Rhianon Passmore: Diolch. Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd ddoe gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cynnwys marwolaethau ym mhob lleoliad, yn dangos y bu 1,852 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â’r feirws yng Nghymru hyd at 8 Mai, ac mae hynny’n golygu bod 1,852 o deuluoedd yn galaru. Felly, yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad a fy niolch diffuant fel yr Aelod o’r Senedd dros Islwyn am...
Rhianon Passmore: Diolch. Felly, hoffwn ailadrodd fy mod yn hynod falch o bobl Islwyn am bopeth y maent wedi'i wneud yn yr amser anodd hwn, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth, yn drawsbleidiol, ac y byddwn, gyda phartneriaeth gymdeithasol gref, yn adeiladu dyfodol mwy disglair gyda'n gilydd. Diolch.
Rhianon Passmore: Iawn, mae'n ddrwg gennyf. Diolch. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag effaith COVID-19 ar gwblhau asesiadau statudol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? Mae llawer o staff awdurdodau addysg leol yn parhau i gael eu trosglwyddo ar draws y gwahanol adrannau er mwyn darparu'r gallu proffesiynol i weithio gyda'r plant sydd fwyaf agored i niwed,...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cynnydd yn y cymorth i'r sector hedfan gan Lywodraeth y DU? Fel y gŵyr, mae British Airways yn argymell colli swyddi drwy Gymru gyfan, a'r posibilrwydd o uno swyddi yn y Coed-duon yn fy etholaeth i â rhai yn ninas Caerdydd, a fyddai'n arwain at gau eu safle yn y Coed-duon ac at golli swyddi sgiliau uchel ar gyflogau da o'r Cymoedd. Beth yw ei ddealltwriaeth...
Rhianon Passmore: Brif Weinidog, mae prif swyddog deintyddol Cymru, Dr Colette Bridgman, wedi nodi y bydd ailagor gwasanaethau deintyddol arferol llawn yng Nghymru yn digwydd fesul cam, a nododd ei bod yn gwbl ymwybodol o’r pryderon ynghylch cyfnod hir o ddiffyg gwasanaethau ar gyfer hylendid y geg. Yn wir, mae prif swyddog deintyddol Cymru wedi dweud ar goedd y byddai Llywodraeth Cymru yn adolygu’r...
Rhianon Passmore: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae dadansoddiad a gyhoeddwyd gan y gynghrair Dileu Tlodi Plant yn gynharach yn y pandemig hwn wedi dangos, ar draws Cymru gyfan—gan adrodd rhwng 2015 a 2019—fod tlodi plant wedi gostwng ychydig bach. Yn ystod y pandemig hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r argyfwng gyda buddsoddiad ychwanegol a sylweddol iawn i gronfa cymorth dewisol ar gyfer...
Rhianon Passmore: Bydd yr Aelodau o'r Senedd yn gwybod fy mod innau hefyd yn benderfynol o hyrwyddo'r sector celfyddydau yng Nghymru a ledled Cymru, ac rwyf wedi dadlau ers tro yn y lle hwn a thu hwnt y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio mesurau gweithredol i sefydlogi iechyd y sector celfyddydau, yn dilyn degawd o fesurau cyni Llywodraeth y DU. Dyna'r dirwedd roeddem ynddi. Ers i argyfwng COVID-19 fwrw ei lid...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae'n cael ei adrodd heddiw bod Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi sicrhau bron holl stociau un o'r ddau gyffur y dangosir eu bod o gymorth i gleifion COVID-19 ar hyn o bryd. Dywedodd y Tŷ Gwyn ei fod wedi prynu mwy na 500,000 cwrs o remdesivir, cyffur gwrthfeirysol y mae treialon yn awgrymu sy'n helpu rhai cleifion i dreulio llai o amser yn yr ysbyty. Mae hyn yn cynnwys yr...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Darllenais â braw a chytundeb fod gan y pwyllgor bryderon sylweddol ynghylch yr hyn y mae'n ei ystyried yn un o'r heriau tymor hirach sy'n diffinio'r pandemig marwol hwn: cynnydd sydyn sylweddol tebygol mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc, cynnydd sydyn sydd, heb weithredu gan Lywodraeth Cymru, yn bygwth creithio ac atal rhagolygon cyflogaeth cenhedlaeth o bobl ifainc...
