Canlyniadau 421–440 o 800 ar gyfer speaker:Vikki Howells

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amseroedd Aros Orthodontig ( 1 Hyd 2019)

Vikki Howells: Diolch, Trefnydd. Croesawaf eich sylwadau yn y fan yna am y system e-atgyfeiriadau. Amcangyfrifir bod tua 25,000 o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth orthodontig ar hyn o bryd, ac mae'r rhestrau yn y rhan fwyaf o'r wlad yn ddwy neu dair blynedd o hyd. Caiff y darlun hwn ei gymhlethu gan y ffaith nad oes gan rai byrddau iechyd unrhyw ddarpariaeth uniongyrchol ac achosion o atgyfeirio...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ffordd Blaenau'r Cymoedd ( 2 Hyd 2019)

Vikki Howells: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch manteisio'n llawn ar adeiladu adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465? OAQ54410

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ffordd Blaenau'r Cymoedd ( 2 Hyd 2019)

Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Mae fy nghwestiwn yn dilyn cwestiwn a ofynnais i'r Dirprwy Weinidog ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Llawn ychydig cyn y toriad. Mae fy etholaeth yn cynnwys dau bentref sy'n ffinio â ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac mae'r ddarpariaeth band eang yn ofnadwy yn y ddau ohonynt. Mewn gwirionedd, cefais e-bost gan etholwr o un o'r pentrefi hynny neithiwr a ddywedai mai cysylltiad 3MB yw'r...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol ( 2 Hyd 2019)

Vikki Howells: Rwyf mor falch fy mod wedi gallu cyd-gyflwyno'r cynnig heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod yr AC dros Aberafan a'i gyd-gyflwyno hefyd gyda Leanne Wood. Bu David Rees a Leanne Wood yn hyrwyddwyr go iawn dros dwnnel y Rhondda, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth i fy ngalwad mewn perthynas â thwnnel Aber-nant, yn ogystal ag aelodau Cymdeithas Twnnel y Rhondda a gynigiodd eu...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol ( 2 Hyd 2019)

Vikki Howells: Rwyf am dreulio'r rhan fwyaf o fy amser yn sôn am dwnnel Aber-nant sy'n cysylltu Cwm-bach â Merthyr, neu dwnnel Merthyr, fel y'i gelwir yn lleol. Roedd yr hen dwnnel rheilffordd hwn, a gynlluniwyd gan Brunel, yn rhan o Reilffordd Cwm Nedd ac mae'n un edefyn, un gangen, o'r rhwydwaith cyfoethog o seilwaith diwydiannol hanesyddol rydym yn ei fwynhau yng Nghymru. Yn wir, am 110 o flynyddoedd,...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol ( 2 Hyd 2019)

Vikki Howells: Felly, gobeithiaf y gallwn weld cynnydd ar yr uchelgeisiau hyn a throi'r symbolau hyn o ddiwydiannaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn symbolau o ffyniant cynaliadwy'r unfed ganrif ar hugain.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ( 8 Hyd 2019)

Vikki Howells: 1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen cyfleusterau cymunedol? OAQ54469

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ( 8 Hyd 2019)

Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog, am y diweddariad yna. Rwyf i wir yn croesawu cyllid y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol yng Nghwm Cynon. Mae wedi helpu rhai prosiectau cwbl ryfeddol i gychwyn. Ond wedi dweud hynny, o fy mhrofiad i o ymwneud â grwpiau cymunedol sy'n mynd drwy'r broses ymgeisio, mae'r llinellau amser a roddir iddyn nhw yn aml yn aneglur, gall y dyddiadau y maen nhw'n...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ( 8 Hyd 2019)

