Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo ysgolion yn Islwyn wrth iddynt baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd?
Rhianon Passmore: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r difrod a achoswyd gan y stormydd diweddar i gymunedau yn Islwyn?
Rhianon Passmore: 4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i gefnogi'r broses o roi cynllun Llywodraeth y DU, Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar waith? OAQ55135
Rhianon Passmore: Diolch. Fel y dywedoch chi ar 13 Chwefror, rydych wedi cyfrannu mwy na £220,000 i gynorthwyo cynghorau ledled Cymru, ac mae hwnnw’n mynd i gynyddu allgymorth lleol i oresgyn rhwystrau i helpu’r rhai nad ydynt yn ymwybodol o hyd o’r angen i wneud cais neu sy’n ei chael hi'n anodd gwneud cais. Weinidog, yn benodol, beth fydd y cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a sut y gall...
Rhianon Passmore: Ddydd Sadwrn diwethaf, gwireddwyd sawl blwyddyn o gynlluniau uchelgeisiol wrth i barc coetir ac ardal chwarae Pantside yn Nhrecelyn agor yn swyddogol i'r cyhoedd. Mae'r parc yn cynnwys maes chwarae i blant hyd at chwe blwydd oed, ardal chwarae iau, a man chwarae amlddefnydd ar gyfer chwaraeon fel pêl-droed a phêl-fasged. Mae'n dyst i gymuned falch Pantside, sydd wedi gweithio, drwy...
Rhianon Passmore: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau ailgylchu yn Islwyn? OAQ55189
Rhianon Passmore: Diolch. Mae pobl Islwyn, yn haeddiannol, yn falch o'u cyfraniad at enw da Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu, a'n hawydd i symud Cymru tuag at fod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050. Prif Weinidog, yn dilyn y llifogydd dinistriol diweddar a effeithiodd ar Gymru, cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gasglu eiddo sydd wedi ei ddifrodi gan lifogydd. Pa fesurau a sicrwydd y gall...
Rhianon Passmore: Rwy'n codi i gefnogi cyllideb Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer 2020-21. Er gwaethaf degawd o gyni llym a thoriadau wedi'u hachosi yng Nghymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn Llundain, mae Llywodraeth Lafur Cymru yma yn parhau i weithredu fel wal dân yn erbyn grant bloc Cymru sydd wedi crebachu a'i dwf wedi'i lesteirio ac absenoldeb cronig gwariant seilwaith y DU. Mae'n bwysig, gyda'r newid...
Rhianon Passmore: Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad drwy gydnabod bod consensws trawsbleidiol cryf yng Nghymru fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael. Yr wythnos diwethaf, Ddirprwy Lywydd, gofynnais gwestiwn i'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles AC, am y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Yn fyr iawn. A fyddech yn cydnabod bod plant sy'n cael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae plentyn yn cael profiad o ofal, nad ydynt yn cael eu rhoi yn y sefyllfa honno'n ddifeddwl, a bod proses gyfan wedi ei dilyn, ac mai dyna'r rhan olaf bosibl o'r broses honno cyn i blentyn gael ei roi mewn gofal?
Rhianon Passmore: Diolch. Rwy'n llwyr ddeall y dyhead y tu ôl i hynny ac yn rhannu'r dyhead hwnnw'n gyfan gwbl o ran y ffigur trothwy ar gyfer TGAU. A fyddech hefyd yn cydnabod bod ystod eang o allu ac i rai plant, fod gallu mynychu'r ysgol a dod oddi yno'n un darn yn gyflawniad mawr, ac nad yw'n ymwneud â chymwysterau'n unig?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch am hynny. A fyddech yn cydnabod, o ran cael gormod o blant mewn awdurdod lleol yn cael eu rhoi mewn gofal, fel rydych newydd ei ddweud, ei fod yn seiliedig ar asesiad unigol o bob achos unigol? Ac mae'n rhaid i hynny fynd drwy broses hir a maith, nad oes gennyf amser i fynd drwyddi ar hyn o bryd. Mae'n rhaid gwneud hynny oherwydd sefyllfa benodol y plentyn dan sylw, a dyna'r unig...
Rhianon Passmore: Pa gefnogaeth a chymorth y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i gymunedau yn Islwyn yn dilyn y difrod llifogydd diweddar?
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd hi'n galonogol clywed gan y Gweinidog nad yw'r newyddion diweddar a hynod anffodus fod Flybe wedi rhoi'r gorau i fasnachu ar 4 Mawrth yn effeithio ar hyfywedd cyffredinol Maes Awyr Caerdydd; ond yn yr un modd, mae awyrennau'n cael cyfnod anodd iawn, a gwyddom fod Brexit yn chwarae ei rhan yn hyn. Ond, mae'r codi bwganod ar goedd gan y Blaid Geidwadol gyferbyn...
Rhianon Passmore: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am roi'r Cynllun Gweithredu Coronafeirws ar waith i ddiogelu dinasyddion Islwyn? OAQ55225
Rhianon Passmore: Diolch. Weinidog, a gaf fi ddechrau trwy eich canmol yn bersonol am y modd digynnwrf ac awdurdodol rydych chi wedi arwain ymateb Llywodraeth Cymru i'r achosion o coronafeirws? Ddoe yn y Senedd, Weinidog, fe wnaethoch ddatganiad sydd i’w groesawu yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddinasyddion Cymru ar sut y mae cynllun gweithredu coronafeirws yn datblygu. Mae fy etholwyr yn Islwyn wedi...
Rhianon Passmore: Rwyf innau'n croesawu'r ddadl hon a gyflwynwyd gan David Rees AC. Mae'n wir ein bod yn gwneud cynnydd gwirioneddol yn y wlad hon, ond mae'n wir o hyd, fel y mae llawer wedi'i nodi, fod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd tebyg o ran cyfraddau goroesi canser, er gwaethaf y gostyngiad yn y cyfraddau marwolaeth. Credir mai'r prif ffactor sy'n gyfrifol am yr oedi hwn yw'r ffaith bod llawer...
Rhianon Passmore: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes llawer o faterion sy'n ein huno ni gyda'n gwleidyddiaeth wahanol yn y lle hwn. Felly, mae hon yn ddadl bwysig i'r bobl y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli yma yn Senedd Cymru. Ac fel y dywedwyd, yma yng Nghymru, mae rygbi yn gymaint mwy na dim ond gêm. Mae gemau'r chwe gwlad yn rhan annatod o'n seicoleg genedlaethol. Maent yn rhan o bwy ydym ni, ac yn rhan...
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd.