Canlyniadau 421–440 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Fe wnaf i ddweud bod y map yn fap dangosol, sy'n rhoi arwyddion o'r llwybr yr hoffem ni ei ddilyn. Ond, yn sicr, os gwneir achosion cryf, byddwn yn barod iawn i ystyried yr holl achosion hynny, fel yr wyf i wedi dweud mewn ateb i gwestiynau blaenorol. Mae hon yn broses Papur Gwyrdd, lle rydym yn hapus i ystyried yr holl gynigion gwahanol a wneir o unrhyw ffynhonnell wahanol er mwyn edrych yn...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Rwy'n ymwybodol o deimladau cryf yr Aelod dros Breseli. Caniatewch imi ddweud hyn: fel y dywedais wrth ateb cwestiynau blaenorol, yr hyn nad wyf yn mynd i'w wneud heddiw yw cyhoeddi fy nghasgliadau o'r broses hon. Nid wyf yn credu, gyda phob tegwch, y byddech yn disgwyl neu yn tybio y buaswn yn dweud hynny. Yr hyn yr ydym yn ei gynnig yw tri dewis, yr ydych chi wedi disgrifio dim ond un...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Diolch. Rwy'n falch bod yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn croesawu ar y cyfan y ffordd yr wyf yn ymdrin â'r materion hyn o ran datganoli pwerau i strwythurau a chyrff llywodraeth leol ledled Cymru, a datganoli llywodraethu yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch fy mod i yn croesawu hynny. Wyddoch chi, y sgwrs y rhoddoch chi gychwyn arni yn y cwestiwn hwnnw yw yr un sgwrs yn union...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Rwy'n cytuno â rhannau helaeth o araith Nick Ramsay, er mawr syndod iddo—mewn gwirionedd, rwy'n creu ei fod yn gywir. Y peth diddorol yw ei fod yn ei ddisgrifio ei hun yn un o feibion Sir Fynwy ac mae'n cymryd perchenogaeth o hynny, ond rwyf i o Sir Fynwy. Cefais fy ngeni yn Ysbyty Sant Ioan, Tredegar, Sir Fynwy. Cefais fy addysg yn Sir Fynwy hefyd. A'r tro cyntaf y gwelais y Crysau Duon...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Alun Davies: Ydw, rwy'n hapus i fynd ar drywydd y ddeialog a'r sgwrs honno. Fel y dywedais, dechrau proses yw hyn nid diwedd proses, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud heddiw yw ysgogi'r union sgwrs honno. Rwyf wedi siarad â'r holl arweinwyr llywodraeth leol yn y gogledd, ac wedi siarad â nhw yn fanwl am sut y maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd, ac rwyf wedi ceisio siarad â nhw am sut yr ydym ni'n...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyn-filwyr (21 Maw 2018)

Alun Davies: Rydym wedi nodi amrywiaeth o wasanaethau yn ein pecyn cymorth i'r lluoedd arfog, sy'n egluro ein hymrwymiad i gynorthwyo cyn-filwyr i ddychwelyd i gymunedau ledled Cymru.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyn-filwyr (21 Maw 2018)

Alun Davies: Cytunaf gyda'r Aelod dros y Rhondda fod nifer o faterion y gall cyn-filwyr eu hwynebu wrth iddynt adael y lluoedd arfog a dychwelyd i fywyd sifil. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn datblygu llwybr cyflogaeth er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny a'n bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ymdrin â materion sy'n ymwneud â digartrefedd hefyd. Rwy'n gwbl hyderus...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyn-filwyr (21 Maw 2018)

Alun Davies: Rwy'n gobeithio ein bod yn cefnogi ac yn darparu cyllid digonol i GIG Cymru i Gyn-filwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu cyllid blynyddol o £585,000, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol yn ddiweddar o £100,000 y flwyddyn er mwyn cynyddu'r capasiti ar gyfer cyn-filwyr ag anghenion iechyd meddwl....

