David Rees: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda sefydliadau addysg bellach am ddarparu gwell mynediad i ddysgu gydol oes? OAQ53143
David Rees: Weinidog, diolch am eich ateb. Croesawaf y ffaith eich bod bellach yn edrych ar ôl addysg bellach yn ogystal â'r agweddau eraill ac mae eich sylwadau yn gynharach heddiw yn awgrymu eich bod yn awyddus i sicrhau bod addysg bellach yn parhau i fod yn un o brif drysorau'r sector addysg yng Nghymru. Ond yn amlwg, mae llawer o'r rhaglenni hynny a mynediad at ddysgu gydol oes, sy'n darparu...
David Rees: Weinidog, rwyf am edrych ar ddwy agwedd ar y pedair awr—sef dechrau a diwedd y cyfnod o bedair awr. Ar y dechrau, yn amlwg, gallwn ofyn i bobl ddewis yn well gyda'r dull iechyd darbodus ac edrych ar ddefnyddio cyfleusterau gwahanol megis unedau mân anafiadau ar draws de Cymru, ac yn enwedig y gwasanaethau gwych yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn fy ardal i. Rwyf am annog mwy o bobl i...
David Rees: Fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon, dim ond ers iddo gael ei ethol yn 2016 i ymuno â ni yma yr oeddwn i'n adnabod Steffan, ac yn y cyfnod byr hwnnw, mae ei gwrteisi a'i ddeallusrwydd wedi gadael eu hôl arnaf i a llawer un arall, fel y clywn ni o bob rhan o'r Siambr heddiw. Daeth fy nghyd-Aelod Jack Sargeant i'r Siambr hon gyda'r syniad o wleidyddiaeth fwy caredig. Roedd Steffan yn...
David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ar y berthynas yn y dyfodol a'r datblygiadau o ran ein hymadawiad â'r UE? Rwyf wedi clywed lleisiau o ben arall y Siambr y prynhawn yma yn ceisio dangos fod Prif Weinidog y DU wedi dod i gytundeb gwych. Wel, y gwir amdani yw nad yw hi wedi llwyddo, ac mae'r oedi y mae hi wedi ei greu—yn groes i'r hyn yr...
David Rees: —ynglŷn â'i swyddogaeth arall, sy'n cysylltu â hyn, oherwydd rydych chi'n Gwnsler Cyffredinol. Roedd llythyr Tusk a Juncker ddoe, a gafodd ei arddangos ac a ddangoswyd gan Theresa May yn ei datganiad, ac yr oedd hi'n ei gwestiynu neu fe gyfeiriodd at agweddau ar gyfreithlondeb hynny, a ydych chi wedi gwneud dadansoddiad o agweddau cyfreithiol hynny, a beth yw ei sefyllfa gyfreithiol o...
David Rees: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ag awdurdodau lleol ynghylch gwella gwasanaethau bysiau lleol i gwm Afan? OAQ53201
David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mewn gwirionedd caiff cwm Afan ei wasanaethu gan ddau awdurdod lleol ar un ystyr, oherwydd daw bysiau o Ben-y-bont ar Ogwr a Maesteg. Mae'r ffocws, yn bennaf, o Bort Talbot i fyny at gwm Afan. Nawr, cymunedau cwm Afan yw rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig sydd gennym yng Nghymru, ac nid oes ganddynt lawer o geir. Mae'r ganran o bobl sy'n berchen ar...
David Rees: Gwnsler Cyffredinol, rwy'n falch o glywed eich bod yn cael cyfarfodydd neu'n trefnu cyfarfodydd gyda'ch swyddogion cyfatebol yn Iwerddon ac yn trafod, oherwydd os cawn sefyllfa 'dim bargen', neu hyd yn oed ein bod yn cael cytundeb a bod yr ôl-stop yn dod yn weithredol, bydd ffin i lawr canol Môr Iwerddon, ac mae angen inni gydnabod hynny. Ond a gaf fi ofyn i chi hefyd gyfarfod â'ch swyddog...
David Rees: Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mewn perthynas â'r mater hwn, mae'n amlwg mai allforwyr yn bennaf yw'r busnesau sy'n cael cymorth drwy'r porth, ond ceir llawer o fusnesau'r gadwyn gyflenwi yn y cyswllt hwnnw. Pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda busnesau i edrych ar eu cadwyni cyflenwi er mwyn sicrhau cefnogaeth i'r cadwyni cyflenwi hefyd yn y broses hon? Oherwydd rydym yn dibynnu...
