Lesley Griffiths: Rydych yn iawn; soniais fod y sector bwyd a’r sector twristiaeth yn sectorau blaenoriaeth, ac os ydym yn rhoi’r ddau gyda’i gilydd, gallwn weld fod bwyd yn rhan gwbl hanfodol o’r cynnig twristiaeth yma yng Nghymru. Mae’n darparu pwynt cyswllt cyffredin, rwy’n credu. Mae pobl yn dod i Gymru i weld y golygfeydd rhyfeddol; maent hefyd yn dod i fwynhau ein bwyd a diod gwych. Felly,...
Lesley Griffiths: Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr, ond mewn ateb ychydig o atebion yn ôl, soniais ei bod yn Flwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf, ond gallwn yn sicr edrych ar—
Lesley Griffiths: Nid wyf yn siŵr; mae hynny’n amlwg yn dod o fewn adran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Nid wyf yn gwybod beth yw 2019, ond gallaf yn sicr gael golwg ar hynny.
Lesley Griffiths: Diolch. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu a chynnal a chadw parciau cyhoeddus. Gall ein parciau cyhoeddus wella cydnerthedd ein hecosystemau a’n helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd fel llifogydd. Mae parciau cyhoeddus yn darparu mannau ar gyfer gweithgareddau hamdden, ardaloedd chwarae i blant, dysgu awyr agored a chyfleoedd i wella lles corfforol a meddyliol.
Lesley Griffiths: Fel y dywedaf, mae’n fater ar gyfer awdurdodau lleol, ac rydym wedi datgan ein barn yn glir iawn. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi ymgynghori’n ddiweddar ar y polisi adnoddau naturiol—daeth yr ymgynghoriad i ben ar 13 Chwefror—ac rwy’n paratoi i gyhoeddi’r polisi terfynol ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau’r haf, ac mae hwn yn faes yr ydym yn canolbwyntio arno.
Lesley Griffiths: Ydw, rwyf wedi cael cyfle, ac yn amlwg roeddwn yn y portffolio hwnnw yn flaenorol, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ei ystyried.
Lesley Griffiths: Gwnawn, yn sicr. Mae’n dda iawn gweld y gwaith hwn yn cael ei wneud. Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â’r parciau yng Nghaerdydd. Rwy’n credu bod hynny’n un o’r pethau, pan ddechreuais ymweld â Chaerdydd fel oedolyn; mae’r parciau’n ogoneddus iawn yn wir ac mae cymaint o fannau gwyrdd yn ein prifddinas.
Lesley Griffiths: Diolch. Fe’ch cyfeiriaf at fy natganiad ysgrifenedig ar 13 o Chwefror. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi gwelliannau i seilwaith mynediad presennol. Mae’n fwriad gennyf ddatblygu a chyhoeddi cynigion ar ddiwygio deddfwriaeth er mwyn datblygu ymagwedd well a thecach tuag at fynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored.
Lesley Griffiths: Mae pysgota yn amlwg yn weithgaredd hamdden pwysig iawn yng Nghymru ac mae rhai o’r llythyrau mwyaf angerddol i mi eu derbyn, rwy’n credu—credaf fod un ohonynt wedi’i ysgrifennu gan fachgen 10 oed, a oedd yn bysgotwr ifanc gyda’i dad. Fel y dywedais, rydym yn sicr yn edrych ar yr ymatebion a gawsom i’r ymgynghoriad a byddaf yn cyflwyno datganiad yn ddiweddarach eleni.
Lesley Griffiths: Cytunaf yn llwyr â chi fod marchogaeth yn rhywbeth y gall pobl anabl gymryd rhan ynddo. Ni allaf feddwl am unrhyw fentrau penodol sydd gennym nac unrhyw beth ar fy nesg gan unrhyw un sy’n gofyn am gymorth yn y ffordd honno, ond byddwn yn hapus iawn i’w ystyried pe bai hynny’n digwydd.
Lesley Griffiths: Diolch. Byddaf yn gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer ynni adnewyddadwy. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried pa agweddau y gallai targedau ynni ymwneud â hwy. Rwy’n credu bod prosiectau ynni cymunedol a lleol yn bwysig, gan ein bod eisiau gweld prosiectau’n cynnal budd economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Yn hollol, ac rydym wedi parhau i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i greu’r budd lleol mwyaf posibl o’r ystad, ac rydym yn cynnig cymorth o dan y gwasanaeth ynni lleol i alluogi datblygwyr cymunedol i gyflawni ar y cyfleoedd hyn. Rwy’n ymwybodol fod grwpiau wedi dod gerbron, yn enwedig cwmnïau cydweithredol, ac oherwydd nad oes ganddynt y math hwnnw o gofnod hanesyddol, ariannol, mae wedi...
Lesley Griffiths: Ie, mae’n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Mae gennym ddadl ddydd Mawrth nesaf, Lywydd, yn amser y Llywodraeth, sy’n ymwneud â hyn a thargedau ac yn y blaen. Roeddwn yn falch iawn o weld y targed hwnnw’n cael ei gyflwyno o’r mis nesaf a bydd 50 y cant o’r ynni hwnnw’n dod o Gymru ar y cychwyn. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn uchelgeisiol iawn—yn ymarferol ac yn...
Lesley Griffiths: Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw’r broses mor anodd ag y mae wedi bod ar adegau, o bosibl. Yn sicr, pan fyddaf yn cyfarfod â grwpiau sydd wedi rhoi’r cynlluniau ynni cymunedol hyn ar waith, maent wedi bod angen dycnwch ac amynedd anhygoel ac rwy’n credu bod angen i ni wneud...
Lesley Griffiths: Diolch. Yn ein hymgyrch i sicrhau dyfodol wedi’i ddatgarboneiddio, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae ein cyfoeth o adnoddau naturiol yn ein galluogi i elwa o ystod eang o gyfleoedd, o brosiectau mawr megis môr-lynnoedd llanw i gynlluniau cynhyrchu ynni ar raddfa gymunedol.
Lesley Griffiths: Wel, rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau i hyrwyddo buddsoddi ym mhob un o ranbarthau Cymru. Yn y sector ynni adnewyddadwy, rydym yn denu buddsoddiad drwy gynadleddau, drwy arddangosfeydd, megis digwyddiadau holl-ynni ac ynni’r tonnau a’r llanw RenewableUK. Mae’n bwysig iawn fod gennym gwmnïau cadwyn gyflenwi o Gymru ar ein stondinau Llywodraeth Cymru, er mwyn iddynt allu...
Lesley Griffiths: Wel, Lywydd, bydd yr Aelodau’n deall fy mod yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, ac mae hynny’n cynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer Bae Abertawe, o ystyried fy rôl statudol. Fodd bynnag, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael trafodaethau—Ken Skates a minnau—gyda Charles Hendry. Rydym yn cefnogi, mewn egwyddor, y bwriad i ddatblygu...
Lesley Griffiths: Mae gennym nifer sylweddol o brosiectau ynni yn y gymuned yn cael eu datblygu bellach. Rwy’n credu bod gennym oddeutu 11 wrthi’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Byddaf yn cyfarfod â’r Grid Cenedlaethol, os nad yr wythnos nesaf, yr wythnos wedyn, a hwnnw fydd fy nghyfarfod cyntaf, ond fel y dywedais, mae swyddogion wedi cael cyfarfodydd hefyd.
Lesley Griffiths: The Welsh Government provides significant levels of financial support for environmental projects which benefit the people of Wales both nationally and in their local communities. This includes core funding of over £21 million to successful applicants towards better management of our natural resources, increasing ecosystem resilience and delivery of commitments on biodiversity.
Lesley Griffiths: Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn creu llawer o ansicrwydd i’r sector amaeth yng Nghymru. Mae swyddogion wrthi’n defnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth er mwyn deall yn well y cyfleoedd allweddol sy’n bodoli a’r materion sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa fwy bregus. Mae’r gwaith dadansoddi yma eisoes wedi llywio ein safbwynt o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd a amlinellwyd ym...