Suzy Davies: Roeddwn yn arbennig o awyddus i gyfrannu yn y ddadl hon, gan i mi fod yn wirfoddolwr gyda dwy elusen gymunedol a oedd yn darparu neu'n gweithio gyda thrafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig. Mae'r profiadau a gefais yn atgyfnerthu'n llwyr yr hyn y mae Aelodau eraill eisoes wedi'i ddweud heddiw am ddiben a chanlyniadau sefydliadau trafnidiaeth gymunedol sy'n aml yn gydgynhyrchiol. Fel y...
Suzy Davies: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r bylchau cyflog rhwng y rhywiau mewn awdurdodau lleol?
Suzy Davies: Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad llafar digon brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, os gwelwch yn dda, ar swyddogaeth y cyd-ymatebwyr tân? Ers i'r categori coch gael ei leihau o ran nifer yr amodau sydd ynddo, os mynnwch, mae swyddogaeth y cyd-ymatebwyr wrth fynd i alwadau ambr wedi dod yn llawer mwy tyngedfennol, yn fy marn i, yn enwedig wrth fynd i'r...
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Darren Millar.
Suzy Davies: Rydym ni bron hanner ffordd drwy'r ddadl hon ac mae gen i nifer o siaradwyr sydd eisiau cyfrannu. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gellid cadw'r cwestiynau a'r atebion mor gryno â phosib. Michelle Brown.
Suzy Davies: Mae un siaradwr ar ôl, ond os hoffech chi wneud hynny'n awr.
Suzy Davies: Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Suzy Davies: Diolch, Weinidog.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: diweddariad a chamau nesaf y grant datblygu disgyblion. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams.
Suzy Davies: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Darren Millar.
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cyd-ymatebwyr?
Suzy Davies: Un o flaenoriaethau cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ceiswyr lloches oedd dod o hyd i fwy o gyfleoedd i geiswyr lloches gael mynediad at addysg uwch, ac roedd yn dweud yn benodol iawn yn y cynllun hwnnw y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cymorthfeydd misol gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i roi cyngor i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar lwybrau posibl i brifysgolion. Gallwch...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Ar yr union bwynt hwnnw, tybed a allwch rannu gyda'r Cynulliad eich safbwyntiau ar is-adran (8), sydd i'w weld yn datrys llawer o'r problemau rydych wedi'u codi eisoes yn eich ateb i'r ddadl.
Suzy Davies: A gaf fi ddweud diolch yn fawr iawn, Angela? I mi, dros y 40 mlynedd diwethaf, gair yn unig ar waelod tystysgrif marwolaeth fy nhad-cu oedd 'septisemia', sef yr un peth. A phan fu farw, yn hollol annisgwyl yn yr ysbyty, ef oedd gofalwr fy mam-gu, ac fel y nododd Julie, bu'n rhaid iddi fynd i gartref, fe gafodd strôc a chafodd y teulu ei lethu o fewn ychydig fisoedd. Er bod Ymddiriedolaeth...
Suzy Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r broses ar gyfer cyfrifo faint o arian a ddyrennir i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi gwasanaethau brys?
Suzy Davies: Prif Weinidog, clywsom yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar ddiabetes bod tua 100 o nyrsys diabetes newydd yn cael eu cyflwyno yn Lloegr. Nid oes gennym ni ddim un yma. Er, wrth gwrs, y rhoddir pympiau inswlin gan y GIG i bobl sydd â diabetes os byddant eu hangen ar frys, nid oes unrhyw sicrwydd heb y nyrsys arbenigol eu bod nhw'n cael eu defnyddio'n gywir. O gofio ein bod ni'n cael mwy o...
Suzy Davies: Tybed a gaf i ofyn, mewn gwirionedd byddai datganiad ysgrifenedig yn well ar gyfer hyn mae'n debyg, naill ai gan yr Ysgrifennydd llywodraeth leol, neu, yn wir, gennych chi eich hun, i egluro'r sefyllfa o ran pwy sy'n gyfrifol am fonitro a datrys unrhyw broblemau yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ein hawdurdodau lleol. Rai wythnosau yn ôl, mewn ateb ysgrifenedig i gwestiwn llafar na...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn, mewn gwirionedd. Roeddwn i eisiau gofyn dau neu dri chwestiwn yn eithaf cyflym. Ym mis Tachwedd, fe wnaethoch chi ddweud bod arnoch chi eisiau gweithio a'r holl Lywodraeth a chydag awdurdodau lleol a'r holl adrannau. Roeddwn i eisiau eich holi chi ychydig am yr ymgynghoriad. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos y...
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd am y datganiad yna.