David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, mae'n siŵr y byddwch yn gwybod y cafwyd ymchwiliad digynsail, rwy'n credu, ar y cyd gan bedwar o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, a ddywedai fod ansawdd aer gwael bellach yn argyfwng iechyd cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, maent yn sôn am bob Llywodraeth; nid eich un chi yn unig. Maent wedi galw am Ddeddf aer glân. Diolch...
David Melding: Weinidog, rwy'n amau a yw'r ymagwedd dameidiog hon, er ei bod wedi'i cydgysylltu'n dda, yn ddigon, a dyna pam rwy'n pwyso arnoch mewn perthynas â Deddf aer glân. A gaf fi eich atgoffa bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at 40,000 o farwolaethau cynnar yn y DU—yng Nghymru, 1,300—a bod cost flynyddol hynny, ar lefel y DU, yn fwy na £27 biliwn? Trafnidiaeth ffordd sy'n gyfrifol am 80...
David Melding: Unwaith eto, rwyf am bwyso arnoch. Credaf fod diwrnodau di-gar yn wych. Cefais brofiad o un am y tro cyntaf erioed oddeutu 20 mlynedd yn ôl pan oeddwn ym Mrwsel, ac roeddwn yn crwydro o gwmpas yn meddwl—[Torri ar draws.] Wel, na, nid wyf yn rhannu'r ffobiâu sydd i'w cael mewn rhai rhannau o'r Siambr. [Chwerthin.] Ond rwy'n cofio teimlo, 'Beth sy'n rhyfedd? Beth sy'n anarferol'...
David Melding: A gaf fi gefnogi sylwadau Jane Hutt i chi fod arnom angen asesiad o'r effaith amgylcheddol? Mae Cyngor Bro Morgannwg o dan arweiniad y Torïaid wedi apelio am asesiad hefyd. Ceir unfrydedd gwleidyddol llwyr ynglŷn â hyn. Os ewch i lawr i'r Barri a siarad ag unrhyw un, yn aml iawn y peth cyntaf y byddant yn ei grybwyll yw'r gwaith llosgi hwn a'i faint anferthol. Mae arnom angen yr...
David Melding: Ond mae ei alw'n gelwyddgi—[Anghlywadwy.]
David Melding: Diolch i chi, Lywydd. Mae'n briodol ein bod yn talu teyrnged heddiw i Nicholas Edwards a fu farw ddydd Sadwrn. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1979 a 1987, gwnaeth gyfraniad parhaus i fywyd cyhoeddus Cymru. Yma yn y Senedd, mae gweledigaeth Nick Edwards ar gyfer sicrhau adfywiad trefol ym Mae Caerdydd yn amlwg iawn. Y bore yma, euthum ar draws y morglawdd a chael golygfeydd o ddinas...
David Melding: Rydym yn cychwyn ar y Bil cyfansoddiadol enfawr hwn gyda mater o egwyddor pwysig a osodwyd yn fersiwn yr Alban o, wel, eu Bil, ac rydych chi'n dweud yn awr nad oes gennym amser i archwilio'r pethau hyn yn iawn a'u hystyried yn llawn. Felly, onid yw'r weithdrefn gyfan hon yn gwbl ffug?
David Melding: Mae gennych hyfdra yn awr fel Llywodraeth i wneud rhinwedd o'r ffaith eich bod wedi defnyddio'r weithdrefn frys, nad yw'n golygu, wrth gwrs, eich bod yn gallu craffu ar bethau'n iawn. Dyna rydych newydd ei ddweud wrth Simon Thomas. Hynny yw, mae'n draed moch.
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau. Roedd yn rhyfedd nad oedd y Bil hwn yn cynnwys cymal diddymu, yn wahanol i Fil yr Alban. Bydd y gwelliant rwy'n siarad amdano yn cywiro'r diffyg hwnnw, ac rwy'n credu bod hyn yn angenrheidiol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatgan y byddai'n well ganddi symud ymlaen drwy Fil y DU, ac rwy'n derbyn y datganiad hwnnw fel un...