Rhianon Passmore: Rwy'n cefnogi gwelliant 2, fel y'i cyflwynwyd gan Rebecca Evans, ac yn arbennig fel yr Aelod o'r Senedd dros Islwyn, rwy'n cefnogi ei dymuniad i fewnosod, 'yn cytuno y dylai'r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.' Mae Cymru yn wlad sy'n falch o fod yn amlieithog yn hanesyddol gan gynnwys nifer o ieithoedd o bob cwr o'r Gymanwlad a thu hwnt. Yn ôl y gyfraith, rydym...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i bolisi trethu Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng ngoleuni pandemig Covid-19?
Rhianon Passmore: Mae'n gywir dweud nad yw'r cwricwlwm cyfredol a ddyfeisiwyd ym 1988 gan Lywodraeth yn San Steffan yn addas, fel y dywedwyd, i’r Gymru gyfoes ac mae'r angen addysgol, fel y cytunwyd yn gydsyniol ar draws y Siambr hon, i barhau i ddatblygu safonau uwch mewn llythrennedd, rhifedd a meddwl digidol allweddol, ac i'n myfyrwyr ddod yn ddinasyddion hyderus, galluog a thosturiol yng Nghymru yn...
Rhianon Passmore: Diolch, Llywydd dros dro. Mae'r rhagolygon ar gyfer economïau Cymru a'r Deyrnas Unedig yn peri gofid. Wrth i Lywodraeth Cymru ystyried ei blaenoriaethau gwario ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-2, na foed i neb yn y Senedd hon esgus nad yw'r rhagolygon economaidd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu yn ddim ond arswydus ac yn gwbl ddifrifol i Gymru. Ddoe, diweddarodd y Swyddfa dros...
Rhianon Passmore: Nid yw'r pandemig COVID-19 drosodd eto a bernir bod ail gynnydd mawr yn debygol, ac, wrth i ni edrych tua'r gorwel, rydym ni nawr yn gweld corwynt economaidd yn prysur agosáu, ac mae'n ddyletswydd arnaf i fel cynrychiolydd cymunedau Cymoedd balch Gwent fel Aberbargoed, Trecelyn, Crosskeys ac eraill i fynnu bod y Senedd yn cefnogi'r Llywodraeth hon sydd gan Gymru yn ei phenderfyniad i...
Rhianon Passmore: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r swm ychwanegol o arian y bydd Cymru yn ei gael o ganlyniad i ddatganiad yr haf Canghellor y DU?
Rhianon Passmore: Tynnwyd y cwestiwn yna yn ôl, Llywydd.
Rhianon Passmore: Rwy'n colli fy sgrin o hyd. Mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd. Allwch chi ddod yn ôl ataf i?
Rhianon Passmore: Diolch. ydych chi'n gallu fy nghlywed i, Dirprwy Lywydd?
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. Diolch am fy ngalw yn ôl. Gadewch i ni fod yn onest—Bil marchnad fewnol Llywodraeth Dorïaidd y DU yw'r diweddaraf mewn rhes hir o gamau cwbl annealladwy gan Boris Johnson a'i Lywodraeth. Ac rwyf i'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan Gwnsler Cyffredinol Cymru a'r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd. Bydd ar bobl Cymru nawr, yn fwy nag erioed, angen cyfrifoldeb a...
Rhianon Passmore: Nid yw'r bonws o Lywodraeth y DU yn gallu cymryd rhan o'n hincwm yng Nghymru yn dderbyniol. Cwnsler Cyffredinol, pa sylwadau a chamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, gan weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, i frwydro yn erbyn yr ymosodiad difrifol hwn ar Gymru ac enw da Prydain? A pha flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi i'r bwriad i leihau pwerau Cymru sydd wedi'u cynnwys yn y Bil hwn?