David Rees: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r gefnogaeth i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol?
David Rees: A wnaiff y Gweinidog roi manylion y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Tata Steel a Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi bwriad Tata i atal y broses o werthu ei weithfeydd gwneud dur yn y DU? EAQ(5)0036(EI)
David Rees: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb yna ac am ei sicrwydd bod Llywodraeth Cymru wir yn parhau i ddilyn y gwahanol agweddau? Fodd bynnag, fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae’r diwydiant dur wedi bod mewn sefyllfa anodd ers nifer o flynyddoedd. Yn wir, eleni, ym mis Ionawr, cyhoeddodd Tata Steel y byddai 1,000 o swyddi yn cael eu colli; ym mis Mawrth, cyhoeddodd werthiant...
David Rees: Mae gen i nifer o gwestiynau.
David Rees: Rwy’n sylweddoli hynny, Lywydd, ond rwy'n siŵr y byddwch chi’n gwerthfawrogi bod yr etholaeth yn llawn—
David Rees: Y cwestiwn olaf, felly. Mae'r undebau llafur wedi mynegi eu barn i mi. Fe wnaethant fy ffonio i heddiw. Nid ydyn nhw eisiau i’r broses werthu gael ei hatal. A wnewch chi drafod â Tata a Llywodraeth y DU i gael y broses werthu yn ôl ar y trywydd cywir, os dim byd arall, ochr yn ochr â'r ystyriaethau eraill sydd ganddyn nhw?
David Rees: Brif Weinidog, diolch i chi am yr ateb yna, ac rydym ni’n gweld cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant dur, drwy’r prosiectau hyn, yr wyf yn eu croesawu’n fawr iawn, ym Mhort Talbot. Ond hefyd, rydym ni wedi gweld dros yr haf, ers i ni gyfarfod ddiwethaf, gwelliannau ariannol yn y diwydiant dur ym Mhort Talbot hefyd, lle gwelsom golledion o £1 filiwn y dydd cyn hynny, ac rydym...
David Rees: Hoffwn ddechrau drwy ddatgan bod fy ngwraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi tynnu sylw at rai o'r agweddau da sy'n digwydd, yn ogystal â thynnu sylw at yr ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer PABM mewn gwasanaethau canser a gofal heb ei drefnu ymlaen llaw. Pa waith monitro y byddwch yn ei wneud i sicrhau, wrth i ni...
David Rees: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r trafodaethau a gafodd yn America mewn perthynas â hyrwyddo a chefnogi'r gwaith cynhyrchu dur yng Nghymru?
David Rees: Weinidog, a gaf fi ymuno â’r Aelod dros Orllewin De Cymru, oherwydd roeddwn innau hefyd am holi’r cwestiwn ynglŷn â sicrhau bod y prosiect Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, prosiect a welwn yn cyflawni canlyniadau rhagorol mewn gwirionedd ym Mhort Talbot, gydag ystad ddiwydiannol y Parc Gwyrdd yn cael ei thrawsnewid yn ardal werdd hyfryd a thai cymdeithasol, adfywio hen orsaf y frigâd...
David Rees: 5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â threchu tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0021(CC)
David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree ei adroddiad, ‘We Can Solve Poverty in the UK’, a dynnai sylw at bum pwynt. Un o’r rhain oedd cryfhau teuluoedd a chymunedau, sy’n rhan o’ch cylch gwaith. Maent hefyd yn cynnwys pedwar argymhelliad. Yn fy etholaeth i, sef Aberafan, mae llawer o deuluoedd yn ei...
David Rees: 8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â gweinidogion cyfatebol yn San Steffan ynghylch cyllid adfywio yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE? OAQ(5)0027(CC)
David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Aberafan wedi elwa o gronfeydd adfywio’r UE ac wedi gweld llawer o brosiectau’n cael eu datblygu yn y cymunedau, gan gynnwys cwm Afan. Yn amlwg, bydd penderfyniad pobl Prydain i adael yr UE yn dod â’r ffrwd gyllido hon i ben. Ond nid yw hynny’n atal effaith y caledi sy’n deillio o San Steffan, yn enwedig ar yr awdurdodau lleol sy’n...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad, ac nid wyf yn dymuno tynnu sylw oddi ar y materion sy’n ymwneud â recriwtio meddygon teulu, ac rwy’n siŵr y byddwch yn dod at hynny’n fuan. Ond o’r hyn rydych wedi ei drafod hyd yn hyn, y strategaeth Dewis Doeth yr argymhellodd Llywodraeth Cymru y llynedd, neu yn ystod y sesiwn olaf, a gofal iechyd darbodus yw’r ffordd gywir mewn gwirionedd o...
David Rees: Yn dilyn ymlaen o hynny, Brif Weinidog, yn amlwg, mae'r cynghorau'n wynebu anawsterau oherwydd toriadau cyni cyllidol San Steffan yn cael eu trosglwyddo i lawr iddyn nhw; maen nhw’n edrych ar y gwasanaethau i’w darparu a llyfrgelloedd cymunedol yw un o'r ffyrdd y mae'n digwydd. Rydych chi, eich hun, wedi ymweld â llyfrgell Llansawel ac wedi gweld y gwaith sy'n cael ei wneud gan y...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwelsom amgylchiadau, megis yn fy etholaeth i pan wnaeth Tata y cyhoeddiadau ym mis Ionawr, a oedd yn galw am weithredu ar unwaith gan Lywodraeth Cymru. Yn amlwg, roedd y cymorth busnes a roddwyd i’r busnesau hynny sy’n bwydo i mewn i Tata yn hanfodol yn hynny o beth. A fydd cynllunio’n digwydd yn y dyfodol i sicrhau bod digon o...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Aethoch yn eich blaen i gael hyfforddiant athrawon, cefais innau hyfforddiant athrawon, a chredwch fi, roeddwn yn adnabod pob un o’r disgyblion y bûm yn eu dysgu. Nid oedd angen lluniau arnaf—