Vikki Howells: Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y grŵp Llafur, ac wrth wneud hynny rwy'n siarad ar ran yr holl Aelodau Llafur, llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu gydag Oscar am y 13 blynedd diwethaf. Gweithiodd llawer yn agos gydag ef mewn amrywiaeth o leoliadau dros y cyfnod hwnnw. Fel y mae pawb wedi cyfeirio ato, roedd Oscar bob amser yn hwyliog, ac er ei fod yn ddadleuwr cadarn yn...
Vikki Howells: 4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ar gyfer creu Cymru fwy cyfartal? OQ55334
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn gweld arddangosiadau heddychlon o undod â Black Lives Matter, a chefais fy mhlesio'n fawr iawn gan nifer y bobl iau yn arbennig sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'r mater hwn. Mae un cwestiwn y maent i gyd yn ei ofyn yn ymwneud â rôl addysg yn trechu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Race Council...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog, rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar y cwestiynau a'r atebion gan bobl eraill ar y pwnc hwn, a'r rheswm yr oeddwn i eisiau ymuno oedd i ddweud bod nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi a oedd yn ddig iawn eu bod wedi clywed y negeseuon anghywir ar y rhaglen This Morning ar deledu'r DU ac roeddent yn awyddus iawn i ffonio neu anfon neges destun i'w cywiro ynglŷn â...
Vikki Howells: Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn trafod gyda llawer iawn o fusnesau yng Nghwm Cynon sy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol a gawsant gan Lywodraeth Cymru o dan y gronfa cadernid economaidd. Er mwyn cael mynediad at y gronfa honno, nodaf fod angen iddynt ymrwymo i gontract economaidd Llywodraeth Cymru. A allwch roi asesiad inni o sut rydych yn meddwl y bydd ymrwymo i’r contract...
Vikki Howells: Gweinidog, mae ardaloedd gwella busnes yn cefnogi busnesau yng nghanol ein trefi mewn 16 o leoliadau gwahanol ledled Cymru, gan gynnwys yn Aberdâr yn fy etholaeth i, lle y sefydlwyd ardal gwella busnes yn gynnar eleni. Rwy'n dwyn i gof y datganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ar 6 Mai y bydd yn cefnogi ardaloedd gwella busnes yng Nghymru gyda'u costau rhedeg am hyd at dri mis. Yn Aberdâr,...
Vikki Howells: Prif Weinidog, rwy'n ffyddiog y byddwch chi'n cytuno â mi pan ddywedaf y gall defnydd arloesol o gymwyseddau treth gael effaith gadarnhaol ar ein cyllid cyhoeddus, yn ogystal â dod â manteision cymdeithasol cadarnhaol eraill. Fel y gwyddoch, rwy'n gefnogwr brwd o'r dreth ar dir gwag, a allai nid yn unig roi hwb i gyllid cyhoeddus ond, yn bwysicach, gweddnewid ein cymunedau hefyd. Felly,...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw, ac rwyf wedi'i ddarllen gyda diddordeb mawr. Un rhan allweddol o sicrhau bod ein hysbytai'n gallu ymdopi â'r galw drwy aeafau arferol, heb sôn am yr un sy'n dod, yw'r gallu i ryddhau cleifion mewn modd diogel ac amserol er mwyn osgoi llenwi gwelyau yn ddiangen. Gwn fod cyngor Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm...
Vikki Howells: Diolch am eich datganiad heddiw, Weinidog, ac am yr holl gamau sy'n cael eu cymryd i geisio diogelu lles trigolion Rhondda Cynon Taf. Fel y gallwch ddychmygu, rwyf wedi cael llawer o gwestiynau mewn amser byr gan drigolion Cwm Cynon, felly rwy'n croesawu'r cyfle hwn i ofyn rhai o'r rheini'n uniongyrchol i chi. Yn gyntaf, mewn perthynas â gwyliau wedi'u harchebu, gwn na fydd trigolion...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae gen i ddiddordeb arbennig ym manylion yr agwedd eiddo gwag. Hoffwn gael rhagor o fanylion am hynny. Gwn fod awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am hynny, ond a wnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth inni am unrhyw feini prawf sy'n gysylltiedig â hynny? Felly, er enghraifft, ai ar gyfer manwerthu yn unig y mae neu a allai fod ar gyfer...
