Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Buffy Williams am gyflwyno'r ddadl heddiw, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Mae'n bwnc sy'n agos at fy nghalon. Yn wir, un o'r pethau olaf a wneuthum yn y Siambr hon yn y Senedd flaenorol oedd helpu i gyflwyno dadl ar iechyd meddwl amenedigol. Mae'n bwnc sy'n haeddu lle pendant ar frig ein hagenda fel Llywodraeth, ac...
Lynne Neagle: Gall yr Aelodau fod yn sicr y byddaf yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y gallu i ddarparu'r cymorth hwn, a rhaid iddo fod ar gael mewn modd amserol a chynaliadwy. Gwyddom fod y pandemig wedi ei gwneud yn anos darparu'r cymorth bydwreigiaeth ac ymweliadau iechyd hanfodol gan unigolion penodol ar ôl rhoi genedigaeth. Byddaf yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno pwnc mor bwysig ar gyfer dadl fer a diolch hefyd i Cefin Campbell am ei gyfraniad. Mae sut a beth yr ydym yn ei fwyta yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd a'n lles. Mewn amcangyfrifon blynyddol o faint o flynyddoedd o fywyd iach a gollir yn ddiangen i salwch, anabledd a marwolaeth, mae pedwar o'r pum ffactor risg uchaf yn...
Lynne Neagle: Ceir cyfoeth o dystiolaeth sy'n dangos yn gyson fod poblogaethau sy'n bwyta llawer iawn o ffrwythau a llysiau yn cael llai o achosion o glefyd y galon a rhai mathau o ganser. Y gymysgedd o faetholion mewn ffrwythau a llysiau sy'n amddiffynnol yn hytrach nag un maetholyn unigol. Yn ogystal â'u cynnwys maethol gwerthfawr, mae ffrwythau a llysiau yn ffynhonnell dda o ffibr. Mae cysylltiad rhwng...
Lynne Neagle: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, sy'n faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu o fewn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2019-22. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ledled Cymru.
Lynne Neagle: A gaf fi ddiolch i Buffy Williams am y cwestiwn hwnnw? Rwy'n llwyr gydnabod y materion rydych chi'n tynnu sylw atynt a hefyd yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar brofiadau teuluoedd o gael babanod. Mae hwn yn faes blaenoriaeth i ni; mae'n faes blaenoriaeth yn ein cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl. Erbyn hyn mae gennym wasanaethau iechyd meddwl amenedigol ym mhob rhan o Gymru ac...
Lynne Neagle: Diolch am y cwestiwn hwnnw, Laura, a hoffwn ddweud fy mod yn frwd fy nghefnogaeth i ymwelwyr iechyd. Cefais gymorth anhygoel gan fy ymwelydd iechyd ar ôl i mi gael fy mhlentyn cyntaf ac rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn a ddywedoch chi ynglŷn â sut y gallant achub bywydau a'r rôl ddiogelu hanfodol y maent yn ei chwarae hefyd. Byddai'r hyfforddiant y cyfeiriais ato ar gyfer y cyfnod...
Lynne Neagle: Diolch am y cwestiwn hwnnw a diolch am eich dymuniadau da. Yn yr un modd, rwy'n awyddus iawn i weithio ar draws y pleidiau i wella iechyd meddwl pawb yng Nghymru. Rwy'n anghytuno â'r hyn a ddywedoch chi amdanom yn wynebu epidemig iechyd meddwl. Credaf fod angen inni fod yn ofalus iawn ynghylch yr iaith a ddefnyddiwn ac y gall y math hwnnw o iaith arwain at broffwydoliaeth sy'n gwireddu ei...
Lynne Neagle: Yn sicr, rwy'n llwyr gydnabod maint yr her sy'n ein hwynebu. Y defnydd o'r term 'epidemig' rwy'n anghytuno ag ef, mewn gwirionedd, yn y cyd-destun hwn. Mae ein dull gweithredu yng Nghymru yn seiliedig i raddau helaeth ar gydnabod bod angen inni hyrwyddo gwytnwch, mae angen inni ymyrryd yn gynnar, ac mae ein holl ddiwygiadau'n seiliedig ar newid y system gyfan, er mwyn sicrhau'r ymyrraeth...
