Vikki Howells: Gweinidog, fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i anfon y sylwadau calonogol niferus a ddaeth i law oddi wrth drigolion Cwm Cynon, sydd wedi cysylltu â mi i fynegi eu rhyddhad a'u gorfoledd am eu bod nhw wedi cael y brechlyn, a'u diolch nhw i bawb a wnaeth hynny'n bosibl. Mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer brechu yn esbonio bod pob brechiad yng Nghymru yn cael ei gofnodi yn...
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Fel y gwyddoch chi, rwyf wedi cwrdd â menywod a theuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan fethiannau hen wasanaethau mamolaeth Cwm Taf, rwyf wedi cyfarfod â staff mamolaeth sydd ers hynny wedi gweithio mor galed i weddnewid y gwasanaeth, ac wedi dilyn gwaith y panel arbenigol a'i adolygiad drwyddo draw. Mae gennyf dri chwestiwn i chi heddiw. Yn...
Vikki Howells: Weinidog, yr wythnos diwethaf, cychwynnodd cyngor Rhondda Cynon Taf ail gam ei ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllideb 2021-22, gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill yn cael eu gwahodd i ddweud eu barn am y cynigion penodol a amlinellwyd. Mae hyn yn cynnwys: codiad arfaethedig o 2.65 y cant yn y dreth gyngor, sef y codiad lleiaf, fwy na thebyg, yng Nghymru y flwyddyn nesaf, a llai na'r...
Vikki Howells: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â darparwyr tai cymdeithasol am y ffordd orau o gefnogi eu tenantiaid yn ystod pandemig y coronafeirws?
Vikki Howells: 3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu asesiad Llywodraeth Cymru o'i gwariant cyfalaf yng Nghwm Cynon yn ystod tymor presennol y Senedd? OQ56259
Vikki Howells: Diolch i chi, Weinidog. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cwm Cynon wedi elwa'n sylweddol o gyllid Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Efallai mai'r maes gwariant cyfalaf mwyaf arwyddocaol fu'r buddsoddiad parhaus mewn adeiladau addysgol yn yr ardal. Mae cwm Cynon wedi gweld mwy o fuddsoddiad gan gyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru nag unrhyw etholaeth arall yng...
Vikki Howells: 5. Pa ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gefnogi dysgwyr yng Nghwm Cynon y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar eu haddysg? OQ56260
Vikki Howells: Diolch yn fawr iawn am yr ateb cynhwysfawr hwnnw, Weinidog. Mae tystiolaeth wedi dangos yn gyson fod y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn mwy o berygl o syrthio ar ôl eu cyfoedion wrth ddysgu gartref, am amryw o resymau cymhleth a rhyngberthynol. Cefais y fraint yn ddiweddar o fynychu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, lle sonioch chi am y cynlluniau sy'n dod...
Vikki Howells: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd meddwl brys? OQ56338
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Rwy'n pryderu yn arbennig am ein plant a'n pobl ifanc yn gallu cael y gofal priodol o ran y pwysau a roddwyd arnyn nhw yn ystod y pandemig. Felly, mae i'w groesawu bod Llywodraeth Cymru wedi eu blaenoriaethu gyda'r £9.4 miliwn diweddar ar gyfer y cynllun arbrofol mewngymorth ysgolion a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Fodd bynnag, mae'r...
Vikki Howells: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn Cymraeg 2050? OQ56311
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Mae ffigurau diweddar wedi dangos mai Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer fwyaf o ddisgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o'r holl ardaloedd cyngor yn ardal Consortiwm Canolbarth y De, gydag ychydig o dan 19 y cant o ddysgwyr. Gwneir llawer iawn o waith i wella'r cynnig cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Cynon ymhellach eto drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain...
Vikki Howells: A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau a roddwyd i gartrefi gofal i ganiatáu ymweliadau diogel yn ystod pandemig y coronafeirws?
Vikki Howells: 4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am leoliadau gwaith tymor byr i ddysgwyr o rannau eraill o Ewrop sy'n dod i Gymru ar ôl Brexit? OQ56350
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â ColegauCymru, sy'n poeni y bydd y costau a'r amserlenni arfaethedig ar gyfer dysgwyr galwedigaethol o'r UE sy'n dymuno gwneud profiad gwaith di-dâl byr yn y DU yn gwneud lleoliadau o'r fath yn anodd iawn. Os ydynt ar waith ar gyfer dysgwyr yr UE sy'n dymuno dod i'r DU, gallent hefyd fod ar waith ar gyfer dysgwyr o Gymru sy'n dymuno mynd ar...
Vikki Howells: Rwy'n siarad heddiw mewn dadl sydd wedi ennyn llawer o ddiddordeb a llawer o angerdd ar y ddwy ochr. Mae'r deisebau ger ein bron yn dystiolaeth o hyn, ac mae ychydig dros 17,000 o bobl i gyd wedi'u llofnodi, ac mae nifer fawr o unigolion a grwpiau wedi cysylltu ag Aelodau i gyflwyno eu hachos. Fodd bynnag, o edrych ar bobl yn fy etholaeth i, mae'r duedd yn fawr iawn tuag at gefnogi deiseb...
Vikki Howells: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56395
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Yn ogystal â rhoi cartrefi addas i'r diben i bobl sy'n agored i niwed, mae'r grant tai cymdeithasol hefyd wedi helpu i adfywio safleoedd allweddol sy'n ddiffaith a segur, sydd i'w gweld yn aml mewn mannau amlwg iawn yn ein cymunedau. Un enghraifft yn fy etholaeth i yw'r adeilad segur ar Stryd Rhydychen yng nghanol y dref yn Aberpennar, safle y mae Tai Cynon Taf yn ei droi'n...
Vikki Howells: 3. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'i ymateb i bandemig parhaus y coronafeirws? OQ56444