David Rees: Prif Weinidog, rydych chi eisoes wedi sôn bod un o bob pedair o fenywod yn derbyn dedfrydau o lai na mis, ond amlygodd yr adroddiad hefyd bod mwy na 68 y cant o'r dedfrydau hynny am flwyddyn neu lai—dedfrydau byr iawn—ac, fel y cyfryw, mae angen i ni edrych ar y canllawiau ar gyfer hynny. Nawr, ddoe, roeddwn i'n croesawu'r penderfyniad a'r cyhoeddiad gan y Gweinidog yn Llundain i ddweud...
David Rees: Trefnydd, fe godais i fater yn gynharach gyda'r Prif Weinidog ynghylch y carchar mawr ym Maglan a sut yr oedd Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fyddai’n cael ei adeiladu ac nad oedd yn ymarferol mwyach, ond hefyd yn y dystiolaeth honno, fe amlygodd y Gweinidog dros garchardai fod Llywodraeth Cymru wedi gwerthu’r tir. Nawr, byddai’r ymgyrch gref a gyflwynwyd gan bobl yn fy etholaeth i...
David Rees: Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma, a byddaf yn gwrando'n ofalus iawn ar y datganiadau sydd i ddod oherwydd, yn amlwg, codasom fwgan dim cytundeb dros 12 mis yn ôl pan baratowyd yr adroddiad cyntaf i ni gan Lywodraeth Cymru. Paul Davies—roedd gen i un neu ddau o bwyntiau. Rwyf eisiau ei gadw'n syml oherwydd gwn fod amser yn brin ar gyfer eich datganiad. Tynnodd ef sylw...
David Rees: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad; mae'n bwysig iawn ein bod yn dal sylw ar y materion yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol ac agweddau eraill. Un o'r pethau a aiff yn angof yn aml iawn yn y ddadl Brexit, oherwydd ein bod yn sôn am nwyddau—ond yma mae gennym ni wasanaethau, ac effeithir arnyn nhw'n fawr iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud eisoes. Os...
David Rees: Weinidog, yn amlwg, cwm Afan oedd un o'r mannau cyntaf i gael eu heffeithio gan y clefyd llarwydd ac un o'r mannau yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf difrifol, ac mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogwr, wedi tynnu sylw at y cyfleoedd a ddaw yn sgil ailgoedwigo. A ydych wedi cael trafodaethau gyda'ch cyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ynglŷn â sut y gallwn wella economïau'r...
David Rees: Wel, fel y nododd Dai Lloyd, yn anffodus, mae gan Port Talbot enw drwg o ran ansawdd aer gwael, ond rydym yn deall rhai o'r rhesymau am hynny. Tynnodd John Griffiths sylw at y ffaith y gall coed fod yn un ateb: mwy o goed ar hyd ein ffyrdd, gan fod gennym ddwy brif ffordd yn pasio drwy'r ardal. Ond rydych wedi cael trafodaethau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. A ydych...
David Rees: 8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynghylch y setliad ariannol ar gyfer llywodraeth Leol? OAQ53265
David Rees: Edrychaf ymlaen at yr adeg y byddwch yn eu cyfarfod ac yn codi'r materion, ac yn ceisio eu cynorthwyo cymaint â phosibl, oherwydd mae'n amlwg fod cyngor Castell Nedd Port Talbot fel pob cyngor arall yng Nghymru, yn wynebu cyfnod heriol oherwydd ideoleg cyni a gaiff ei llywio gan San Steffan. Ond wrth wneud hynny, maent yn amlwg yn edrych yn ofalus iawn ar sut y maent yn rheoli eu mantolen yn...
David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein cynnig heddiw yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi ein tri adroddiad ynglŷn â pha mor barod yw tri sector ar gyfer Brexit: porthladdoedd, gofal iechyd a meddyginiaethau, a bwyd a diod. Daw'r rhain yn sgil ein hadroddiad fis Chwefror diwethaf, a oedd yn gofyn am eglurhad ynglŷn â pharatoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adeg pan fyddai'r DU yn gadael yr...
David Rees: Llywydd, trof yn awr at ein tri adroddiad gydag ychydig mwy o fanylder. Mae'r adroddiadau sy'n cael eu trafod heddiw yn edrych yn fanwl ar rai o'r materion y mae'r tri sector yn eu hwynebu—tri sector sy'n bwysig i economi Cymru. Maen nhw hefyd yn adeiladu ar adroddiadau blaenorol y Pwyllgor. Er na fyddai hi'n bosib ystyried y materion i gyd yn yr amser sydd ar gael imi heddiw, rwy'n annog...