David Rees: Pa drafodaethau y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch y camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod yr hawliau a nodir yn siarter hawliau sylfaenol Ewrop yn cael eu hymgorffori o fewn cyfraith Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE?
David Rees: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r newidiadau i'r ffin rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf?
David Rees: Gwnsler Cyffredinol, mae'r cwestiynau wedi canolbwyntio llawer iawn ar ddinasyddion yr UE. Ddydd Llun, aeth aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i lysgenhadaeth Norwy, ac fe'n hatgoffwyd hefyd mai dinasyddion Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd angen inni feddwl amdanynt. Felly, a gaf fi ofyn i chi sicrhau, pan fyddwch yn cael trafodaethau gyda'ch cymheiriaid yn San...
David Rees: 2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau ar gyfer Cymru o achos Wightman yn llysoedd yr Alban ynghylch Erthygl 50? OAQ52826
David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, mae'r golygfeydd di-drefn a welsom yn San Steffan o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i gael unrhyw beth yn debyg i gytundeb ar hyn o bryd yn gwneud hyn yn llawer tebycach i: beth y gallwn ei wneud i ymestyn neu hyd yn oed i ddirymu erthygl 50? A gwn fod yr achos hwn yn ei roi'n ôl mewn sefyllfa Llys Cyfiawnder Ewrop, ond nid...
David Rees: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r system drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
David Rees: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sy'n wynebu anawsterau yn dilyn insiwleiddio waliau ceudod o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru? OAQ52882
David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n siŵr fod y nifer fach o bobl y cyfeiriwch atynt i gyd yn fy etholaeth i yn ôl pob golwg, oherwydd mae gennyf nifer fawr o bobl sydd wedi wynebu problemau o ganlyniad i fethiant gwaith inswleiddio waliau ceudod, ac felly, maent bellach yn wynebu biliau mawr oherwydd y gwaith sy'n rhaid ei wneud. Nawr, fel y dywedasoch yn eich...
David Rees: 4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru sy'n wynebu heriau o ganlyniad i galedi? OAQ52876
David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ymddengys mai cyni yw ideoleg y blaid Dorïaidd yn San Steffan o hyd, ac mae'n parhau i effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Nawr, ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi llwyddo i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o effaith ar lywodraeth leol. Os cymharwch hynny â Lloegr, gallwch weld yr...
David Rees: Diolch, Lywydd. Ar 10 Tachwedd 1925, 93 o flynyddoedd yn ôl, ganwyd Richard Walter Jenkins yr ieuengaf yng nghartref y teulu yng Nghwm Afan. Rydym yn ei adnabod fel Richard Burton. Nawr, heddiw, nid wyf am dynnu sylw at ei fywyd, gan fy mod yn gobeithio bod yma ar adeg canmlwyddiant ei eni i wneud hynny, ond yn hytrach, rwyf am ddathlu 36ain ras y Richard Burton 10K. Cynhaliwyd y ras ffordd...
David Rees: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl heddiw? Credaf mai dyma'r tro cyntaf efallai i ni gael adroddiad ar y cyd yn dod gerbron y Cynulliad gan bwyllgorau yn y Cynulliad hwn. Mae hefyd yn dangos, efallai, fod y ffordd rydym yn gweithio yn esblygu wrth inni symud ymlaen. A gaf fi hefyd gofnodi diolch y ddau bwyllgor i'w staff, clercod y pwyllgorau a'u timau, ac...
David Rees: Mis Chwefror. Diolch. Mae hynny'n beth da, oherwydd mae gennym o leiaf—. Bellach mae gennym syniad mewn gwirionedd y bydd yn digwydd cyn inni adael yr UE. Mae hynny'n bwysig iawn i ni. Nododd Jane hefyd ei bod hi'n bwysig fod hawliau'n dod i'r amlwg, ac yn arbennig ein bod yn nodi hawliau sy'n dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod pontio, os oes un, oherwydd byddwn yn gweithredu o dan yr amodau...
David Rees: Prif Weinidog, un o'r heriau mwyaf i blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg mewn gwirionedd yw cael cydnabyddiaeth ar gyfer yr anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf i wedi gweld llawer o deuluoedd sy'n wynebu brwydrau diflino dim ond i gael y gydnabyddiaeth honno i'w plant fel y gallan nhw fynd drwy'r prosesau. Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol yn rhoi...
David Rees: Arweinydd y tŷ, yn gynharach eleni, codais bryder ynghylch llygredd yn deillio o Tata gyda chi ac, yn y bôn, bod y llygredd yn niwsans—'llwch' fel y'i gelwir. Mae'n peri problemau mawr i lawer o'm hetholwyr. Yn dilyn y mater a godais, dywedwyd wrthym efallai y bydd Gweinidog yr Amgylchedd yn cyfarfod gyda Tata, a gwn ei bod wedi bod yn yr uned ansawdd aer ym nghampws bae'r brifysgol...
David Rees: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'n bwysig inni ystyried y materion sy'n ein hwynebu. Un o'r anfanteision o fynd ar ôl siaradwyr eraill yw bod y rhan fwyaf o'r cwestiynau wedi'u gofyn, ond y fantais yw nad wyf yn cymryd cymaint o'ch amser. Ond mae un neu ddau o bwyntiau yr wyf eisiau tynnu sylw atynt ac efallai gofyn cwestiynau ichi arnynt. Yn yr...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mewn llawer o'n cymunedau ynysig yn ein Cymoedd neu ein hardaloedd gwledig, mae'n bosibl na fydd y stryd fawr fel y'i gelwir yn cynnwys mwy nag un safle manwerthu. Mae'r un siop honno, mewn gwirionedd, yn achubiaeth i lawer o gymunedau, yn enwedig os yw trafnidiaeth gyhoeddus yn diflannu ar ôl 5 o'r gloch yr hwyr. A wnewch chi ystyried edrych ar y cyfleoedd y gallwch...
David Rees: 8. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru o symud i reolau Sefydliad Masnach y Byd ar ôl Brexit? OAQ52917
David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddydd Llun, cynhaliwyd sesiwn friffio gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Sefydliad Masnach y Byd a'r rheolau, ac yn amlwg, mae'r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth y rheolau hynny yn difetha'r dadleuon a oedd gan lawer o bobl yn y refferendwm ynglŷn â pha mor hawdd fyddai trosglwyddo pe bai angen i ni wneud hynny. Deallaf...
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych yn cytuno felly, mewn gwirionedd, mai'r hyn sydd ei angen arnom yw gwybodaeth, oherwydd sut y gall y Llywodraeth roi mecanweithiau ar waith i allu bod yn barod i gychwyn pan nad ydynt yn gwybod beth fydd ganddynt hyd yn oed? Y broblem yw nad ydym yn gwybod. Nid ydym yn gwybod unrhyw beth.