David Melding: Teimlaf y dylwn i ddechrau mewn ysbryd mwy hael nag y gwneuthum yr wythnos diwethaf, oherwydd rydym yn aml yn gwrthdaro ar faterion tai. Felly, gadewch imi groesawu naws y datganiad hwn ac ymadroddion megis: 'Rwyf eisiau gweithio gyda nhw i adeiladu llawer o dai yn gyflym'—dyna'r amrywiol bobl sy'n adeiladu tai; 'Credwn nad yw perchentyaeth ar gyfer pobl ar incwm uwch yn unig'—wel, dyna...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n sicr yn cytuno bod y cynllun Cymorth i Brynu wedi bod yn llwyddiannus, fel y mae wedi bod yn Lloegr, ac mae'r mesurau eraill o ran galw a grybwyllwyd gennych—mae'r rhan fwyaf ohonynt yn Lloegr hefyd—wedi bod o gymorth hefyd, ond nid ydynt mor rymus â mesurau'r ochr gyflenwi. A gaf i ddweud wrthych chi, nawr, y ffigurau diweddaraf? Ers mis Mawrth 2018, sydd newydd...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Rydych chi'n amlwg yn fy ffafrio i y prynhawn yma, a hir y parhaed hynny. [Chwerthin.] Prif Weinidog, Cwm Cynon yw'r drydedd etholaeth leiaf gweithgar yn economaidd yng Nghymru, a gwyddom am y cysylltiad rhwng gweithgarwch economaidd a ffyniant. Y prif reswm y mae pobl yn parhau i fod yn economaidd anweithgar, pan y gallent, mewn gwirionedd, am resymau iechyd, fod yn...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddweud—[Anhyglyw.]—nid wyf i o'r farn fod yn rhaid cael tyndra rhwng amaethyddiaeth gynhyrchiol a gofal am yr amgylchedd. Felly, gallwn yn sicr gyfuno'r nwyddau cyhoeddus a'r dyheadau hyn sydd yn bwysig iawn. Yn amlwg, ceir rhai meysydd lle mae modd inni gael mwy o amrywiaeth o ran cynnyrch, ac mae garddwriaeth yn un maes diddorol iawn yn fy marn i. Ceir...
David Melding: A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r adroddiad hwn ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i strategaeth blastigau ehangach? Rydym ni wedi bod yn galw am hyn ers peth amser. Rwy'n credu mai mynd ati ar lefel y DU i ymdrin â llawer o'r ysgogiadau polisi i reoli gwastraff plastig a chynyddu ailgylchu yw'r ffordd orau ymlaen yn sicr, er bod mentrau y gallwn ni eu rhoi ar waith hefyd, fel y nodwyd yn yr...
David Melding: Iawn, wel mae hynny 100 y cant yn fwy nag y tybiais yr oedd gennym.
David Melding: Byddwn i'n falch o ymuno â chi.
David Melding: Llywydd, mae hi er budd y cyhoedd fod y Bil hwn yn cael cefnogaeth heddiw. O ystyried penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddosbarthiad landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, mae'n rhaid inni weithredu. Ers y cychwyn cyntaf, rydym wedi derbyn egwyddor y Bil hwn ar yr ochr hon i'r Cynulliad, fodd bynnag, rydym wedi ceisio craffu arno fel darn o ddadreoleiddio sylweddol, ond...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd, mae bob amser yn bleser cael dilyn Mike Hedges, ac roedd mor ddewr yn trafod y mater o safbwynt athronyddol. Roedd i'w weld fel pe bai'n dadlau bod y dreth ar dir yn hanfodol ac yn ddychmygol ar un pryd, ond efallai na lwyddais i ddilyn ei resymeg yn arbennig o dda. Roedd gweddill ei berorasiwn ar ddiben a rhyfeddod trethiant, ac rwyf wedi darllen y cynnig yn...