David Melding: Diolch i'r Aelodau am eu perfformiad seneddol egnïol a'u syniadau ynglŷn â fy safbwyntiau traddodiadol ar y materion hyn. Y pwynt yw, dros y maes pwysig hwn o gyfraith gyfansoddiadol ac ymadawiad Prydain â'r Undeb Ewropeaidd, mae arnom angen eglurder cyfreithiol. Byddai angen inni symud yn gyflym. Y rheswm pam rydych yn dadlau bod yn rhaid i chi wneud hyn ar frys yw bod angen cyflymder...
David Melding: Rwy'n cynnig y gwelliant.
David Melding: Rydym yn parhau i wrthwynebu'r Bil hwn mewn egwyddor am y rhesymau a nodais yng Nghyfnod 1. Nid wyf yn meddwl bod dim sydd wedi digwydd y prynhawn yma yn gallu sicrhau pobl fod hon wedi bod yn broses gadarn ar gyfer unrhyw fath o Fil, a dweud y gwir, heb sôn am Fil cyfansoddiadol. Ond yn y bôn, fel y dywedais yng Nghyfnod 1, proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yw'r mecanwaith...
David Melding: Rwy'n credu bod llawer ohonom ni'n ddryslyd iawn ynghylch pa un ai dyma'r orsaf goetsys, neu a yw'n cynnwys bysiau lleol hefyd? Oherwydd, fel y deallaf, mae'r angen i drafnidiaeth leol gael ei chanoli yn yr orsaf drenau yn wirioneddol bwysig, lle'r oedd yr orsaf ganolog yn arfer bod, ac roedd yn rhan o'r cynllun y byddai'r orsaf fysiau yn cael ei hailgynllunio ac yn rhan o'r prosiect newydd,...
David Melding: Er fy mod i'n croesawu'r datganiad heddiw, mae'n rhaid imi ddweud, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'n gyffredinol iawn o ran ei strwythur, ac rwy'n ofni ei fod mewn mannau yn ein difyrru gydag ymadroddion eang a mynegiant gwael iawn. Wyddoch chi, rwy'n credu weithiau fod angen myfyrio mwy ar y testunau a ddaw ger eich bron. Mae'n rhaid imi ddweud, i ddatgan yn y Cynulliad hwn, ac rwy'n...
David Melding: A gaf i edrych ar rai o'r pethau penodol, felly, i dynnu sylw at fy mhryderon? Coetiroedd, coedwigaeth. Rydych chi bellach wedi ymrwymo i adnewyddu'r strategaeth coetiroedd. Wel, beth mae hynny'n ei olygu? A yw'n golygu eich bod yn mynd i waredu'r targedau presennol a dyfeisio rhywbeth llawer llai uchelgeisiol? Byddwch yn gwybod bod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion...
David Melding: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni tai yng Nghymru?
David Melding: 1. Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddarparu i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol i gefnogi pobl sydd mewn dyled? OAQ51998
David Melding: A gaf fi ddiolch i'r Aelod o'r Cabinet am ei ateb? Efallai y gwyddoch ei bod yn Fis Ymwybyddiaeth Straen cenedlaethol y mis hwn, ac yn ôl y Debt Support Trust, o’r rheini sydd â dyledion difrifol, mae oddeutu hanner y bobl yn y sefyllfa honno yn dioddef o anawsterau iechyd meddwl ac yn ystyried hunanladdiad. Mae'n straen aruthrol ar bobl. Yn 2017, rhoddodd canolfannau cyngor ar bopeth...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Hydref 2017, bu Heddlu De Cymru yn ymdrin â bron i 36,000 achos o gam-drin domestig, a'r rheini yw'r rhai y maent wedi ymdrin â hwy. Felly, mae hon yn broblem enfawr, ac mewn llawer o ffyrdd, nid yw ond yn cael cydnabyddiaeth lawn yn awr. A wnewch chi ymuno â mi a chanmol gwaith Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru? Yn wir, rwy'n...
David Melding: A gaf fi ddechrau drwy nodi tôn bwyllog y Cwnsler Cyffredinol? Rwy'n croesawu hyn fel arwydd fod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu o ddifrif i sicrhau cytundeb ar y materion hyn. Rwyf hefyd yn credu y dylid ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfeirio'r mater at y Goruchaf Lys fel ymgais i egluro'r sefyllfa gyfreithiol gyfredol. Wedi'r cyfan, roedd Llywydd yr Alban yn credu bod eu Bil y tu...