John Griffiths: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, a chydnabod mor bwysig yw gofal diwedd oes a gofal lliniarol i gynifer o'n poblogaeth a'u teuluoedd. Mae wedi bod yn bwysig ers cryn dipyn o amser ac yn amlwg, fe fydd yn bwysig yn y dyfodol. Fel Aelodau eraill, rwy'n gyfarwydd iawn â gwaith hosbisau lleol ac ansawdd a phwysigrwydd y gwaith hwnnw, yn fy achos i, Hosbis Dewi Sant yn...
John Griffiths: Weinidog, rwy'n falch iawn ein bod yn cael y cyfle hwn heddiw, oherwydd mae'n fy ngalluogi i dynnu sylw eto at yr achos dros orsaf gerdded newydd ym Magwyr, y gwn eich bod yn gyfarwydd iawn ag ef, ac y soniodd Delyth amdano'n gynharach yn wir. Mae cefnogaeth gymunedol wych i orsaf newydd yno fel rhan o gronfa gorsafoedd newydd y DU. Mae gwaith wedi'i wneud, mae camau wedi'u cymryd ac mae...
John Griffiths: Diolch ichi am y gefnogaeth honno, David, ar fater sy'n sicr yn uno'r gymuned leol, a gwn fod llawer o Aelodau Cynulliad wedi bod yn rhan o'r gwaith hwnnw. Hoffwn innau hefyd adleisio'r hyn a ddywedodd Delyth am y cyswllt rheilffordd i deithwyr o Lynebwy i Gasnewydd, oherwydd mae'n fater a fu ar y gweill ers amser maith, ac mae bwlch mor amlwg yn y gwasanaethau lleol fel bod cymunedau,...
John Griffiths: 5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yn Nwyrain Casnewydd? OAQ54793
John Griffiths: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac yn arbennig am dynnu sylw at y gwaith da iawn sy'n digwydd yn ysgolion Casnewydd, yr wyf i'n amlwg yn gyfarwydd iawn ag ef. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ac mae ehangder y problemau anadlu erbyn hyn yn rhywbeth tebyg i un ym mhob pump o bobl yn y DU gydag anawsterau anadlu. Yn amlwg, mae aer glân yn ffordd...
John Griffiths: Diolch, Llywydd. Felly, dim prinder syniadau, Prif Weinidog, ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod angen i ni gael synnwyr o frys o ran sut yr ydym ni'n gwneud y newid hwn.
John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar eiddo gwag, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Mae eiddo gwag yn broblem wirioneddol sy'n effeithio ar ein holl gymunedau. Mae tua 27,000 o dai gwag hirdymor ledled Cymru, felly mae angen gweithredu ar fyrder i fynd...
John Griffiths: Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom am fentrau sydd wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn sicrhau bod eiddo'n cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond mae'r cynnydd wedi aros yn ei unfan. Credwn fod angen dull strategol er mwyn i newid sylweddol ddigwydd. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn, gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol i flaenoriaethu'r mater a deall y cymorth y gall ei ddarparu....
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran? Rwy'n credu ei bod yn glir fod consensws cryf ynglŷn â phwysigrwydd y materion hyn, a hefyd, yn gyffredinol, y math o gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â hwy. Ond roedd rhywfaint o gonsensws hefyd, rwy'n credu, ynglŷn â'r ffaith fod y consensws rwyf newydd ei ddisgrifio wedi bod yno ers cryn dipyn o amser, ond nid...
John Griffiths: Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Casnewydd?
John Griffiths: Diolch, Lywydd. Weinidog, yng Nghasnewydd wrth gwrs mae gennym safle Llanwern, sydd wedi'i integreiddio â Phort Talbot. Fel y dywedodd Dai Rees a Jack Sargeant eisoes, gwelir y gweithgarwch Tata hyn yn ei gyfanrwydd i raddau helaeth. Felly, rydym yn pryderu llawer am y swyddi yn Llanwern, a hefyd, wrth gwrs, ar hyn o bryd, y swyddi yng ngwaith Orb. Mae'r gwaith ar stop, gyda darpar brynwyr...
John Griffiths: Yn amlwg, mae tlodi a thlodi plant yng Nghymru yn faterion arwyddocaol iawn i ni ac i'r rhai sy'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol sydd wrth wraidd y cynnydd y mae angen inni ei wneud yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw a'r ffocws y mae'n ei ganiatáu yma yn y Siambr. Dylem fod yn trafod y materion hyn a dylem fod yn edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol ymlaen a ffyrdd...
John Griffiths: Gwnaf, yn wir.
John Griffiths: Wel, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Huw, am yr ymyriad hwnnw. Rydym yn edrych ar hynny yn yr adroddiad, fel y gwyddoch, Huw, a gwn eich bod yn awyddus iawn i ystyried y dull hwnnw o weithredu yn ystod gwaith y pwyllgor. Felly, rydym yn cydnabod bod angen edrych ar lais cryfach yng Nghymru. Pan ddaw'n bryd inni drafod yr adroddiad, rwy'n siŵr y byddwch yn cymryd rhan ac y byddwn yn clywed...
John Griffiths: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Nghasnewydd? OAQ54917
John Griffiths: Diolchaf i'r Prif Weinidog am hynna. Mae gan Gasnewydd botensial mawr o ran ei chysylltiadau trafnidiaeth, y draffordd, y rheilffyrdd a'r porthladd, ac, wrth gwrs, ei safle daearyddol rhwng pwerdai economaidd Caerdydd a Bryste. Mae ganddi boblogaeth leol a gweithlu gydnerth iawn hefyd sydd wedi addasu i heriau economaidd dros flynyddoedd lawer. Rydym ni'n gweld diwydiannau newydd, Prif...
John Griffiths: Rwy'n credu bod yr adroddiad rydym yn ei drafod heddiw yn un buddiol ac arwyddocaol iawn, oherwydd mae addysg mor hanfodol bwysig a hanes yn rhan mor fawr, a rhaid iddo fod yn rhan mor fawr o addysg. Yn amlwg, mae angen i bob un ohonom gael dealltwriaeth mor dda ag y gallwn o hanes y byd, ein hanes lleol, ein hanes cenedlaethol, os ydym am wir ddeall y gorffennol ac wrth gwrs, ei berthnasedd...
John Griffiths: Weinidog, fel y gwyddoch, mae llawer iawn o rwystredigaeth a diffyg amynedd ynghylch y ffaith nad yw'r cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy wedi'i sefydlu eto. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw am y gwaith sydd angen ei wneud i sefydlu'r cysylltiad hwnnw?
John Griffiths: Yn ffodus, rydym ni wedi gwneud cynnydd o ran lleihau'r niferoedd sy'n smygu yng Nghymru, Prif Weinidog, ond mae'n dal i gael effaith ofnadwy ar iechyd yng Nghymru, ac yn enwedig o ran pobl sy'n byw mewn tlodi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ei gwneud yn fwyfwy annerbyniol yn gymdeithasol i smygu yng Nghymru, ac mae'r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig wedi bod yn...
John Griffiths: Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid trin troseddau casineb yn erbyn y gymuned Sipsiwn/Teithwyr gyda'r un difrifoldeb â throseddau casineb yn erbyn unrhyw gymuned neu leiafrif arall yng Nghymru? Cefais gyfarfod yn ddiweddar gydag aelodau lleol o'm cymuned Sipsiwn/Teithwyr, ac maen nhw'n teimlo'n gryf iawn, yn rhy aml, nad yw hynny'n wir. Rhoesant enghreifftiau o negeseuon...