David Melding: Credaf mai un peth y dylem edrych arno efallai yw lleihau baich y dreth ar fuddsoddiad masnachol drwy wobrwyo arferion a thechnegau adeiladu amgylcheddol sensitif a sut y maent yn mynd i ddefnyddio'r adeilad a chyfleusterau eraill a allai fod ganddynt yno a fydd yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Efallai y gallech gynnig cymhellion yn hynny o beth i liniaru'r penderfyniad anffodus rydych...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd.
David Melding: Mae hanes, daearyddiaeth ac ehangu cyflym diwydiannau echdynnol, yn enwedig glo, wedi cyfuno i lunio amgylchedd adeiledig unigryw yng Nghymru, ac rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heno. Rwyf hefyd yn falch o ganiatáu i Hefin David a Suzy Davies gael munud o fy amser. Mae tai teras o'r cyfnod diwydiannol yn bresennol mewn rhannau eraill o'r DU, ond nid mewn crynodiadau o'r maint a...
David Melding: Cyfunodd tai teras i wneud cyfres unigryw o gymunedau trefol, pentrefi bron, a wrthgyferbynnai'n amlwg â datblygiadau trefol cnewyllol mewn mannau eraill. Mae oddeutu 40 y cant o gartrefi Cymru yn dai teras, a bydd yn dal i fod yn 28 y cant o'n stoc dai erbyn 2050. Dylid dathlu'r etifeddiaeth hon yn frwd, yn hytrach na'i gweld fel baich neu rywbeth sydd wedi goroesi o'r oes ddiwydiannol....
David Melding: Prif Weinidog, dros dri mis y gaeaf, bu'n rhaid i 1,860 o bobl a ddosbarthwyd yn ambr, a byddwch yn gwybod bod hyn yn cynnwys pobl sy'n dioddef strôc neu drawiad ar y galon, aros dros chwe awr am eu hambiwlans. Nawr, does bosib bod hyn yn annerbyniol ac mae angen i ni sicrhau, y gaeaf nesaf, bod rhai o'r safonau sylfaenol iawn hyn yn cael eu bodloni.
David Melding: Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Fel y noda adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ganolog i'r argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf eisiau dychwelyd at hynny yn ddiweddarach. Hyn, ynghyd â'r gwelliannau i'r cymal 11 gwreiddiol. Fel y noda adroddiad y pwyllgor:...
David Melding: Os yw hyn yn wir yn gam yn ôl o ddatganoli, fel mae Plaid a'r SNP yn honni, mae'r cyhoedd yn ymddangos yn hyderus iawn. Fe wnaf ildio.
David Melding: Wel, dyna'r holl bwynt, welwch chi, ynte? Rydych chi'n dadlau, 'Oes, mae eu hangen nhw arnom ni', ond wnewch chi ddim cytuno ar unrhyw broses neu roi cydsyniad rhesymol i'w ffurfio. Rydych chi eisiau pleidlais atal genedlaethol. Rydych chi eisiau cadw'r hyn a welwch chi fel eich sofraniaeth absoliwt.
David Melding: Ni fyddai UE wedi bodoli yn y lle cyntaf oni ailaseswyd y dehongliad penodol hwnnw o sofraniaeth. Fel y dywedodd Monnet, mae angen inni oresgyn y rhwystr o sofraniaeth genedlaethol gul, ac mae angen inni greu, yn y DU, rhywbeth sy'n cyfateb i'r llywodraethiant cyffredin yn yr UE. Mae'r ffordd yr ydych chi'n mynd ati yn gwyrdroi hynny a dyna'r holl broblem yma y prynhawn yma.
David Melding: Iawn, fe wnaf i dderbyn un yn rhagor.
David Melding: A gaf i ddweud, Rhun, rwy'n wirioneddol falch eich bod wedi gwneud y sylw hwnnw oherwydd rwyf eisiau symud yn awr at fy nghasgliad, sydd yn faes, rwy'n credu, efallai, y byddwn yn fwy unedig yn ei gylch? Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn bwysig iawn. Dim ond y dechrau yw, fodd bynnag, o'n cysyniad o gyd-lywodraethu ac mae angen ailwampio hyn a dyna fydd y prawf...