: Mae'n ffaith mai un achos a amlygwyd gan yr RSPCA oedd sut y gwnaeth gŵr fwydo cocên i’w gi ac yna torri'r clustiau oddi ar yr anifail penodol hwnnw, a chafodd ddedfryd o 24 wythnos. Ni all hynny fod yn iawn, Prif Weinidog. Dyna'r mwyaf y gellid fod wedi ei roi i'r unigolyn penodol hwnnw. Mae cynlluniau ar y gweill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i gynyddu'r pwerau sydd ar gael yn...
Andrew RT Davies: Rwy'n cytuno â chi, ond yr hyn sy'n sicr o fewn eich rheolaeth yw'r gallu i wneud cynnydd yn y maes hwn. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith y byddwch yn ysgrifennu ataf gyda mwy o wybodaeth yn y maes penodol hwn, ond yr hyn sy'n gwbl eglur o'r dystiolaeth sydd o'n blaenau i gyd o’r holl droseddau a gyflawnwyd yn erbyn anifeiliaid sy'n ddiamddiffyn—ni allant amddiffyn eu hunain—nifer...