David Melding: Rhaid imi ddweud, o'r hyn a welaf o'r digwyddiadau diweddar, Llywodraeth Ffrainc a oedd yn mynnu bod angen ymateb i'r defnydd o arfau cemegol ac roeddent yn barod i roi camau unochrog ar waith. O'r fan honno y daeth y pwysau o blaid yr ymyrraeth.
David Melding: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarpariaeth band eang yng Nghanol De Cymru?
David Melding: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd dinasoedd Cymru i ddatblygiad yr economi? OAQ52034
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n cytuno â'r hyn yr ydych chi wedi ei awgrymu yn y fan yna—bod ein dinasoedd yn adnodd gwych sydd â chyfrifoldebau rhanbarthol a chenedlaethol. Ond, fel y gwyddoch, o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, nid oes unrhyw gynlluniau cynllunio rhanbarthol wedi cael eu cyflwyno ar sail wirfoddol eto. Rwy'n falch eich bod chi'n mynd i ymgynghori ar hyn a pha un a oes angen i ni...
David Melding: Arweinydd y Tŷ, rwy'n credu eich bod wedi cael rhyw syniad o'r hyn yr wyf eisiau ei godi. Byddwch yn gwybod y cyhoeddodd y Gweinidog tai ddatganiad ysgrifenedig ar dai fforddiadwy ac asesu'r angen yn y dyfodol, ac felly'r targedau ar gyfer cyflenwi. Rwyf yn credu y dylid bod wedi cyflwyno rhywbeth o'r fath arwyddocâd aruthrol i'r Siambr hon ar ffurf datganiad llafar. Mae'n agor y...
David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch ei bod yn ymddangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond rydym wedi bod yn araf yn gweithredu. Bron i ddwy flynedd yn ôl roeddem yn edrych ar raglen amlinellol y Llywodraeth ar gyfer y Cynulliad hwn, ac ni allaf gofio a oedd cyfeiriad at ansawdd aer neu ei fod yn arwynebol yn unig, ond yn sicr doedden nhw ddim y math o ymrwymiadau yr ydym ni newydd eu...
David Melding: Cyn imi roi sylw i'r grŵp cyntaf o welliannau ynglŷn â'r Bil hwn, a gaf i yn gyntaf oll ailadrodd y ffaith fod pob un o'm gwelliannau heddiw, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, wedi deillio o argymhellion yr is-bwyllgor ar y Bil hwn neu o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? Er nad oes unrhyw amheuaeth bod amcanion y Bil hwn er budd y cyhoedd, o ystyried barn y...
David Melding: Mae un o'r gwelliannau a gyflwynais gyda chefnogaeth Plaid Cymru yng Nghyfnod 2, yn wir, bellach wedi'i addasu gan Lywodraeth Cymru a'i drosi i'w diwyg eu hunain, ac mae'r gwelliant hwn yn sail i'r drafodaeth bellach yr ydym ni'n ei chael. Felly, dylwn groesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi ymateb. Nid yw'n gwneud yr hyn y bwriadai ei wneud yn wreiddiol; mae wedi ymateb i'r trafodaethau a...
David Melding: Pan oeddem yn casglu tystiolaeth, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at hyn eisoes, roedd gennym, rwy'n credu, gefnogaeth gref TPAS Cymru, y corff tenantiaid. Rwy'n credu y cafwyd croeso mawr i hynny wrth ddatblygu syniadau'r is-bwyllgor a oedd yn ystyried hyn ac a ddarparodd eu hadroddiad. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth sy'n gwneud imi amau bod y pryderon hynny, mewn unrhyw fodd, yn...
David Melding: Rwy'n cynnig.
David Melding: Rwy'n cynnig.
David Melding: Diolch, Llywydd, rwy'n cynnig, felly. Mae'r ddau welliant cyntaf yn y grŵp hwn wedi deillio o'r argymhellion a gyflwynwyd yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—sef, Argymhelliad 7. Mae gwelliannau 5 a 13 yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i gyflwyno cyfarwyddydau a gyhoeddir o dan adran 5, rhai sy'n ymwneud â newid cyfansoddiadol a strwythurol, ac adran 14,...
David Melding: O, bobl bach. Mae yna adegau pan rydych chi'n credu eich bod mewn gwlad hud fel un Lewis Carroll. Clywsom gan y Gweinidog fod craffu ôl-ddeddfwriaethol yn syniad da, ond ddylen ni ddim dweud hynny, yn sicr nid yn y Bil hwn. Mae hi'n eithaf bodlon i hynny ddigwydd, ond yn pryderu ynghylch gwneud unrhyw beth yn ofyniad deddfwriaethol oherwydd yr effaith a gâi hynny ar allu'r ddeddfwrfa i...
David Melding: Diolch ichi unwaith eto, Llywydd. Mae'r tri gwelliant yn y trydydd grŵp hwn, sef gwelliannau 6, 11 a 12, yn sicrhau y caiff methiant i gydymffurfio â'r fframwaith rheoleiddio a safonau perfformiad cysylltiedig ei gydnabod yn benodol ar wyneb y Bil fel methiant i gydymffurfio â gofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad. Unwaith eto, mae'r gwelliant hwn yn deillio o argymhelliad yr is-bwyllgor. Yn...
David Melding: Mae hyn ar gyfer y puryddion. Y cwbl y gallaf ei ddweud yw fy mod wedi cael cyngor manwl gan ein cynghorwyr o ran y gofynion cyfreithiol. Mae'n aml yn wir y bydd y Llywodraeth yn dweud, 'Ah, os ydych chi'n pwysleisio hyn drwy ei roi ar wyneb y Bil, bydd yn achosi amwysedd mewn mannau eraill, lle nad ydych chi wedi gwneud yr un fath', a bydd gennych chi Fil enfawr, cyn pen dim, oherwydd bod...
David Melding: Maen nhw yn dweud eu bod yn fodlon, ydyn, felly—
David Melding: Ond dydyn nhw ddim wedi manylu ar y materion y maen nhw'n eu crybwyll a'r mater o ffynonellau cyllid o ymhellach draw ac nid oes unrhyw ffordd y gallwch chi ddilysu a ydyn nhw wedi cael trafodaeth lawn, beth oedd y drafodaeth honno neu beth yw'r dystiolaeth y maen nhw'n seilio eu safbwynt gwahanol arni. Mae'n ateb un linell. Mae'r Gweinidog eisiau imi ei ddarllen, felly mae'n debyg y byddai'n...
David Melding: Diolch ichi, Llywydd. Diben gwelliannau grŵp 4 yw sicrhau bod unrhyw benodiadau a wneir o dan adran 6, diswyddo neu benodi swyddog landlord cymdeithasol cofrestredig, ac adran 8, penodi rheolwr landlord cymdeithasol cofrestredig, yn dod i ben pan gydymffurfir â gofyniad perthnasol, neu pan fo'r methiant perthnasol wedi ei ddatrys. O dan yr adrannau hyn, gellir penodi swyddog i sicrhau y...
David Melding: Rwy'n cytuno bod yn rhaid gwneud gwelliannau yn fwy eglur a sefydlu gwell polisi ar gyfer y dyfodol o ran pryd mae'n rhaid gwneud ymyraethau, ac nid wyf yn credu mai'r arfer gorau yw rhoi gormod o bŵer eang i'r Bwrdd Gweithredol, nad yw wedi ei ddiffinio'n fanylach. Fodd bynnag, gan fod y Gweinidog wedi cofnodi ei sefyllfa yn llawn o ran sut y byddai hyn yn gweithredu, a chyfeiriodd at y...
David Melding: Yn ffurfiol.