Canlyniadau 501–520 o 700 ar gyfer speaker:Rhianon Passmore

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mesurau i Atal COVID-19 (16 Med 2020)

Rhianon Passmore: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno dadl heddiw i'r Senedd, ac os caf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch o galon i drigolion Islwyn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am eu cydymffurfiaeth a'u haberth wirioneddol. Hoffwn ddiolch a thalu teyrnged hefyd i'r Cynghorydd Philippa Marsden a'i thîm arwain yn ystod yr argyfwng parhaus...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Trafnidiaeth Gyhoeddus Drawsffiniol (22 Med 2020)

Rhianon Passmore: Prif Weinidog, cyn y bore yma, bu'n fisoedd lawer cyn hynny ers i Brif Weinidog y DU alw cyfarfod COBRA gyda'r arweinyddion datganoledig ar draws teulu gwledydd y Deyrnas Unedig. A fyddai materion trafnidiaeth drawsffiniol yn ystod pandemig COVID-19, yn ogystal â llawer o faterion eraill, yn cael sylw llawer gwell trwy gyfathrebu rheolaidd a mater o drefn rhwng y Llywodraethau perthnasol yng...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (22 Med 2020)

Rhianon Passmore: Mae'n amlwg bod y DU yn dymuno bwrw ymlaen a thorri cytundebau rhyngwladol yn fwriadol, ynghyd â chuddio gwir fwriad y Bil ar yr un pryd, sef ceisio cymryd yn ôl reolaeth dros y lle democrataidd hwn, ond gyda gallu newydd i frigdorri cyllideb Cymru ar gyfer blaenoriaethau'r Torïaid. Beth fyddai hyn yn ei olygu i'r rhaglen lywodraethu y mae pobl Cymru wedi ethol y Llywodraeth hon yn...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (22 Med 2020)

Rhianon Passmore: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cymorth sydd ei angen i gynorthwyo sefydliadau diwylliannol a cherddorol Islwyn drwy'r pandemig?

15. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Gyfyngiadau Coronafeirws Lleol (29 Med 2020)

Rhianon Passmore: Gweinidog Iechyd, mae pandemig COVID-19 bellach wedi mynd â bywydau dros filiwn o bobl ledled y byd, yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Johns Hopkins. Yn y Deyrnas Unedig, cyfanswm y marwolaethau ar hyn o bryd o ran coronafeirws yw 57,860, ac yng Nghymru, cyfanswm ein marwolaethau ni yw 1,612. Mae'r niferoedd hyn yn cynrychioli bodau dynol—mam rhywun, tad rhywun, brawd rhywun a chwaer rhywun....

15. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Gyfyngiadau Coronafeirws Lleol (29 Med 2020)

Rhianon Passmore: Diolch. Felly, i grynhoi, Gweinidog iechyd, pa neges, nawr, a fyddech chi yn ei rhoi i bobl Islwyn ynghylch sut y gallan nhw ddylanwadu ar y chwe mis nesaf, a pha neges o obaith a fyddech chi yn ei rhoi iddyn nhw bod angen y rheoliadau hyn a'u bod yn gweithio? Diolch, Llywydd.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Plant sy'n Hunanynysu (30 Med 2020)

Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr achosion o blant yn Islwyn yn cael eu hanfon adref o'r ysgol i hunanynysu ar ôl cael canlyniad positif mewn prawf ar gyfer COVID-19? OQ55586

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Plant sy'n Hunanynysu (30 Med 2020)

Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Diolch am eich ateb. Mae Prif Weinidog Llafur Cymru, Mark Drakeford, wedi nodi bod cadw ysgolion ar agor yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. I'r rhieni a'r plant yn Islwyn, mae'n hanfodol er eu lles cymdeithasol a meddyliol eu bod yn gallu parhau â'u haddysg yn yr ysgol gyda'r holl ragofalon angenrheidiol. O Ysgol Gynradd Rhisga yn y sector cynradd i Ysgol Gyfun y Coed...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwerth am Arian i Drethdalwyr (30 Med 2020)

Rhianon Passmore: Siaradaf yn y ddadl hon i gefnogi gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans, ac yn benodol am bwynt 1, sy'n nodi'r gwerth gwael am arian a gynigir gan economeg cyni, fel yr amlygwyd ym meirniadaeth y Cenhedloedd Unedig o dlodi'r DU.  Byddai angen sgiliau Jackanory, nid rhai Job, ar Angela Burns a'i chyd-Aelodau Ceidwadol i egluro sut y mae prosiect cyni dinistriol Cameron ac Osborne, ochr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ailgodi'n Gryfach yn Islwyn ( 6 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: 8. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod Islwyn yn ailgodi’n gryfach yn dilyn pandemig COVID-19? OQ55665

