Canlyniadau 461–480 o 1000 ar gyfer speaker:Mark Reckless

8. Dadl ar NNDM6958 — Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin (30 Ion 2019)

Mark Reckless: Nid yw'r Aelod wedi derbyn y canlyniad o'r dechrau un. Mae wedi llwyddo i hudo'r Blaid Lafur yn raddol i gytuno â Phlaid Cymru ar Brexit mewn enw'n unig a gwthio hynny, ac wrth inni ddod yn agosach ac yn agosach at y dyddiad gadael, maent yn fwy a mwy eglur yn eu cred fod eu pleidleiswyr yn anghywir ac y dylid gwneud iddynt bleidleisio eto. Ond pan fyddant yn dweud, yn rhan 2 y cynnig hwn,...

8. Dadl ar NNDM6958 — Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin (30 Ion 2019)

Mark Reckless: Y rheswm sylfaenol pam y bu'r ychydig flynyddoedd hynny mor anodd oedd am nad yw pobl fel yr Aelod yn derbyn canlyniad y refferendwm. Nawr, y ffaith amdani yw bod ei etholaeth wedi pleidleisio dros adael i raddau mwy nag unman arall yng Nghymru.

8. Dadl ar NNDM6958 — Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin (30 Ion 2019)

Mark Reckless: Gyda Thwrci, mae'r Aelod yn rhoi enghraifft pam ei bod mor ddrwg bod mewn undeb tollau gyda'r UE heb fod ag unrhyw lais dros ei bolisi masnach. Ond a yw'n cydnabod mai un canlyniad cadarnhaol o ran cystadleurwydd y dur a gynhyrchir yn ei etholaeth ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yw cyfradd gyfnewid sydd 15 y cant yn is? A bydd, fe fydd Sefydliad Masnach y Byd yn creu heriau, ond...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (30 Ion 2019)

Mark Reckless: Pa effaith y mae'r dreth trafodiadau tir wedi'i chael ar refeniw o drafodiadau eiddo masnachol ers mis Ebrill 2018?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynnydd Bargeinion Twf ( 5 Chw 2019)

Mark Reckless: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargeinion twf yng Nghymru? OAQ53379

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynnydd Bargeinion Twf ( 5 Chw 2019)

Mark Reckless: Un o heriau bargeinion twf yng Nghymru, o'i gymharu â Lloegr, lle'r oedd llawer yn mynd o'r blaen, yw bod Llywodraeth Cymru yn bartner pwysig arall yn yr ystafell, y mae angen ei chytundeb i gyflawni bargeinion, a bydd ganddi, yn briodol, wahanol bwysleisiau, ac efallai mewn rhai meysydd, gwahanol flaenoriaethau i Lywodraeth y DU. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ei...

5. Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru ( 5 Chw 2019)

Mark Reckless: A yw'n derbyn y gall fod yna fudd hefyd i bobl yng Nghymru o fuddsoddi yn y rheilffyrdd hyd yn oed os nad yw hynny o fewn ffiniau Cymru, yn enwedig trydaneiddio'r rheilffordd o Paddington hyd at dwnnel Hafren? Mae hynny yn hynod o fuddiol i Gymru ac a wnaiff ef gydnabod hynny?

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Addysg Oedolion ym Merthyr Tudful a Rhymni ( 6 Chw 2019)

Mark Reckless: Un mater a ddaeth i fy sylw yw bod y cyrsiau a gynigir gan goleg Merthyr Tudful ac sydd ar gael i oedolion sy'n ddysgwyr yn galw at ei gilydd am bresenoldeb amser llawn a phresenoldeb yn ystod y dydd yn ogystal â gyda'r nos. O ystyried yr ymrwymiadau y bydd gan lawer o oedolion o ran gofalu a chyflogaeth, tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai'n wych pe bai gan goleg Merthyr...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol ( 6 Chw 2019)