Vikki Howells: Gweinidog, diolch am eich diweddariad heddiw. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â'r mater o newid diwylliant. Rydym ni i gyd yn gwybod bod newid diwylliannol yn rhywbeth sy'n anodd iawn ei weithredu, ond mae mor bwysig ac yn sail i'r holl waith sydd angen ei wneud i roi gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf ar sail ddiogel a chynaliadwy. Dechreuodd y panel trosolwg ar ei waith ym mis Mai eleni, ac rwy'n...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu (16 Hyd 2019)

Vikki Howells: Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am gynhyrchu'r adroddiad rhagorol hwn. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor hwnnw, ond mae'r materion y mae'n eu trafod yn peri pryder mawr i lawer o fy etholwyr. A buaswn yn mynd ymhellach i ddweud, am gyfnod sylweddol o amser ers i mi gael fy ethol, mai helpu etholwyr y gwrthodwyd bathodyn glas iddynt yw’r...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (22 Hyd 2019)

Vikki Howells: A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch creu Cronfa Ffyniant Gyffredin?

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Arloesi Digidol (23 Hyd 2019)

Vikki Howells: 4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesi digidol o fewn gwasanaethau iechyd a gofal? OAQ54576

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Arloesi Digidol (23 Hyd 2019)

Vikki Howells: Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn falch o ddarllen eich datganiad ysgrifenedig ar 30 Medi ar iechyd a gofal digidol a ddangosai fod cynnydd yn cael ei wneud, ac yn sicr mae'n rhywbeth y gwelaf ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar y rheng flaen mewn ymweliadau â gwahanol brosiectau yn fy etholaeth. Rwyf wedi tynnu sylw o'r blaen at sut y gall iechyd a gofal digidol gefnogi fy...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg (23 Hyd 2019)

Vikki Howells: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi lles meddyliol o fewn y sector addysg?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ( 5 Tach 2019)

Vikki Howells: 6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig? OAQ54640

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ( 5 Tach 2019)

Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i'n poeni'n fawr o ddarllen y papurau briffio o Araith ddiwethaf y Frenhines a oedd yn awgrymu y bydd y gronfa ffyniant gyffredin, a fydd yn disodli cyllid strwythurol yr UE, yn cael ei thrin yng nghyd-destun datganoli yn Lloegr. Y gobaith yw y bydd etholiad yn arwain at newid dull yn San Steffan, ond, yng ngoleuni pwysigrwydd unrhyw gynllun olynol i Gymru, a...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Rhaglen Erasmus+ ( 6 Tach 2019)

Vikki Howells: 5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cyfranogiad parhaus myfyrwyr o Gymru yn rhaglen Erasmus+ ar ôl Brexit? OAQ54639

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Rhaglen Erasmus+ ( 6 Tach 2019)

Vikki Howells: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, mae dysgwyr o Gymru wedi elwa’n fawr o Erasmus+, gyda dros €40 biliwn yn dod i Gymru rhwng 2014 a 2018 i gefnogi dros 7,000 o gyfranogwyr mewn 245 o brosiectau. Gwn fod Comisiwn yr UE wedi awgrymu, ar gyfer y cylch a fydd yn cychwyn yn 2021, y bydd cwmpas y cynllun yn dod yn fyd-eang, ond fel gyda chymaint o bethau eraill, mae'r ansicrwydd a...

6. Datganiadau 90 Eiliad ( 6 Tach 2019)

Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn ddatganiad 90 eiliad am dedi cyffredin—tedi cyffredin a gafodd ei daflu, ei wneud yn fyw gan ddyn smotiog ac a gafodd bwerau arbennig gan fam natur. Ie, dyma ddatganiad 90 eiliad am SuperTed. Ymddangosodd SuperTed, y comisiwn cyntaf un gan S4C, ar deledu Cymraeg am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd 1982, felly mae'r mis hwn yn nodi ei ben blwydd yn 37 oed....

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Teledu Cylch Cyfyng Gorfodol ar Gyfer Lladd-dai (13 Tach 2019)

Vikki Howells: 9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ystyriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol ar gyfer lladd-dai yng Nghymru? OAQ54663


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.