Suzy Davies: Fel y gwyddoch, mae'r safle arfaethedig ym Maglan yn fy rhanbarth i, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y camau y bydd y ddwy Lywodraeth yn eu cymryd ar hyn nesaf. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad i'r ddadl ychydig wythnosau yn ôl, mae gennyf lai o amheuon ynghylch y cysyniad o'r safleoedd carchar mawr hyn am y rheswm a roddais y pryd hwnnw, sef, yn y bôn, eu...
Suzy Davies: Nid oes gennyf lawer o amser. Byddwch yn weddol gyflym.
Suzy Davies: Nid yw'n llawn, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ond mae llawer o'r staff yno wedi cael profiad o weithio yn y math hwn o carchar yn flaenorol ac roeddent yn fy ateb ar sail y lleoedd roeddent wedi bod ynddynt yn flaenorol yn ogystal â'u profiad yng ngharchar Berwyn. Fel rwy'n dweud, gofynnais y cwestiynau hynny ynglŷn â'r beichiau ar wasanaethau lleol, gan eu bod yn cyd-fynd â'r hyn a...
Suzy Davies: Roeddwn am ofyn a ydych wedi ei weld, oherwydd rwyf fi wedi'i weld, ac ni fyddwn yn ei ddisgrifio fel barics fy hun.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, rwy'n cytuno 100 y cant â'r Prif Weinidog: mae'r Gymraeg wedi bod yn rhan o'r cwricwlwm ers datganoli, felly mae yna nifer fawr o bobl gyda sgiliau Cymraeg ond sydd ddim yn eu defnyddio, neu sydd ddim yn ystyried bod gyda nhw sgiliau Cymraeg. Mae gan athrawon rhaglen sabothol, wrth gwrs. A oes gyda chi syniad eto am sut y gellid cefnogi'n ystyrlon unigolion...
Suzy Davies: Bu'n 15 mis ers i'r mater o danau naddion pren a dympio naddion pren yn anghyfreithlon gael ei godi yn y Siambr, felly byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallem gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, neu o bosibl gan Weinidog yr Amgylchedd nawr, i'n diweddaru ar y cynnydd: ar y meysydd rheoleiddio sydd angen eu diwygio, y dystiolaeth sydd wrth wraidd y penderfyniadau y maen nhw wedi eu gwneud,...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn ichi am y cyfraniad agoriadol yna, Weinidog. Mae gen i lawer o gwestiynau ynghylch hyn. Nid oeddwn i mewn gwirionedd yn ymwneud â'r ddwy Ddeddf y cyfeirir atyn nhw yn hyn pan gawson nhw eu pasio, felly maddeuwch imi am ddweud fy mod i'n credu bod rhai o'r Rheoliadau hyn wedi'u defnyddio fel cyfle i ddatblygu polisi yn hytrach na'i roi ar waith—a dyna pam...
Suzy Davies: Nid wyf yn credu bod amser gennym.
Suzy Davies: Dywedodd y cyn Weinidog y byddai’n fodlon edrych ar rôl busnesau bach eu hunain yn hyrwyddo defnydd o'r iaith Gymraeg. Credaf i ei fod yn syniad da i chwilio am unigolion allweddol mewn busnesau bach sydd wedi eu hysgogi i rannu’r cyfrifoldeb am ddatblygu hyn fel rhan o ddysgu gydol oes, neu ddatblygu proffesiynol parhaus, neu ffordd arall addas i’r busnes bach. A ydych chi’n...
Suzy Davies: Cynrychiolir y sector addysg ar fwrdd cysgodol bargen ddinesig bae Abertawe gan brifysgolion. Bydd angen amrywiaeth o sgiliau, a allai, wrth gwrs, gynnwys rhai o'r unigolion rydym yn siarad amdanynt yn y cwestiwn hwn, yn y gweithlu os yw'r fargen am gyrraedd cynifer o gymunedau â phosibl, sy'n codi cwestiwn ynghylch rôl colegau addysg bellach yn y fargen. Mae angen iddynt allu cefnogi...
Suzy Davies: Ysgrifennydd Cabinet, mae cyd-ymatebwyr yn rhan hanfodol o ddarpariaeth y gwasanaeth ambiwlans, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae eu rôl hefyd i'w theimlo'n gynyddol oherwydd, pan fyddant yn ymateb i alwadau oren, neu wyrdd hyd yn oed, yr hyn a welant yw person yr oedd ei statws yn goch, neu fod eu statws wedi troi'n goch oherwydd yr oedi, a gallant naill ai ymdrin â hynny eu hunain...
Suzy Davies: Ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, sef y rhan helaeth o saith mlynedd erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £320 miliwn o arian trethdalwyr tuag at fusnesau yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys Gorllewin De Cymru. Erbyn mis Hydref, dim ond ar ddiwedd y flwyddyn diwethaf, clywsom fod llai na £7 miliwn o'r cyfanswm hwnnw wedi cael ei ad-dalu hyd yn hyn, a, hyd yn oed o...
Suzy Davies: Diolch am y cod a gaiff ei gyhoeddi heddiw. Mae arnaf ofn nad wyf i wedi ei weld ac efallai y bydd rhai o'r cwestiynau yr wyf yn eu gofyn eisoes wedi eu hateb, ac ymddiheuriadau am hynny. Y cwestiwn cyntaf yw hyn: a ydyw'r cod, fel y'i cyhoeddir, yn eglur o ran y mannau y mae'n gwyro oddi wrth y cod Gwasanaeth Erlyn y Goron presennol er mwyn inni allu gweld yn glir ymhle mae'r gwahaniaethau...
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog esbonio pam roedd angen i Lywodraeth Cymru ail-drafod ei threfniadau â Stiwdios Pinewood?
Suzy Davies: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad y bore yma o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe? 99
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Roeddwn yn gobeithio efallai y byddech yn rhoi ychydig mwy i mi ar hynny, ond mae'n gadael mwy o gwestiynau i'w gofyn. Rydym newydd glywed, drwy'r wasg, tua chwarter awr yn ôl mewn gwirionedd, ei bod yn ymddangos bod y swm sylweddol rywle rhwng £100 miliwn a £200 miliwn. Tybed a allech gadarnhau hynny yn eich ateb i'r cwestiwn hwn, ond os yw'r ffigurau...
Suzy Davies: Wel, mae symud nwyddau a phobl a'i effaith ar yr economi yn swnio'n union fel y math o beth a arferai wneud i mi ddwdlan ar ymyl y ddalen pan oeddwn yn gwneud fy safon uwch. Ond mae'n gwbl hanfodol i ffyniant Cymru ac ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i hynny. Credaf fod peth o'r dystiolaeth ystadegol rydym wedi'i chlywed eisoes yn y ddadl hon yn eithaf cryf. Wrth edrych ar fy...
Suzy Davies: Un o fy mhryderon am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fel y'i cymhwyswyd yng Nghymru yw ei fod ond yn ein rhwymo ni yma yn y Cynulliad ac yn Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi galw ers tro—yn sicr ar yr ochr hon i'r Siambr—am ymgorffori'r hawliau hynny ar bob lefel o wasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, ac yn sicr yn ein gwasanaethau iechyd. Felly, nid...
Suzy Davies: Pwy sy'n cynghori Ysgrifennydd y Cabinet ar benderfyniadau i gymeradwyo ceisiadau a wneir i'r gyllideb buddsoddi cyfryngau ar hyn o bryd?
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas ag amcanion y Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty gan Lywodraeth Cymru?