Lynne Neagle: Diolch. Mae eich cwestiwn yn un cymhleth iawn, oherwydd, fel y dywedais pan drafodasom hyn yn gynharach yn yr wythnos, mae'r pethau hyn i gyd yn ymwneud â chydbwyso niwed, onid ydynt? A chymaint ag y mae'n niweidio plant i beidio â bod yn yr ysgol, mae hefyd yn niweidio plant os yw cyfraddau COVID yn uchel iawn a bod llawer o aelodau o'r teulu'n cael eu heffeithio. Felly, mae'r holl bethau...
Lynne Neagle: Rydym yn defnyddio dull system gyfan i wella a chefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys gweithredoedd ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a gwaith ieuenctid, gyda ffocws ar atal ac ymyrraeth gynharach, gan sicrhau hefyd fod gwasanaethau arbenigol ar gael pan fo angen.
Lynne Neagle: A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol? Mae hwn yn un o fy mhrif flaenoriaethau, ac mae gwir angen inni ddod â'r sefyllfa lle mae plant a phobl ifanc yn mynd at y drws anghywir i ben. Dyna pam rwy'n gweithio'n agos ar draws y Llywodraeth, yn enwedig gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ar weithredu ein fframwaith meithringar, grymusol, diogel a dibynadwy newydd,...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw ac am gysylltu â mi mewn modd mor adeiladol cyn y ddadl hon? Mae Luke wedi siarad gyda'r fath ddewrder am brofiadau ei deulu ei hun o ddementia. Gobeithio na fydd ots ganddo imi ddweud, yn fy mhrofiad personol i, mai anaml y daw gwir ymladdwyr o blith y rhai sydd heb eu creithio, a gwn y bydd gan...
Lynne Neagle: Mae'r 18 mis diwethaf hyn wedi bod yn anhygoel o anodd i bawb, ond i neb yn fwy na phobl sy'n byw gyda dementia. Mae colli trefn arferol, newidiadau i gymorth, ansicrwydd a'r cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal wedi gwneud sefyllfa heriol hyd yn oed yn anos. Dyna pam fy mod yn falch, yr wythnos diwethaf, ar Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd, i allu lansio'r ddogfen 'Cynllun gweithredu...
Lynne Neagle: Rwy’n gweithio gyda Gweinidogion i sicrhau bod effaith polisïau a rhaglenni ar iechyd meddwl yn gallu gwella ar draws meysydd polisi, gan gynnwys newid hinsawdd. Rydyn ni’n cynyddu ein cefnogaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl lefel is, ac mae modd cael gafael ar y gefnogaeth hon ar-lein neu dros y ffôn, heb fod angen i’r person gael ei atgyfeirio.
Lynne Neagle: We owe our veterans a debt of gratitude and a duty of care. We have shown our ongoing commitment to the Veterans’ NHS Wales mental health service by committing an additional £235,000 annually from 2021-22. This ensures a recurrent budget of £920,000 per annum, an increase of 35 per cent on previous funding.
Lynne Neagle: Yn ffurfiol.
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi siarad heddiw. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, a chyda Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn agosáu, mae hwn yn gyfle da i drafod pwysigrwydd diogelu a chefnogi ein hiechyd meddwl a'n llesiant. Mae 12 mis wedi bod ers i ni ddechrau gweithredu ein cynllun cyflawni, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddiwygiwyd mewn ymateb i'r pandemig, ac rwy'n edrych...
Lynne Neagle: Mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl ni i gyd mewn sawl ffordd wahanol iawn. Fel y mae Jack Sargeant wedi nodi, mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, ac ar rai dyddiau mae'n dda, ar rai dyddiau nid yw cystal. Rydym wedi gweld bod rhai pobl wedi teimlo'n bryderus ac ynysig ac ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud a rhai pobl hefyd yn bryderus ynglŷn ag...
Lynne Neagle: Diolch am hynny, Janet. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â'r unigolyn a grybwyllwch, ond dylwn ailbwysleisio nad ydym, diolch byth, yn gweld cynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad ar hyn o bryd. Mae'n bwysig iawn fod pob un ohonom yn wirioneddol gyfrifol yn yr iaith a ddefnyddiwn ynglŷn â hunanladdiad, oherwydd pan soniwn am gyfraddau, mae pobl yn dweud pethau fel, 'Cyfraddau'n mynd drwy'r...