John Griffiths: Mae'n bwysig ein bod yn canfod rhai pethau cadarnhaol ymhlith dioddefaint ac anhawster cyffredinol COVID-19, ac rwy'n croesawu'r gwaith yr ydych yn ei wneud, Cwnsler Cyffredinol, i adeiladu'n ôl yn well. Un agwedd ar y misoedd diwethaf y mae pobl wedi'i gwerthfawrogi yw'r gostyngiad ym maint y traffig sydd ar ein ffyrdd, ond mae ofnau, wrth gwrs, oherwydd y pryderon ynghylch defnyddio...
John Griffiths: Iawn. Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac mae'n dda iawn gweld ein bod ni wedi cyrraedd y cam hwn gydag ymgyrch mor bwysig â 20’s Plenty, a hoffwn i ymuno â Lee Waters wrth dalu teyrnged i Rod King, sydd wedi hyrwyddo'r achos mor helaeth ac eang ers cyhyd, a hefyd, wrth gwrs, diolch i Phil Jones a'r tasglu, a diolch i Lee Waters ei hun, gan...
John Griffiths: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon ynghylch cynnydd mewn teithiau traffig ar y ffyrdd wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi?
John Griffiths: Prif Weinidog, mae Newport Live, yr ymddiriedolaeth gwasanaethau hamdden, yn darparu llawer iawn o fudd yng Nghasnewydd o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn wir, maen nhw wedi chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o helpu cleifion COVID-19 i wella ar bod yn wael. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hyn. Diolch byth, maen nhw bellach yn dychwelyd i'w dosbarthiadau a'u gweithgareddau, ac...
John Griffiths: 1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod pandemig COVID-19? OQ55524
John Griffiths: Prif Weinidog, mae COVID-19 wedi dangos yn eglur yr annhegwch na ellir ei amddiffyn yn ein cymdeithas. Mae'r rhai sydd ar incwm is, mewn swyddi ansicr, yn byw mewn tai o ansawdd gwael ac yn dioddef anghydraddoldebau iechyd yn arbennig o agored i'r feirws, o ran eu hiechyd, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Mae ein cymunedau mwy difreintiedig, lleiafrifoedd du ac ethnig, a phobl anabl yn cael...
John Griffiths: 4. Sut y bydd polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fwy cyfartal yn esblygu yn dilyn y profiad COVID-19? OQ55525
John Griffiths: Gweinidog, mae'r rhai sy'n byw yn ein cymunedau mwy difreintiedig wedi dioddef yn anghymesur yn ystod y pandemig o ran eu hiechyd, yn economaidd ac yn gymdeithasol, ac un agwedd ar hyn yw cyfraddau ysmygu uwch yn y cymunedau hyn—mae'r rheini yn arwyddocaol o ran bod yn agored i'r feirws ond hefyd o ran disgwyliad oes is yn gyffredinol. Diolch byth, mae ysmygu yn dirywio, gyda chyfyngiadau...
John Griffiths: Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi mai dim ond pan fo tystiolaeth ecolegol dda y dylid ailgyflwyno rhywogaethau, a bod angen i’r gwaith cynllunio fod yn drylwyr? Mae angen ymgysylltu'n dda â chymunedau lleol. Rwy'n ymwybodol, er enghraifft, fod Prifysgol Caerdydd wedi gwneud ymchwil a edrychai ar gynefinoedd ac argaeledd bwyd i eryrod yng Nghymru, ac roeddent yn ffafrio adeiladu achos...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar fudd-daliadau yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad gennym ym mis Hydref 2019, pan oedd y byd yn lle gwahanol iawn. Er bod y pandemig wedi chwarae rhan fawr yn gohirio'r ddadl hon, nid dyna'r unig reswm dros yr oedi hwnnw. Ar y cychwyn, ni wnaeth Llywodraeth Cymru...
John Griffiths: Ar ôl aros cyhyd am ymateb o sylwedd i’r argymhellion, roedd hi'n siomedig felly na ddarparodd Llywodraeth Cymru yr ymateb manwl roeddem yn ei ddisgwyl. Fe wnaethant nodi, yn erbyn cefndir COVID a'r ansicrwydd ynghylch y newidiadau brys i'r system fudd-daliadau, nad nawr yw'r amser i ystyried newidiadau hirdymor i nawdd cymdeithasol. Serch hynny, mae'r pandemig wedi amlygu natur ansicr...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau. Credaf fod llawer iawn o dir cyffredin yn yr hyn a glywsom yn y Siambr ac o bell heddiw. Soniodd Mark Isherwood am bwysigrwydd profiad byw ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw Aelod yn anghytuno â hynny. Mae'n gwbl hanfodol; mae'n dod yn fwyfwy cyffredin fel nodwedd o'r ffordd rydym yn datblygu ac yn llunio gwasanaethau, ac yn...
John Griffiths: Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedodd Helen Mary, yn enwedig mewn perthynas â'r safbwynt cryf ac egwyddorol o blaid datganoli budd-daliadau, a'r gallu y byddai'n ei roi i ni edrych ar ffyrdd arloesol ymlaen, megis yr incwm sylfaenol cyffredinol, y gwn ei fod yn ddiddorol iawn i lawer iawn o bobl, ac sy'n cynnig pob math o bosibiliadau. Roedd Huw Irranca-Davies yn dweud yn gadarn iawn fod...
John Griffiths: 5. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn addasu ei hymateb i COVID-19 o ystyried y profiad o'r feirws hyd yma? OQ55577
John Griffiths: Prif Weinidog, o 6 o'r gloch heno ymlaen bydd cyfyngiadau pellach yng Nghasnewydd ac mewn awdurdodau lleol eraill. Bydd y cyfnod y mae hynny yn ei olygu yn dibynnu ar nifer yr achosion, ond a allwch chi ddweud unrhyw beth arall am ba mor hir y gallai'r mesurau hyn fod ar waith? Mae nifer cynyddol o ddisgyblion ysgol yn hunanynysu, gan niweidio eu haddysg ymhellach ar ôl colli amser ysgol yn...
John Griffiths: Gweinidog, mae Llywodraeth y DU yn sôn am gyfnod o chwe mis nawr, ac rwy'n tybio mai dyna un dull amgen, yn hytrach na chael cyfyngiadau lleol, lleddfu'r cyfyngiadau ac yna eu hailosod, efallai y gallai fod cyfyngiad mwy cyson dros gyfnod hwy, a fyddai, rwy'n credu, yn rhoi mwy o ddealltwriaeth a sicrwydd i gymunedau, ac yn arwain mae'n siŵr at fwy o gydymffurfiaeth. Felly, tybed a yw...
John Griffiths: Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi, os oes gan Lywodraeth y DU arian ar gael ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru, mai Llywodraeth Cymru a ddylai benderfynu sut y dylid ei wario? Ac yn unol â chomisiwn yr M4, dylid ei wario ar seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft, gorsaf rodfa newydd ym Magwyr, sy’n syniad y mae’r gymuned leol yn ei gefnogi’n fawr.
John Griffiths: Weinidog, mae Clwb Criced Casnewydd, fel y gwn eich bod yn gwybod, wedi gwneud gwaith gwych dros nifer o flynyddoedd yn datblygu eu gweithgarwch a gwella eu maes chwarae. Maent yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr; maent yn cynhyrchu timau criced merched da iawn, chwaraewyr ar gyfer Morgannwg ac maent wedi cynnal rhai o gemau Morgannwg. Maent yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd yn sgil y...
John Griffiths: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau COVID-19 yng Nghasnewydd? OQ55599
John Griffiths: Prif Weinidog, mae'n bwysig i bobl wybod y bydd cydymffurfio â chyfyngiadau i leihau achosion yn arwain at lacio'r cyfyngiadau hynny yn brydlon pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny. Felly, rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am rai arwyddion bod materion yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud am gydymffurfiad ac effeithiolrwydd y mesurau lleol...