John Griffiths: Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod wedi bod yn rhwystredig iawn dros flynyddoedd Llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan i weld polisïau blaengar Llywodraeth Cymru yn cael eu tanseilio gan y mesurau a gymerwyd yn San Steffan, a pho fwyaf y gallwn ni dynnu pwerau i Gymru, gan gynnwys pwerau trethu, gorau oll fydd sefyllfa Llywodraeth Cymru i ymateb i'r hyn y mae pobl Cymru yn ei...
John Griffiths: Weinidog, mae'n dda gweld cymaint o Aelodau o’r Senedd yn gweithio fel hyrwyddwyr rhywogaethau ac yn gweithio gyda grwpiau bywyd gwyllt. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer llygoden y dŵr, ac rwy'n falch o ddweud ei bod yn ffynnu ar wastadeddau Gwent, ac mae gwastadeddau Gwent eu hunain yn ein helpu i gyflawni bioamrywiaeth. Fel y gwyddoch, Weinidog, rwy'n cadeirio gweithgor ar wastadeddau...
John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau ddiolch i staff y pwyllgor a'r holl dystion a roddodd dystiolaeth inni. Roedd yn waith eithaf sylweddol, ac rwy'n credu ei fod wedi cynhyrchu adroddiad pwysig a sylweddol. Hoffwn gyfeirio at argymhelliad 6 hefyd, a'r angen am strategaeth gerddoriaeth, a fyddai, fel y dywed yr argymhelliad, yn fuddiol iawn y tu allan i Gymru, yn ogystal ag o'i...
John Griffiths: Prif Weinidog, mae llawer iawn o bryder yng Nghymru ynghylch effaith y pandemig a'r cyfyngiadau ar blant a phobl ifanc, y gwn eich bod chi'n sicr yn ei rannu. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi o ran y flaenoriaeth o gael ein plant yn ôl i'r ysgol cyn gynted â phosibl, gan ddechrau o bosibl gyda phlant y cyfnod sylfaen. A wnewch chi gytuno hefyd bod angen i ni gael ein pobl ifanc, ein plant, yn...
John Griffiths: Gweinidog, roeddwn mewn cyfarfod neithiwr yn Y Tŷ Cymunedol yn ardal Maendy yn Nwyrain Casnewydd, sydd â nifer o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cymryd rhan yn ei weithgareddau yn rheolaidd. Cafwyd cyflwyniad ar y rhaglen frechu, ynghylch amharodrwydd rhai o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan. Un o'r prif faterion oedd bod y cyflwyniad a gawsom ni gan iechyd y...
John Griffiths: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac fe wnaethom ni gyhoeddi ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf. Pan siaradais y llynedd yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, neu yn hytrach pan siaradais ddiwethaf am y gyllideb ddrafft hon ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, canolbwyntiais ar...
John Griffiths: Yr wythnos hon yw Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr y DU. Hon yw'r unfed flwyddyn ar hugain ers iddi gael ei sefydlu, a'i nod yw dathlu effaith myfyrwyr sy'n gwirfoddoli ac annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn bywyd dinesig. Heddiw, fel cadeirydd y grŵp hollbleidiol ar addysg bellach, hoffwn rannu stori a gafodd ei dwyn i fy sylw gan ColegauCymru—stori un cyn-ddysgwr yng Ngrŵp Llandrillo Menai....
John Griffiths: Gweinidog, mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn yn mynd rhagddi'n effeithiol ac yn effeithlon iawn, ac rydym ni i gyd yn ddiolchgar iawn am hynny ond, yn amlwg, mae angen i gymaint â phosibl fanteisio ar y brechlyn os ydym ni am ddiogelu Cymru fel y byddem ni'n dymuno ei wneud. Mae pethau'n mynd yn dda, yn gyffredinol, ond mae yna rai bylchau, ac rydych chi wedi cyfeirio eisoes at leiafrifoedd...
