Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru wedi dangos bwlch cyrhaeddiad cyffredinol amlwg yn y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3. Mae merched yn perfformio’n well na bechgyn ym mhob pwnc allweddol ym mhob un o’r tri cham cyntaf o ddysgu ac am y tro cyntaf, mae’r gwahaniaeth rhwng bechgyn a merched yn y dangosydd cyfnod sylfaen...
Mohammad Asghar: Yn 2012 cefais ganiatâd i gyflwyno Bil menter yn y Cynulliad hwn. Nod fy Mil oedd argymell cyfres o fesurau i hybu twf economaidd, cyflogaeth, caffael a sgiliau. Byddai’r mesurau hyn, rwy’n credu, wedi cynyddu ffyniant ac wedi mynd i’r afael ag amddifadedd cymunedol yng Nghymru. Yn anffodus, ni lwyddodd fy Mil i ddod yn gyfraith. Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth...
Mohammad Asghar: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fframwaith cymhwysedd digidol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0176(FM)
Mohammad Asghar: Diolch i chi am yr ateb cyflym, Weinidog. Gall troseddwyr ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar-lein i gysylltu â phlant nad ydynt yn ymwybodol o fwriadau sinistr a allai fod y tu ôl i sgwrs sy’n ymddangos yn ddiniwed. Mae'r NSPCC wedi galw am i wersi diogelwch ar-lein fod yn rhan o'r cwricwlwm fel y gall plant adnabod arwyddion yr ymddygiad hwn a'i beryglon. A wnaiff y Prif...
Mohammad Asghar: Bydd y datganiad hwn heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn peri siom a gofid i bawb sydd wedi profi oedi i amser eu taith oherwydd tagfeydd ar yr M4, gan gynnwys fi fy hun, sy'n teithio bron pedair gwaith yr wythnos. Os wyf yn gadael cyn 07:00, mae'n dal i gymryd mwy na 40 munud i mi deithio o Gasnewydd i'r lle hwn. Duw â helpo'r rhai hynny sy'n dod ar ôl hanner awr wedi...
Mohammad Asghar: 6. Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn gwella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru? OAQ(5)0039(EI)
Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb, Weinidog. Mae creu gweithlu medrus iawn yn hanfodol os ydym am ateb anghenion economi sy’n tyfu. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y bydd yr addewid o 100,000 o brentisiaethau a nodwyd yn y rhaglen lywodraethu yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar y busnesau i’w galluogi i dyfu, a gwella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru drwy hynny?
Mohammad Asghar: Mae’r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol wedi honni y gallai mwy o wasanaethau i helpu i wneud diagnosis o’r cyflwr hwn arbed £4.5 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Maent yn dweud mai hanner ysbytai Cymru yn unig sy’n darparu gwasanaethau cyswllt torri esgyrn i gleifion allanol ar hyn o bryd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gwasanaethau a...
Mohammad Asghar: Canfu adroddiad y llynedd gan yr elusen Gofal, sy’n arwain ar iechyd a lles meddyliol yng Nghymru fod 59 y cant o’r ymatebwyr yn barnu bod mynediad at wasanaethau alcohol statudol yn Nhorfaen yn gymedrol, yn wael neu’n wael iawn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r canlyniadau hyn, ac a wnaiff gytuno bod angen i ni adolygu’r gwasanaethau triniaeth hyn i...
Mohammad Asghar: Syr Anthony Eden, pan oedd yn Brif Weinidog ynghanol y 1950au, a gafodd y weledigaeth o greu democratiaeth sy’n berchen ar eiddo yn y wlad hon. Byth ers hynny, i Lywodraethau Ceidwadol olynol, mae ehangu perchentyaeth wedi bod yn egwyddor graidd. I ormod o’n pobl, nid oedd perchentyaeth yn ddim ond breuddwyd. Roeddent eisiau bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, ond roedd hynny y tu...
Mohammad Asghar: Nid oes gan y penderfyniad hwn sy’n cael ei yrru gan ddogma ddim i’w wneud â chynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol. Mae’n ddrwg gennyf, Joyce. Mae ganddo bopeth i’w wneud â symud y bai am fethiant llwyr Llafur, ar ôl 17 mlynedd mewn grym, i gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol. A dweud y gwir, Ddirprwy Lywydd, yn ardal Casnewydd fe geisiwyd adeiladu’r tai hynny yn y...
Mohammad Asghar: [Yn parhau.]—dull o annog perchentyaeth.
Mohammad Asghar: Un nad yw’n cael gwared ar ysgol cyfle a lladd gobeithion a breuddwydion llawer o deuluoedd yng Nghymru. Cefnogaf y cynnig.
Mohammad Asghar: Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn mynd i'r afael â chaethiwed i gyffuriau ac alcohol yng Nghymru?
Mohammad Asghar: Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi pwysleisio'r angen i gadw ein pobl hŷn yn y gweithlu ac i ddod â nhw yn ôl i'r gwaith hefyd. Sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod y 100,000 o brentisiaethau a addawyd yn ei rhaglen lywodraethu yn cael eu darparu ar sail anghenion yn hytrach nag oedran yr unigolyn yng Nghymru?
Mohammad Asghar: Gallai cynyddu mynediad i gefn gwlad sicrhau manteision sylweddol o ran gwella iechyd a lles y cyhoedd. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon y gallai mynediad digyfyngiad i gefn gwlad achosi difrod amgylcheddol ac economaidd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pryderon hyn, a sut y mae am sicrhau y bydd y broses o ehangu mynediad yn ystyried yr angen i gynnal cefn gwlad gweithredol a hyfyw...
Mohammad Asghar: Mae Ceidwadwyr Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y byddai deddfau sy’n ymwneud â lles anifeiliaid, boed yn anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm neu fywyd gwyllt, yn elwa o gael eu cyfuno’n un Ddeddf Cynulliad er mwyn sicrhau mwy o ddiogelwch a gorfodaeth yng Nghymru?
Mohammad Asghar: 9. Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn gwella cymorth i gyn-filwyr yng Nghymru? OAQ(5)0037(CC)
Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb, Weinidog. Mae’r rhaglen lywodraethu yn gwneud nifer o addewidion i wella gwasanaethau cymorth i gyn-filwyr. Fodd bynnag, nid oes sôn am gardiau i gyn-filwyr, a fyddai, o dan argymhellion eraill, yn darparu teithiau bws am ddim a mynediad am ddim i ganolfannau hamdden a safleoedd Cadw. Byddent yn rhoi mynediad â blaenoriaeth i driniaeth GIG ac addasiadau i’r cartref,...
Mohammad Asghar: 15. Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ(5)0038(CC)