Canlyniadau 521–540 o 700 ar gyfer speaker:Rhianon Passmore

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Ymbellhau Cymdeithasol mewn Ysgolion (21 Hyd 2020)

Rhianon Passmore: Weinidog, diweddarwyd y canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau ar gyfer tymor yr hydref—fersiwn 3, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru—ddeuddydd yn ôl. Mae'r canllawiau hyn yn nodi y dylai awdurdodau lleol gyfathrebu'r mesurau rheoli i ysgolion a lleoliadau, ac y dylai ysgolion a lleoliadau weithio gyda staff, rhieni, gofalwyr a dysgwyr er mwyn i'r trefniadau diwygiedig...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Treftadaeth ( 3 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi lansio'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £53 miliwn a'r ffrwd cyllid â blaenoriaeth gwerth £18 miliwn. Ers mis Medi mae sefydliadau diwylliannol a threftadaeth wedi gallu gwneud cais am gyllid wrth i ni ddechrau'r adferiad hir ac araf o argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf y ganrif ddiwethaf, ac nid oes unrhyw sector o'n cymdeithas nad yw wedi...

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Dyfodol Gwasanaethau Rheilffyrdd — Manylion y trefniadau newydd ( 3 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Diolch; nid yw'n dangos. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Senedd Cymru am fater hanfodol dyfodol y rheilffyrdd yng Nghymru. Croesawaf yr uned gyflawni ar y cyd a'r hyn a ddywedwyd am egwyddorion cydfuddiannol. Gŵyr pawb yn y Siambr hon a ledled Cymru y bu'r misoedd diwethaf yn heriol iawn i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Frechu COVID-19 ( 4 Tach 2020)

Rhianon Passmore: 6. Pa gynllunio y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflwyno rhaglen frechu COVID-19 ar draws Islwyn? OQ55806

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Frechu COVID-19 ( 4 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Diolch. Weinidog, gwyddom nad oes brechlyn ar gyfer COVID-19 ar hyn o bryd, ond ceir awgrymiadau cyson y gallem weld un neu fwy o frechlynnau COVID-19 cenhedlaeth gyntaf yn 2021. Mae Albert Bourla, prif weithredwr Pfizer, wedi dweud bod brechlyn yr Almaen ar y filltir olaf, a bod y cwmni fferyllol yn disgwyl canlyniadau o fewn ychydig wythnosau, a gwyddom fod cwmnïau fferyllol a chyffuriau...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Brexit heb Gytundeb (11 Tach 2020)

Rhianon Passmore: 2. Pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb? OQ55841

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Brexit heb Gytundeb (11 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Diolch. Mae'r risg y bydd y DU yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb, a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol, yn real iawn, fel y cydnabuwyd. Mae'r holl dystiolaeth gredadwy yn awgrymu y bydd canlyniadau economaidd andwyol sylweddol yn sgil unrhyw newid sydyn a llym o'r fath i'n perthynas fasnachu o fewn yr UE. Felly, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth...

8. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol (11 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd—a allwch chi fy nghlywed?

8. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol (11 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Rwy'n cael anawsterau gyda'r rhyngrwyd. Rwy'n croesawu gwaith y pwyllgor wrth gwrs, y Cadeirydd, a hefyd, gobeithio, ymateb y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas. Fel y gŵyr yr Aelodau o'r Senedd, gwerth y diwydiant cerddoriaeth fyw ledled Cymru, yn ei holl ffurfiau, yw £5.2 biliwn ledled y DU, ac mae ei werth cyfatebol yng Nghymru yr un mor bwysig i greadigrwydd Cymru yn rhyngwladol, fel brand...

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog (11 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Ar Ddiwrnod y Cadoediad, nodwn aberth eithaf y rhai a roddodd eu bywydau fel y gallwn heddiw fyw ein bywydau ni yn rhydd o orthrwm, hiliaeth a ffasgaeth. Ni fyddwn yn anghofio'r holl rai sydd wedi marw yn sgil eu galw i wasanaethu eu gwlad na'r rhai yr effeithir arnynt mewn cynifer o ffyrdd o hyd heddiw mewn rhyfel a gwrthdaro. Ni fyddwn ychwaith yn anghofio'r miliynau o deuluoedd...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (11 Tach 2020)

Rhianon Passmore: A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau sy'n cael eu gwneud i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn Islwyn?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (17 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella nifer yr achosion o gysgu ar y stryd yn Islwyn?

