Lesley Griffiths: Diolch. Drwy’r systemau cynllunio a rheoli adeiladu, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod datblygiadau newydd yn hygyrch i bob aelod o’r gymdeithas. Er mwyn cadarnhau pwysigrwydd mynediad i bawb, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid yn ddiweddar ar gyfer hyfforddiant ar y mater a fynychwyd gan 160 o weithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig.
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o werth ffordd goedwig Cwmcarn i’r cymunedau lleol ac i ymwelwyr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi sefydlu gweithgor i edrych ar y cyfleoedd hirdymor yno, gan gynnwys sut y gellir ariannu llwybrau cerdded a beicio, a meysydd gwersylla, yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Lesley Griffiths: Rwy’n credu ei fod yn ymwneud â chael cydbwysedd. Mae’n ymwneud â phobl yn cael mynediad, mae’n ymwneud â’r amgylchedd, mae’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid. Yn y Llywodraeth flaenorol, fe wyddoch ein bod wedi cael Papur Gwyrdd ynglŷn â mynediad. Byddaf yn edrych ar yr argymhellion a’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gawsom mewn perthynas â hynny cyn gwneud unrhyw...
Lesley Griffiths: Diolch. Bydd cynllun datblygu lleol Caerdydd yn chwarae rhan ganolog yn y broses o ffurfio lle a gwella ansawdd bywyd drwy ddarparu adeiladau a gofod cyhoeddus o ansawdd uchel ac wedi’u cynllunio’n dda. Mae trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded wedi’u cynllunio’n dda a gyflwynir drwy’r CDLl yn galluogi mynediad cynaliadwy at swyddi, ysgolion a siopau.
Lesley Griffiths: Wel, yn amlwg, mae Caerdydd wedi cyflwyno eu CDLl. Rwy’n gwybod ei fod yn gydbwysedd bregus iawn rhwng bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau ar gyfer tai a gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n tyfu, ac amddiffyn y pwyntiau rydych newydd eu crybwyll. Rwy’n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yno, a gallwn weld yr amcanion yn glir iawn, a chyfrifoldeb fy swyddogion yw...
Lesley Griffiths: Wel, mater i bob awdurdod lleol unigol yw’r CDLl. Rwyf am gael Cynlluniau Datblygu Lleol wedi’u mabwysiadu ar waith ac rwy’n credu bod yna chwe awdurdod lleol nad ydynt wedi gwneud hyn eto. Rwyf wedi gofyn iddynt fwrw ymlaen â hyn. Os nad oes gennym y Cynlluniau Datblygu Lleol hynny ar waith, fel y gwn yn fy etholaeth fy hun, mae gennych ddatblygwyr yn dod â chynlluniau nad ydynt yn...
Lesley Griffiths: Gwnaf. Mae taliadau polisi amaethyddol cyffredin o £350 miliwn bob blwyddyn yn chwarae rhan hanfodol bwysig yn cynnal hyfywedd ffermydd Cymru a gwireddu gweledigaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ynghylch diwydiant amaethyddol ffyniannus a gwydn yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Rwy’n credu bod sylwadau’r Aelod i gyd yn gwbl ddamcaniaethol.
Lesley Griffiths: Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Roeddwn yn y digwyddiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwyf wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, sydd wedi anfon neges gadarnhaol iawn i’w haelodau y dylent bleidleisio dros aros yn yr UE yfory. Gwyddom fod y farchnad sengl yn gwbl allweddol i’n sectorau ffermio a bwyd ac rwy’n credu bod y peryglon...
Lesley Griffiths: Wel, mewn gwirionedd, wyddoch chi, rwyf ar ganol fy mis cyntaf yn y portffolio ac rwy’n credu eu bod yn cael mwy na’r 15 y cant yn ôl mewn gwirionedd. Rydym yn y broses o sefydlu’r cynllun grantiau bach ac mae’r ffermwyr yn hapus iawn â’r hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â hynny.
Lesley Griffiths: Mae rhaglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru 2014-20 yn cefnogi cymunedau gwledig a’r economi gyda chyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a’r UE. Mae pymtheg o gynlluniau wedi agor yn barod a bydd grantiau bach Glastir yn agor ar 27 Mehefin. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fireinio a datblygu’r rhaglen.
Lesley Griffiths: Rwy’n credu eich bod yn hollol gywir. Mae angen i ni weld llawer mwy o newid trawsnewidiol, ac mae angen i ni wneud hynny mewn partneriaeth â’r ffermwyr. Yn sicr, o fy nhrafodaethau gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, maent yn barod iawn ar gyfer hyn. Rwy’n credu eu bod am weld rhywfaint o gyflymder wrth symud ymlaen. Un o’r pethau rwyf wedi’u trafod...
Lesley Griffiths: Wel, ym mis Mai y llynedd y cafodd ei gymeradwyo, felly ychydig dros flwyddyn yn unig sydd wedi bod. Rydym wedi agor 15 o gynlluniau: agorais gynllun pellach yr wythnos diwethaf. Mae gennym dros £260 miliwn o gyllid wedi’i ymrwymo ar draws pob sector. Felly, fel rwy’n dweud, rwy’n credu bod potensial aruthrol ar gyfer y sector. Rwyf eisiau gweithio’n iawn ar y mentrau strategol hynny...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae gwella ansawdd aer yn lleol yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt fonitro ansawdd aer a chyflawni cynlluniau gweithredu i’w wella mewn ardaloedd a effeithir gan lefelau uchel o lygredd.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae fy swyddogion wedi ceisio sicrwydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer yr A472 ger Crymlyn a grybwyllwyd gennych, o ran y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yn lleol. Mae’r cyngor yn trefnu cyfarfod grŵp llywio fis nesaf, fel rydych yn gwybod mae’n siŵr, a byddant yn cael mewnbwn gan grwpiau lleol a thrigolion...
Lesley Griffiths: Rwy’n ofni nad oes gennyf y data hwnnw ar hyn o bryd, ond byddaf yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda hynny.
Lesley Griffiths: Unwaith eto, mae’n ddrwg gennyf nad oes gennyf y wybodaeth ynglŷn â’r gwaith ymchwil o fy mlaen, ond byddaf yn ysgrifennu atoch.
Lesley Griffiths: Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad yr wythnos nesaf ar reoli perygl llifogydd ac arfordirol ar gyfer Cymru gyfan. Yn ddiweddar cyhoeddwyd cynlluniau rheoli perygl llifogydd Rhondda Cynon Taf a Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n nodi’r dull manwl o reoli perygl llifogydd yng Nghwm Cynon.
Lesley Griffiths: Ydw, rydych yn hollol gywir. Mae’r llefydd hyn wedi elwa o gyfraniadau cyllid yr UE ar gyfer cynlluniau rheoli perygl llifogydd. Maent wedi ategu ein cyllid ein hunain hefyd, ac maent wedi ein galluogi i gynyddu nifer yr eiddo sy’n cael eu hamddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Ydy, cytunaf yn llwyr. Wrth i ni edrych ar ba gynlluniau y byddwn yn eu hariannu dros y blynyddoedd nesaf, mae’n rhywbeth y gallwn edrych arno—y mater penodol hwnnw. Mae yna bob amser dechnoleg ac ymchwil sy’n dangos ffyrdd newydd o wneud hynny i ni, ac mae’n bwysig iawn fod gennym yr hyblygrwydd i allu gwneud hynny.