John Griffiths: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i leihau faint o amser ysgol a gaiff ei golli o ganlyniad i COVID-19?
John Griffiths: Diolch yn fawr. Rwy'n fodlon iawn â dull y Llywodraeth o ymdrin â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Roeddem ni'n gallu gweld bod rhywfaint o bosibilrwydd o ddryswch, ond fe wnaethom ni nodi yr hyn yr oedd gan y pwyllgor deddfwriaeth i'w ddweud ac roeddem yn eithaf bodlon cefnogi hynny. Mae'n amlwg yn fesur eithriadol o bwysig, ac fel pwyllgor, rydym ni wedi ymddiddori'n fawr iawn yn...
John Griffiths: Yn gynnar yn y pandemig, daeth yn eithaf amlwg bod cymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu heffeithio'n arbennig o wael. Ac ar y pryd, yn lleol, roedd gennym rai problemau yn ein cymunedau, lle'r oedd llawer iawn o bryder a phoeni, yn ddealladwy. Yna fe wnaethom ni drefnu cyfarfodydd gyda'r bwrdd iechyd lleol, a oedd yn ddefnyddiol ac yn gynhyrchiol iawn, ac yna, wrth gwrs,...
John Griffiths: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn ddiweddar i baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OQ55655
John Griffiths: Credaf ei bod yn bwysig iawn i Gymru fod dinasyddion yr UE sy'n byw yma yn parhau i wneud hynny, ac yn parhau i gyfrannu at fywyd yng Nghymru, gan ddod â'u sgiliau i'n gweithlu a'n heconomi, cyfoethogi ein diwylliant a'n cymunedau, a chymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y camau a gymerwyd gan...
John Griffiths: Diolch yn fawr. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar anghydraddoldeb a'r pandemig COVID. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl sefydliadau ac unigolion a roddodd o'u hamser i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau er gwaethaf y pwysau a roddwyd arnynt gan y pandemig. Roedd ein hadroddiad a'n 44 argymhelliad wedi'u gwreiddio'n...
John Griffiths: Diolch yn fawr. Wel, hoffwn ddiolch i bawb, yn amlwg, am eu cyfraniadau, a oedd yn eang iawn eu cwmpas, fel yr adroddiad, ond hefyd, rwy'n meddwl eu bod yn dangos angerdd gwirioneddol dros y pryderon sydd gennym i gyd, a grym gwirioneddol y dadleuon a'r pwyntiau a wnaed i ddod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a'r gwendidau sydd gennym yng Nghymru, a gafodd eu...
John Griffiths: Soniodd llawer o'r Aelodau a'r Gweinidog am yr angen i ymgysylltu'n ystyrlon ac yn effeithiol, a gwn fod Mark Isherwood wedi sôn am hyn, ac mae'n aml iawn yn gwneud hynny, yn briodol ddigon: rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau ein bod yn estyn allan at ein cymunedau mewn gwirionedd, at y rhai sy'n fwyaf agored i niwed ac yn yr anhawster mwyaf ac at y rhai sy'n darparu'r...
John Griffiths: Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, rwy'n croesawu'n fawr lofnod diweddar Llywodraeth Cymru ar ddatganiad Caeredin ar y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020. Mae'r datganiad yn cydnabod yn feirniadol fod bioamrywiaeth iach a'r gwasanaethau ecosystem y mae'n eu darparu yn allweddol i les pobl ac i feithrin cadernid ein dinasoedd a'n rhanbarthau—mae hynny yn ystod ac ar ôl y...
John Griffiths: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i helpu i lywio ein gwaith, yn enwedig y tenantiaid a ddaeth i'n grwpiau ffocws a gynhaliwyd ledled Cymru a landlordiaid ac asiantau gosod a ymatebodd i'n harolwg. Fel pwyllgor, rydym yn parhau i roi gwerth mawr ar brofiad...
John Griffiths: Dirprwy Lywydd, oeddwn.
John Griffiths: Diolch yn fawr iawn. Mae cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwahardd ysmygu ar dir ysbytai yng Nghymru â'r potensial i chwarae rhan bwysig o ran lleihau cyffredinrwydd ysmygu drwy ddadnormaleiddio ysmygu ac annog ysmygwyr i roi'r gorau iddi, a chredaf fod yr un peth yn wir am y posibiliadau o wahardd ysmygu ar dir ysgolion a meysydd chwarae mewn parciau, ac, yn wir, llawer o leoedd eraill. Gobeithio...
John Griffiths: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lefelau presennol COVID-19 yng Nghasnewydd?
John Griffiths: 5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r niwed sy'n deillio o COVID-19 yng Nghasnewydd? OQ55875
John Griffiths: Prif Weinidog, cefais olwg ar ysbyty newydd y Faenor Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yr wythnos diwethaf. Fe'i hagorwyd yn swyddogol heddiw, ond cafwyd yr enedigaeth gyntaf yn ei ganolfan eni eisoes—merch fach, a anwyd yn briodol ddeuddydd yn ôl, ar ben-blwydd Aneurin Bevan. A wnewch chi gytuno â mi bod y cyfleuster hwn o'r radd flaenaf yn ychwanegiad i'w groesawu'n fawr at allu'r...
John Griffiths: Gweinidog, ymhlith yr ardaloedd cryf yng Nghymru o ran traddodiad dur y mae Casnewydd, wrth gwrs, a Llanwern—esgusodwch fi—a Liberty Steel. Roedd gennym ni Orb, ond, yn anffodus, mae hynny wedi diflannu erbyn hyn, ac mae llu o gwmnïau llai. Felly, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd heddiw y bydd gan y traddodiad dur hwnnw a'r safleoedd dur hynny ran gref yn nyfodol dur yng Nghymru a'r DU....
John Griffiths: 7. Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effeithiau COVID-19 ar ei pholisïau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yng Nghymru? OQ55876
John Griffiths: Weinidog, yn ystod COVID-19, rydym wedi gweld llawer o bobl leol yn cysylltu'n well â'u hamgylcheddau lleol, yn mynd allan am dro, efallai, am eu hymarfer corff bob dydd ac yn gwerthfawrogi natur i raddau mwy. Credaf fod cyfle nawr i fanteisio ar y gydnabyddiaeth newydd hon o werth natur i iechyd a lles ac ansawdd bywyd gwell, a tybed beth y gallech ei ddweud am fwy o gefnogaeth i...
John Griffiths: 1. Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o nifer yr achosion o COVID-19 yn Nwyrain Casnewydd? OQ55943
John Griffiths: Prif Weinidog, rwy'n credu bod pryder ynglŷn â'r ystadegau diweddaraf, ac, yn amlwg, bydd angen i ni edrych ar hynny—bydd angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar hynny. Un agwedd sy'n peri pryder mawr i'm hetholwyr i yw'r amser ysgol sy'n cael ei golli. Mewn ysgolion uwchradd. er enghraifft, mae grwpiau blwyddyn cyfan yn parhau i hunanynysu pan fydd gan un o'r grŵp COVID-19, ac nid...