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y broses gynllunio, yr amserlenni a'r ffordd o fynd ati i lunio strategaeth ailgychwyn gyfyngedig a graddol ar gyfer lleoliadau perfformiad a chelfyddydau ledled Cymru, ond i nodi bod ymchwil wyddonol a fframweithiau lliniaru gweithredu diogel hanfodol bellach ar waith ledled y DU ac yn rhyngwladol, ein bod ni yng Nghymru wedi agor ac yn...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Dyrannu Cyllid (25 Tach 2020)

Rhianon Passmore: Weinidog, mae Canghellor Trysorlys y DU nawr yn cyhoeddi cynlluniau gwariant Llywodraeth Dorïaidd y DU ar gyfer y flwyddyn i ddod, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant a ohiriwyd cyhyd. A ninnau'n ceisio sicrwydd a chynllunio ar gyfer tymor hwy ar draws asiantaethau rhynglywodraethol a llywodraeth leol yn ystod y cyfnod hwn, mae'n siomedig mai cynllun blwyddyn yw hwn o hyd. Ac wrth gwrs,...

8. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws — Cyfyngiadau Mis Rhagfyr ( 1 Rha 2020)

Rhianon Passmore: Prif Weinidog, diolch ichi am y datganiad a hefyd y ffordd bwyllog a dygn yr ydych chi a'ch Cabinet yn arwain Cymru drwy'r pandemig hwn. Maen nhw'n dweud ei fod bob amser yn dywyll cyn y wawr ac rydym ni'n wynebu tymor o Adfent erbyn hyn heb ei debyg yn ystod cyfnod o heddwch. Ac fel y dywedwyd, o ddydd Gwener 4 Rhagfyr, bydd tafarndai, bwytai a chaffis Cymru yn cau erbyn 6 yr hwyr, er y...

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio trafnidiaeth ( 2 Rha 2020)

Rhianon Passmore: Mae'r adroddiad pwysig hwn gan bwyllgor Senedd Cymru yn bwysig ac yn amserol. Mae'r materion brys sy'n effeithio ar ein byd yn dal i fod gyda ni, yn ychwanegol at COVID ac nid ar wahân iddo, ac mae'r argyfwng hinsawdd yn dal i fod gyda ni. Mae angen i doriadau carbon ddigwydd, ac mae angen iddynt ddigwydd yn gyflym. Unwaith eto, daeth rhybudd enbyd gan y Cenhedloedd Unedig, ac mae...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd ( 8 Rha 2020)

Rhianon Passmore: Rwyf wedi ymgyrchu ers tro byd dros adfer llwybr coedwig hardd Cwm-carn er mwyn i bobl Cymru a'r byd ei fwynhau. Mae'n fan lle cefais fy unig wyliau pan oeddwn yn blentyn bach a lle mae fy nhad wedi ei beintio ers iddo fod yn blentyn. Mae ei adfywiad hefyd, yn ganlyniad i bobl hynod ymroddedig Islwyn, sydd wedi ymgyrchu dros ei hadfer dros flynyddoedd lawer bellach. Hefyd oherwydd bod Cyngor...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd ( 8 Rha 2020)

Rhianon Passmore: [Anghlywadwy.]—Islwyn, yn gweithio o fewn ymgyrch sgiliau prentisiaeth, addysg a hyfforddiant cyfannol. Felly, fy nghwestiwn i, Gweinidog: pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru a thasglu'r Cymoedd yn eu hystyried i sicrhau gwell integreiddio hyd yn oed rhwng cymunedau Islwyn ac un o ryfeddodau naturiol Cymru? A pha gamau y gall tasglu'r Cymoedd eu cymryd i fanteisio ar greadigrwydd diwylliannol...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwasanaethau Rheilffordd yn Islwyn ( 9 Rha 2020)

Rhianon Passmore: 5. Pa effaith y bydd argymhellion yr adroddiad Un Rhanbarth, Un Rhwydwaith, Un Tocyn gan Gomisiynydd Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn ei chael ar wasanaethau rheilffordd yn Islwyn? OQ56017


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.