Rhianon Passmore: Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod ar flaen y gad ers tro yn y gwaith o drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yn Islwyn. Yn 2008, ailagorodd Llywodraeth Lafur Cymru wasanaeth rheilffordd teithwyr Glynebwy i Gaerdydd sy'n gwasanaethu cymunedau Islwyn yn Crosskeys, Trecelyn, a Rhisga a Phontymister. Mae wedi profi'n un o lwyddiannau trafnidiaeth mawr datganoli yng Nghymru, felly rwy'n falch o...
Rhianon Passmore: Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, eisoes wedi ein rhybuddio, fel Aelodau o'r Senedd, ar 1 Rhagfyr, fod arbenigwyr gwyddonol a meddygol wedi datgan yn glir—ac rwy'n ailadrodd—y gallai cyfanswm nifer y bobl â COVID yn yr ysbyty godi i 2,200 erbyn 12 Ionawr oni bai ein bod yn ymateb nawr. Ychwanegodd y Prif Weinidog y gallai fod rhwng 1,000 a 1,700 o farwolaethau y gellid eu hatal...
Rhianon Passmore: Diolch am y datganiad, Cwnsler Cyffredinol. Fe ddywedwyd wrth wrandawiad o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn gynharach y mis hwn fod 61 y cant o allforion Cymru yn mynd i'r UE, o'i gymharu â 43 y cant o holl allforion y DU. Mae gan Gymru gyfran uchel o ddiwydiannau hefyd y disgwylir iddyn nhw fod yn wynebu tariffau uchel os na chawn gytundeb, gan enwi rhai yn unig: modurol, llaeth,...
Rhianon Passmore: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ffactorau a allai rwystro'r berthynas rhwng Cymru ac Ewrop yn 2021?
Rhianon Passmore: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon mewn lleoliadau gwledig anghysbell yn Islwyn? OQ56061
Rhianon Passmore: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae tipio anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gyda'r rhan fwyaf o’r sbwriel yn cael ei ddympio ar ddarnau o dir agored, fel y Twmbarlwm hanesyddol yn fy etholaeth i, Islwyn. Nid yn unig fod cost ariannol i'w thalu, ond mae cost aruthrol i dirweddau naturiol hardd Islwyn. Weinidog, yn gynharach eleni,...
Rhianon Passmore: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon i'r Senedd heddiw ar y pwnc hollbwysig hwn. Hoffwn ddechrau, os caf, drwy ddiolch i arweinyddiaeth ac ymdrechion penderfynol Llywodraeth Cymru, ac yn fy ardal i, i gyngor Caerffili, am gynnig darpariaeth leol arloesol o brydau ysgol am ddim. Ni fu erioed fwy o angen am brydau ysgol am ddim ar gynifer o blant yn ystod anobaith...
Rhianon Passmore: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy ar draws cymunedau Islwyn?
Rhianon Passmore: Mae deddfwriaeth fewnol y farchnad, fel y mae, yn tanseilio sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig a mandad y fan hon. Mae'r hyn y mae Boris a'i ffrindiau wedi'i wneud hyd yma wedi peri i hyd yn oed cyn-Weinidogion Torïaidd a Phrif Weinidogion Torïaidd wrthwynebu'n groch oherwydd bydd yn difreinio dinasyddion Cymru ac yn annog chwalu'r DU y maen nhw'n honni ei diogelu. Mae'r ffaith y...
Rhianon Passmore: Mae'n flin gen i, Ann Jones, nid oes cwestiwn gen i.
Rhianon Passmore: Fel rydych chi'n sylweddoli, mae Casnewydd, sef yr unig ddinas yng Ngwent, yn ganolbwynt gwirioneddol i gymunedau Cymoedd Gwent yr wyf i'n eu cynrychioli yn Islwyn, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru i argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac mae yna hen ddisgwyl nawr am y rheilffordd y mae croeso mawr iddi yng Nghasnewydd. Felly, mae'n gwbl...
Rhianon Passmore: Ar draws Islwyn, mae gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yn ei gyfanrwydd yn ymateb i her y pandemig hwn, ond mae llawer o bryder o hyd ynglŷn ag ymgyrch i ledaenu camwybodaeth, sef yn benodol fod y rhaglen frechu ymhell o gyrraedd ei tharged a heb fod ar y trywydd cywir, ac mae unrhyw godi bwganod bwriadol o’r fath yn gwaethygu'r gorbryder a'r ofn sydd eisoes yn bodoli yn ein cymunedau. Y...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog Iechyd, rwy'n croesawu eich datganiad chi'n fawr heddiw am effeithiolrwydd y rhaglen frechu yn Islwyn, a weinyddir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac sy'n arloesi ymhellach. Rwyf am ddiolch ar goedd hefyd yn ddiffuant i bawb sy'n peryglu eu bywydau ar y rheng flaen, a'r rhai sydd mewn swyddi arweinwyr yn y rhyfel hwn ar COVID-19. Mae agor y ganolfan...
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. Rwyf yn croesawu eich datganiad a'r penderfyniad anodd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ganslo arholiadau yn haf 2021 er mwyn caniatáu mwy o le ac amser ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae'r penderfyniad hwn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar ddysgwyr, eu teuluoedd a'u hathrawon ar adeg ansicr iawn. Bob dydd, mae plant a'u hathrawon yn parhau â'u haddysg o bell, ac rwy'n...
Rhianon Passmore: 1. Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn Islwyn yn ystod COVID-19? OQ56295
Rhianon Passmore: Diolch. Prif Weinidog, roedd hi'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n falch bod y Llywodraeth wedi ei nodi drwy addo cefnogi wythnos iechyd meddwl pobl ifanc, ac roeddwn i'n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei nodi drwy addo cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc. Gallai'r cyllid hwn fod yn achubiaeth wirioneddol i gynifer o bobl ifanc sydd wedi bod yn...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo'r Gymraeg yn Islwyn drwy dechnoleg iaith ar-lein?
Rhianon Passmore: 8. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin? OQ56370
Rhianon Passmore: Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Mae pryder cynyddol ynglŷn ag agwedd Gweinidog Torïaidd Llywodraeth y DU tuag at fater y £4.8 biliwn i sbarduno adfywiad ledled y DU a weinyddir gan Whitehall. Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru barhau i sefyll yn rymus dros ddatganoli yng Nghymru, pwysigrwydd Senedd Cymru fel corff democrataidd, ac mai ni fel gwleidyddion a etholwyd yn uniongyrchol...
Rhianon Passmore: Mae pobl Islwyn, yr wyf i'n eu cynrychioli, yn eich llongyfarch chi a Llywodraeth Lafur Cymru ar achlysur cyrraedd carreg filltir hanesyddol, sef miliwn o frechiadau. Yn fy etholaeth i, sef Islwyn, mae'r brechu torfol yng nghanolfan hamdden Trecelyn yn effeithiol iawn, ac yn fedrus iawn, yn brechu niferoedd mawr o bobl. Gweinidog, gyda phedwar o bob 10 ymhlith poblogaeth oedolion Cymru wedi...