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyn-filwyr (21 Maw 2018)

Alun Davies: Yn sicr. Mae'n amlwg fod y Gweinidog tai wedi clywed y cwestiwn a ofynnwyd gennych, ac o bosibl, gall ysgrifennu atoch, gan roi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â hyn. Ond yn sicr, rydym yn ymwybodol o'r materion hynny. Mae unigolyn sy'n ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog yn rhywun sydd ag angen blaenoriaethol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a byddant yn gymwys i gael lle i fyw os...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gwasanaethau Llywodraeth Leol (21 Maw 2018)

Alun Davies: Ar draws pob maes gwasanaeth, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cryn dipyn o gymorth i lywodraeth leol.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gwasanaethau Llywodraeth Leol (21 Maw 2018)

Alun Davies: Credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn awyddus i ymuno â mi i ddiolch i holl weithwyr y gwasanaethau cyhoeddus, mewn llywodraeth leol a mannau eraill, sydd wedi gweithio mor galed i gadw pobl yn ddiogel dros y mis diwethaf, lle y cawsom dywydd garw iawn mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ar draws y Siambr, credaf ein bod oll yn ddiolchgar i'r gweithwyr hyn yn y gwasanaethau...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gwasanaethau Llywodraeth Leol (21 Maw 2018)

Alun Davies: Yn sicr. Roeddwn yn falch iawn, fel yr Aelod dros Ferthyr Tudful, o gael trafod y mater hwn gydag Unsain yr wythnos diwethaf. Credaf fod y gwaith y mae Unsain yn ei wneud yn hollol arloesol o ran sicrhau bod gweithlu ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ochr yn ochr â darparwyr a chyflogwyr i gyflawni'r safonau gwasanaeth gorau posibl i bawb sydd angen gofal cymdeithasol yng...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

Alun Davies: Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth—[Torri ar draws.] Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth sydd ganddi, gan mai gennyf fi y cafodd yr ohebiaeth honno. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r cynnwys. Yr hyn a ddywedaf wrth yr Aelod yw ein bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i gyflwyno fformiwla y mae llywodraeth leol yn awyddus i'w defnyddio er mwyn dosbarthu ein grant cynnal ardrethi yn deg i bob...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

Alun Davies: Rwy'n cael llawer o sgyrsiau gydag arweinwyr awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol. Ac mae pob un ohonynt yn dweud pethau gwahanol iawn, mewn gwahanol ffyrdd, ac yn mynegi eu hunain yn wahanol. Ond nid oes un ohonynt—dim un—gan gynnwys arweinydd Bro Morgannwg, mewn gwirionedd, wedi dweud wrthyf, 'Hoffwn pe baem—' neu 'Rydym am i chi gyflwyno polisïau Ceidwadol a'r polisïau...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

Alun Davies: Rwy'n dod yma i siarad ar ran Llywodraeth Cymru, nid i siarad ar fy rhan fy hun, ac roedd y broses a lansiwyd gennym ddoe yn un o brosesau'r Llywodraeth. Roedd yn un o brosesau'r Llywodraeth. Fe'i lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Ond gadewch i mi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn: gofynnais i'r holl arweinwyr llywodraeth leol cyn y Nadolig beth oedd eu huchelgeisiau ar gyfer...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

Alun Davies: Credaf fod yr her a amlinellwyd gan lefarydd UKIP yn un dda, ac nid wyf yn anghytuno ag ef ynglŷn â'r heriau a amlygwyd. Nid wyf yn credu, ac nid wyf erioed wedi honni, fod y Llywodraeth yn credu bod siâp delfrydol a maint delfrydol i lywodraeth leol. Yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw cyhoeddi map dangosol a fydd yn ystyried siapiau posibl ar gyfer strwythurau yn y dyfodol. Rwy'n...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

Alun Davies: Na. Na, nid wyf yn cydnabod hynny, ac yn sicr, buaswn yn gobeithio gweld etholiadau cystadleuol a democratiaeth gystadleuol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, hyd yn oed.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

Alun Davies: Dros y misoedd nesaf, rwy'n gobeithio y byddwn yn dadlau ac yn trafod gweledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, yn hytrach na'r dull o gyflawni'r weledigaeth honno yn unig. Yr hyn y ceisiais ei nodi ddoe, a'r hyn yr hoffwn ei nodi dros y misoedd nesaf, yw gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol lle mae llywodraeth leol yn fwy pwerus nag y mae heddiw, yn gryfach nag y mae heddiw, lle mae...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro (21 Maw 2018)

Alun Davies: Ar gyfer 2018-19, bydd Cyngor Sir Penfro yn derbyn £162 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy'r setliad llywodraeth leol.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro (21 Maw 2018)

Alun Davies: Mae'r amrywiant, wrth gwrs, yn cael ei achosi gan benderfyniadau a wnaed gan Gyngor Sir Penfro, ac rwy'n cefnogi hawl Sir Benfro i wneud y penderfyniadau hynny yn llwyr. Mae Cyngor Sir Penfro wedyn yn ymdrin â chanlyniadau'r penderfyniadau y maent hwy eu hunain yn eu gwneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael dadl fywiog yn lleol am drethiant lleol. Credaf ei bod yn bwysig fod...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.