John Griffiths: Gweinidog, gwyddom fod y pandemig wedi cyflymu tueddiadau sy'n bodoli eisoes sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn i ganol ein trefi a'n dinasoedd ffynnu. Mae llawer gormod o siopau gwag, gan gynnwys siopau gwag mawr fel siop Debenhams yng Nghasnewydd ar hyn o bryd, a gwyddom fod angen inni barhau â'n hymdrechion i arallgyfeirio ac adfywio'r adeiladau hynny yng nghanol y ddinas, a chreu diben...
John Griffiths: 5. Pa waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol, cynghorau ac elusennau i gefnogi'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau? OQ56328
John Griffiths: Mae sefydliadau fel Kaleidoscope, sy'n gweithio fel rhan o brosiect cyffuriau ac alcohol Gwent, yn pryderu am yr anawsterau i sicrhau bod nifer dda o ddefnyddwyr gwasanaethau'n manteisio ar frechiadau. Mae gan eu gweithwyr rheng flaen berthynas gref iawn o ymddiriedaeth â'r defnyddwyr gwasanaeth hynny. Maent mewn cysylltiad rheolaidd â hwy ac yn deall anawsterau ffyrdd o fyw cythryblus....
John Griffiths: 3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu potensial economaidd Casnewydd yn llawn? OQ56414
John Griffiths: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r diwydiant dur yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o economi Casnewydd, gyda Tata Steel yn Llanwern, er enghraifft, a hefyd, wrth gwrs, Liberty Steel ym Mrynbuga. Rydym ni'n gwybod, Prif Weinidog, os yw'r DU yn ei chyfanrwydd yn mynd i gael y math o ddyfodol diwydiannol y mae'n ei haeddu, bod yn rhaid i ddur chwarae rhan bwysig yn hynny fel sector...
John Griffiths: Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer yr ardaloedd gwyrdd mewn dinasoedd a threfi ledled Cymru?
John Griffiths: Nid oeddwn i wedi rhoi fy enw i gerbron ar gyfer yr eitem hon, mewn gwirionedd, Llywydd.
John Griffiths: Rydym ni eisoes wedi clywed, Gweinidog, sut mae adroddiad Burns yn cynnig glasbrint ar gyfer y math o system drafnidiaeth integredig y mae angen i ni symud tuag ati, ac rwy'n hoffi'r glasbrint hwnnw yn fawr. Rwy'n awyddus iawn i weld creu'r gorsafoedd rheilffordd newydd a fwriedir yn Nwyrain Casnewydd fel gorsaf rhodfa Magwyr, y gwn eich bod yn gyfarwydd â hi ac sy'n arloesol iawn, a hefyd...
John Griffiths: Rwy'n croesawu'r cynllun gweithredu yn fawr iawn, Gweinidog, ac rwy'n derbyn yn llwyr y pwynt yr ydych wedi ei wneud, ac y mae cynifer o'r rhanddeiliaid wedi ei wneud, yn gyson dros gyfnod o amser, y bu llawer o nodi problemau, ond dim hanner digon o weithredu i fynd i'r afael â nhw, ac rwyf i'n credu mai dyna pam y mae cynllun gweithredu i'w groesawu gymaint. Fel yr ydych wedi ei ddweud,...
John Griffiths: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o helpu Cymru drwy'r pandemig a thu hwnt?
John Griffiths: 3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru? OQ56499
John Griffiths: Weinidog, mae anghydraddoldebau iechyd yn y DU a Chymru yn peri cryn bryder. Mae dynion yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn byw 10 mlynedd yn llai ar gyfartaledd na'r rheini yn y cymunedau lleiaf difreintiedig, ac i fenywod, mae'r gwahaniaeth bron yn wyth mlynedd. Ac o ran blynyddoedd iach bywyd, mae'r gwahaniaeth bron yn 19 mlynedd, ac mae hynny'n wir am y ddau ryw. Felly, gyda'r math...