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ailgodi'n Gryfach yn Islwyn ( 6 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Fel yr Aelod Senedd dros Islwyn, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o'i phapur polisi a strategaeth. Yn y papur 'Ail-greu ar ôl Covid 19: Heriau a Blaenoriaethau', dywed y Gweinidog 'Mae Llywodraeth Cymru am fod yn agored i syniadau newydd ac i her adeiladol, felly mae'n rhaid i ran o’r gwaith hwn fod yn sgwrs genedlaethol. Rydym am wybod beth...

13. Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol ( 6 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Diolch, Gweinidog, ac i Lywodraeth Cymru, am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon i Siambr y Senedd. Llywydd, mae bywydau du o bwys. Bydd 2020 yn flwyddyn a fydd wedi treiddio i'r ymwybyddiaeth gyfunol gyda phandemig COVID-19; fodd bynnag, gallwn ni yma yn y lle hwn sicrhau bod 2020 hefyd yn cael ei chofio fel y flwyddyn pryd y gwnaethom ddweud gyda'n gilydd, pob un ohonom, mai digon yw digon o...

10. Dadl Plaid Cymru: Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth ( 7 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Ddoe gofynnwyd i Ganghellor Torïaidd y DU, Rishi Sunak, beth oedd ei neges i gerddorion, actorion a gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau, a dywedodd y Canghellor yn y diwedd wrth ITN fod pawb yn gorfod addasu. A bod yn onest, nid yw hynny'n ddigon da. Lywydd, mae cerddorion, actorion a gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau yn rhan annatod o enaid diwylliannol ac economaidd ein cenedl wych....

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ( 7 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod Islwyn yn adeiladu'n ôl yn well yn dilyn pandemig COVID-19?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Profi COVID-19 (13 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: 3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am alluoedd profi COVID-19 Cymru? OQ55715

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Profi COVID-19 (13 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Diolch am hynna. Disgwylir i labordy COVID-19 arbenigol cyntaf Cymru agor yng Ngwent y mis hwn, a hoffwn iddo ymuno â mi i ddiolch i'n holl staff ymroddedig sy'n gweithio eu gorau glas ynddyn nhw ledled Cymru. Y gobaith yw y bydd y cyfleuster goleudy newydd yn prosesu 20,000 o brofion y dydd, ac fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato, rheolir y labordai...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020 (13 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip am ei datganiad am Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, ac rwyf innau'n cytuno fod yna wahanol ystadegau a fydd yn cynnig gwahanol fesurau. Ond mae rhagwelediad o'r datganiad hwn i'w weld yn yr ystadegau troseddau casineb cenedlaethol 2019-20 ar gyfer Cymru a Lloegr a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref heddiw. Mae'n dangos y cynnydd...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (20 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad i'r Senedd—yn gyntaf, datganiad cynhwysfawr yn amlinellu'r mesurau cymorth a gafodd eu rhoi ar waith ledled Cymru yn ystod pandemig COVID-19 i gefnogi cerddorion, gweithwyr llawrydd ac fel arall, a'u bywoliaeth, a'r mesurau i gefnogi cerddoriaeth gymunedol—craidd cymunedau Cymru—megis corau, cymdeithasau corawl, bandiau pres a cherddorfeydd cymunedol....

11. Dadl: Coronafeirws (20 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n llwm. Mewn dim ond chwe wythnos fer iawn, rydym wedi symud o fod â lefelau isel iawn o'r coronafeirws i lefelau uchel o haint yn lledaenu'n gyflym yn ein gwlad, ac mae hyn er gwaethaf yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth y byddai'r sefyllfa a nifer yr achosion o feirysau wedi bod hyd yn oed yn waeth heb ardaloedd diogelu iechyd lleol, a mwy o farwolaethau, ac nid dim...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cynghorau Sir (21 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Weinidog, ar 17 Awst eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru hwb ariannol o fwy na £216 miliwn i gynghorau lleol yng Nghymru i roi iddynt y sicrwydd y maent ei angen i gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn, ac mae'n siomedig o ran yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst yn golygu bod cyfanswm cymorth COVID-19 Llywodraeth...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.