Vikki Howells: Weinidog, diolch am eich atebion i'r cwestiynau ar hyn eisoes. Credaf y byddwch yn cytuno â mi mai un o'r prif bethau sydd wedi bod o gymorth i bobl wrth iddynt gael eu gwarchod yw'r slotiau dosbarthu siopa blaenoriaethol y mae archfarchnadoedd wedi'u cynnig iddynt. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, o siarad ag etholwyr, mae llawer o archfarchnadoedd bellach yn rhoi’r gorau i ddarparu slotiau...
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad—[Anghlywadwy.]—mae Llywodraeth Cymru—[Anghlywadwy.]—i'ch canmol am ehangder a dyfnder—[Anghlywadwy.] Mae llawer o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn amdano, ond, oherwydd cyfyngiadau amser, gofynnaf dri yn unig. Yn gyntaf, trydydd cam y gronfa cadernid economaidd—sylwaf fod y ddogfen yn datgan y bydd arian wedi'i neilltuo ar gyfer busnesau sydd wedi...
Vikki Howells: Rwy'n derbyn adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion. Nid oeddwn erioed yn bwriadu torri'r canllawiau sydd ar waith. Rwy'n falch bod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wrthi'n adolygu amryw o faterion, gan gynnwys y canllawiau a ddarperir i Aelodau. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn sicrhau bod y rheolau'n glir, yn rhesymol ac yn ddealladwy yn y dyfodol, fel nad oes Aelodau eraill yn canfod eu hunain yn...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Croesawaf waith y tasglu parcio ar y palmant ac rwy'n cydnabod yr effaith y mae parcio ar y palmant yn ei gael ar gerddwyr, yn enwedig y rheini sydd â phroblemau symudedd, cadeiriau gwthio, a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Ond yn cynrychioli'r Cymoedd, â'u strydoedd teras hardd ond cul, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu o glywed fy mod hefyd yn...
Vikki Howells: Mae llawer o ganfyddiadau gwirioneddol gadarnhaol yn adroddiad cynnydd eich panel bod gwasanaethau mamolaeth wedi ymdopi â'r elfennau gwaethaf o COVID-19 a bod uwch dîm yn y bwrdd iechyd prifysgol yn cynnal ei lefel uchel o ymrwymiad. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny yn fawr iawn ar ran fy etholwyr i. O ran edrych i'r dyfodol a sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth o'r safon uchaf bosibl i'n...
Vikki Howells: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl yng Nghymru y mae clefyd Parkinson's yn effeithio arnynt?
Vikki Howells: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd yng Nghymru? OQ55676
Vikki Howells: Diolch, Weinidog, ac roedd yn dda gweld y cyhoeddiad a wnaethoch ym mis Awst ynglŷn â chyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd. Hoffwn dynnu sylw at un fenter heddiw gan Rhondda Cynon Taf, sef yr asiantaeth gosod tai cymdeithasol a grëwyd gan yr awdurdod i reoli eiddo rhent preifat a fyddai’n cael eu hisrannu yn llety un person i bobl a fyddai fel arall mewn perygl o fod yn...
Vikki Howells: Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Hoffwn ddweud ychydig eiriau i dalu teyrnged i ddyfalbarhad fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn ymdrechu i sicrhau y gallwn drafod y pwnc hwn heddiw. Mae'n fater mor bwysig. Fel y dywedwyd, mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod y cyflwr creulon hwn yn effeithio ar 160,000 o fenywod yng Nghymru. Bydd meinwe'n...
Vikki Howells: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y bobl â COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru?