Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a chadw meddygon teulu yn Islwyn?
Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a roddir i rieni gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant ac addysg gynnar yn Islwyn? OAQ54448
Rhianon Passmore: Diolch, Trefnydd. Etholwyd Llywodraeth Lafur Cymru yn 2016. Un o'i phrif ymrwymiadau oedd darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni diwyd plant tair a phedair blwydd oed ledled Cymru am 48 wythnos y flwyddyn. Ar ddiwedd mis Gorffennaf eleni, roedd bron i 16,000 o blant tair a phedair blwydd oed yn manteisio ar ofal plant ansoddol wedi ei ariannu gan y Llywodraeth. Ledled Cymru,...
Rhianon Passmore: A gaf i ganmol Llywodraeth Lafur Cymru am gyflwyno cyfres o ddatganiadau agored i agenda y Cyfarfod Llawn heddiw sy'n dangos y bygythiad gwirioneddol a phresennol y gall Brexit heb gytundeb ei achosi i Gymru? Mae perygl Brexit heb gytundeb yn wirioneddol, yn amlwg a cheir tystiolaeth o hynny. Gweinidog, beth yw eich barn chi a barn Llywodraeth Cymru ar y newyddion sy'n dod o Whitehall bod...
Rhianon Passmore: 10. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ganlyniad achos addoediad y Goruchaf Lys yn dilyn y dyfarniad a basiwyd ar 24 Medi 2019? OAQ54444
Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys, mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, wedi ymddiheuro i’w Mawrhydi y Frenhines, ond nid yw wedi ymddiheuro eto i Senedd y DU na phobl Cymru a’r Deyrnas Unedig. Weinidog, a gaf fi gymeradwyo camau pendant Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn yr achos hwn, ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu canlyniadau a goblygiadau'r dyfarniad i Gynulliad...
Rhianon Passmore: Daeth y ddeddfwriaeth gyntaf i Gymru'n unig ar yr amgylchedd hanesyddol yn gyfraith yn 2016, ac mae'n faes hollbwysig i Gymru, i'n heconomi yn ogystal â'n diwylliant, ac mae'n amlwg fy mod yn ymddiddori'n arbennig yn fy etholaeth, sef Islwyn. Mae Crymlyn yn Islwyn wedi'i leoli yng nghanol cymoedd Gwent ac mae'n ganolog i ddaearyddiaeth tasglu'r Cymoedd. Mae'n gymuned falch sydd â...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, cyhoeddwyd yn gynharach eleni bod Trafnidiaeth Cymru wedi llofnodi contract gwerth £1.9 miliwn gyda chwmni offer a gwasanaethau gwybodaeth rhyngwladol, Fujitsu, i wella effeithlonrwydd ac, fel y dywedasoch, i uwchraddio peiriannau swyddfeydd tocynnau a setiau llaw symudol ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, Prif Weinidog, fel y gweithredwr trenau cyntaf yn y DU i ymrwymo...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Weinidog yr Economi am egluro na fydd unrhyw un sydd â cherdyn teithio rhatach ar hyn o bryd, pan wneir y newidiadau i'r gyfraith, yn colli ei hawl i gael y cerdyn hwnnw o dan unrhyw amgylchiadau. Bydd hyn yn cynnig sicrwydd i unrhyw un o'm hetholwyr sydd, yn Islwyn, ag unrhyw amheuaeth ynglŷn â'u cymhwysedd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am haeriad...
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn ystod tri mis cyntaf 2019, dengys ffigurau—
Rhianon Passmore: O ie, wrth gwrs, mae'n ddrwg gennyf. Fe'i caf mewn munud. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd.
Rhianon Passmore: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Islwyn fel cyrchfan i dwristiaid? OAQ54549
Rhianon Passmore: O'r gorau. Yn ystod tri mis cyntaf 2019, dengys ffigurau fod 16.6 miliwn o ymweliadau dydd â chyrchfannau yng Nghymru, gyda gwariant cysylltiedig o £874 miliwn. Dros y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019, cafwyd 10.1 miliwn o deithiau dros nos i Gymru, cynnydd o 11 y cant, gyda gwariant o £1.848 miliwn, sydd hefyd yn gynnydd o 7.8 y cant mewn blwyddyn yn unig. Felly, Ddirprwy...
Rhianon Passmore: A gaf fi ddechrau, hefyd, drwy ddiolch i'm cyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac i'r cyd-Aelodau ar draws y Siambr a gefnogodd y cynnig deddfwriaethol hwn hefyd? Gwastraff plastig yw un o'r symptomau mwyaf amlwg o niwed amgylcheddol a gwaddol na ddylem gael ein cyhuddo o'i adael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae ein cefnforoedd, ein hafonydd, ein traethau, ein...
Rhianon Passmore: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae'r economi twristiaeth ac ymwelwyr yn sicr wedi bod yn rhaglen greadigol ac yn llwyddiant ysgubol hyd yma, ond mae'n fwy na thwristiaeth, fel y dywedwyd eisoes. Gan greu brand unigryw, mae Cymru wedi bod yn rhan bwysig o'r llwyddiant hwn, ond rhaid iddi hefyd fod yn gyfrwng i ryngweithredu'n gynaliadwy ac yn...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Felly, 'Diogelu Dyfodol Cymru', o ran y ddogfen a basiwyd gan y Siambr hon, nid ydych chi'n teimlo bod hynny'n ymyriad difrifol iawn.
Rhianon Passmore: Roeddwn yn meddwl ei fod yn eithaf clir—'Diogelu Dyfodol Cymru'.
Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i gynyddu capasiti teithwyr ar gyfer defnyddwyr rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ54629
Rhianon Passmore: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Diolch am eich ateb. Mae rheilffordd Glyn Ebwy i Gaerdydd, a ailagorwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru, wedi bod yn un o lwyddiannau mwyaf gweladwy datganoli. Yn yr 11 mlynedd ers ailagor y rheilffordd, mae teithwyr wedi heidio i ddefnyddio'r gwasanaeth bob awr. Fel yr Aelod dros Islwyn, byddaf yn parhau i ganmol y manteision nad oeddent ar gael o'r blaen y mae hyn yn...