Mark Reckless: Ym mhwynt 1 ein cynnig, siaradwn am anghydraddoldeb cynyddol fel y'i dangosir gan werth ychwanegol gros, yna ym mhwynt 4(b) siaradwn am ein hamcan i dyfu cyflogau a thyfu ffyniant ledled Cymru. Hoffwn bwysleisio bod gwahaniaeth rhwng gwerth ychwanegol gros a chyflogau a ffyniant, oherwydd mae gwerth ychwanegol gros yn edrych ar gynhyrchiant mewn ardal benodol. Fel y soniodd Mike, mae llawer o...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol ( 6 Chw 2019)

Mark Reckless: Nid wyf yn diystyru ei gefnogi; byddwn yn ystyried y ddadl ac yn gwneud penderfyniad. Ond mae'n anos creu manteision cydgrynhoi mewn ardaloedd gwledig oherwydd bod y cydgrynhoad hwnnw'n galw am lawer o bobl yn gweithio gyda'i gilydd mewn lle cyfyng. Mae gennym hynny yng Nghaerdydd i ryw raddau, ac mae llawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru yn cymudo i Gaerdydd i swyddi sy'n talu'n eithaf...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol ( 6 Chw 2019)

Mark Reckless: Yn gyflym, gwnaf.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol ( 6 Chw 2019)

Mark Reckless: Cytunaf â phwynt yr Aelod. Dechreuodd y bargeinion dinesig yn ôl ym mis Gorffennaf 2012 pan gytunwyd ar yr wyth bargen gyntaf yn y DU. Nawr, roedd yr wyth yn Lloegr, ac yn cynnwys lleoedd fel Bryste a Nottingham, o faint tebyg i Gaerdydd a heb fod yn llawer mwy nag Abertawe. Pam y cymerodd gymaint o amser i'r cysyniad hwn gael ei ddatblygu yng Nghymru? Yn Lloegr, rhwng mis Gorffennaf 2012...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ( 6 Chw 2019)

Mark Reckless: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau obstetreg a gwasanaethau pediatrig cleifion mewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datrys Anghydfodau rhwng Llywodraethau'r DU (12 Chw 2019)

Mark Reckless: Mae anghydfodau, yn gyffredinol, wedi eu canolbwyntio ar arian a grym. Prif Weinidog, ystyrir yn gyffredinol eich bod chi wedi cael hanes cymharol lwyddiannus o ran cytuno ar y fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y cyllid sy'n dod i Gymru. Fe wnaeth eich rhagflaenydd, yn fy marn i, waith da wrth negodi â Llywodraeth y DU ynglŷn â phwerau'r Cynulliad hwn a'r setliad...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Banc Datblygu Cymru (13 Chw 2019)

Mark Reckless: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am enillion ariannol a ddaw gan Fanc Datblygu Cymru? OAQ53405

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Banc Datblygu Cymru (13 Chw 2019)

Mark Reckless: Ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, roeddem yn hynod o falch o wneud ein gwaith craffu blynyddol ar Fanc Datblygu Cymru. Y llynedd, cynhaliais ginio yn y Cynulliad ar gyfer Giles Thorley a nifer o'i uwch dîm. Rwy'n edmygu eu gallu, ac rwy'n optimistaidd ynghylch yr hyn y bydd y banc yn ei gyflawni, gan adeiladu ar Cyllid Cymru. Nododd y Gweinidog y ddau beth...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Gwasanaethau Rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd (13 Chw 2019)

Mark Reckless: Credaf fod y Gweinidog a Trafnidiaeth Cymru wedi awgrymu y gallem, maes o law, weld trenau tri-moddol ar y rheilffordd hon, gyda gweithrediad trydan uwchben, diesel a batri. Pa mor gadarn yw'r polisi hwnnw, gan fy mod yn ymwybodol fod rhai pryderon wedi'u mynegi ynghylch pwysau ychwanegol y batri, ac er gwaethaf y fantais yn hynny o beth wrth ddod drwy dwnnel Caerffili, a fyddai'r pwysau...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Erthygl 50 (13 Chw 2019)

Mark Reckless: Onid yw hefyd yn wir fod y Gweinidog eisiau ymestyn erthygl 50 oherwydd ei fod yn ei ystyried yn gam tuag at flocio Brexit?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.